Cwestiynau am Farciau ac Apeliadau

Cwestiynau am Farciau ac Apeliadau

Dyma rai o'n Cwestiynau Mwyaf Cyffredin a ofynnir am Farciau ac Apeliadau. Os na allwch weld eich cwestiwn yn cael ei ateb - neu os ydych chi am gael cyngor mwy penodol ynghylch eich sefyllfa bersonol - mae croeso i chi gysylltu â ni yn y gwasanaeth Cynghori yn Undeb Myfyrwyr PCyDDS. Rydym yn annibynnol o’r Brifysgol, ac ni fyddwn yn trafod eich achos gyda nhw heb eich caniatâd.

 

Ar y rhan fwyaf o raglenni, gallwch fel arfer weld eich canlyniadau wedi'u cadarnhau ar gyfer pob modiwl ar MyTSD, o dan y tab 'Canlyniadau a Dilyniant'. Fel arfer byddwch yn clywed gan dîm eich Rhaglen neu gan y tîm Asesiadau ar eich campws pa bryd y gallwch ddisgwyl i'r canlyniadau swyddogol gael eu rhyddhau ar MyTSD.


Y canlyniadau hyn fel arfer yw'r canlyniadau 'wedi’u cymedroli', sy'n golygu bod yr 'arholwr allanol' (h.y. ail farciwr) wedi eu cymeradwyo, a'u bod wedi'u cadarnhau gan y Bwrdd Arholi.

Cyn i'r canlyniadau 'wedi’u cymedroli’ gael eu cyhoeddi ar MyTSD, mae’n bosib y byddwch yn gallu gweld canlyniadau 'dros-dro' ar gyfer aseiniadau ar Moodle. Cofiwch, serch hynny, efallai nad yw'r canlyniadau hyn ‘wedi'u cymedroli' eto - sy'n golygu y gallent fynd i fyny neu i lawr.

Ar MyTSD, mae P yn y golofn Canlyniad Modiwl yn golygu bod y modiwl wedi'i basio, ac mae F yn golygu nad yw wedi'i basio eto.

Efallai y byddwch hefyd yn gweld y llythrennau PL. Mae hyn fel arfer yn golygu bod ymchwiliad yn cael ei gynnal ynghylch aseiniad ar y modiwl hwn am Gamymddwyn Academaidd, felly ni ellir cadarnhau'r canlyniad terfynol (a ph'un a ydych wedi pasio ai peidio) nes bod yr ymchwiliad wedi'i gwblhau. Yn anffodus, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi aros ychydig wythnosau cyn i chi glywed yn union pam bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'ch gwaith. Cysylltwch â ni am gyngor ar sut i ymateb i honiad o Gamymddwyn Academaidd.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr hyn mae eich canlyniadau’n ei olygu, dechreuwch drwy gysylltu â'ch darlithwyr neu'r tîm Asesiadau. Mae croeso i chi hefyd gysylltu â ni.

Cyn unrhyw beth arall, cymerwch anadl ddofn, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi deall eich marciau. Os nad ydych chi'n glir ble rydych chi'n sefyll, bydd Arweinydd eich Rhaglen neu'r Tîm Asesiadau yn gallu helpu.


Gwnewch yn sicr eich bod yn darllen yr adborth ar eich aseiniad yn drylwyr. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn ei gylch, cysylltwch â'ch Tiwtor Modiwl - byddant yn gallu eich helpu i ddeall pam eu bod wedi dyfarnu'r marciau hynny.

Dylech gadw mewn cof, hyd yn oed os ydych chi wedi gwneud yn llawer gwaeth na'r disgwyl mewn un neu ddau o fodiwlau, mae’n bosib na fydd hynny’n gwneud unrhyw wahaniaeth ar y cyfan:


● Os ydych chi ym mlwyddyn gyntaf (Lefel 4) gradd Israddedig, ni fydd eich marciau ar gyfer modiwlau unigol yn cyfrif tuag at ddosbarthiad eich gradd derfynol, cyn belled â'ch bod yn pasio'r flwyddyn.
● Nid yw'r 20 credyd sydd â'r sgôr isaf (neu, os ydych chi'n graddio yn 2020-21, nid yw'r 40 credyd sydd â'r sgôr isaf) ar bob lefel yn cael eu cyfrif ar gyfer dosbarthiad eich gradd - felly mae'n bosibl na fydd un neu ddau o farciau siomedig ar gyfer modiwlau’n effeithio ar eich proffil cyffredinol. Fodd bynnag, efallai nad dyma yw’r achos ar eich cwrs (er enghraifft, os ydych chi'n astudio ar raglen broffesiynol sy’n cael ei hachredu gan gorff allanol), felly mae'n bwysig gwirio hyn gydag Arweinydd eich Rhaglen.

Os ydych chi'n dal i fod yn bryderus, fe allech chi ystyried gwneud Apêl Academaidd. Gallwch ddarllen mwy am hyn isod: 

Mae'r cyngor hwn ar gyfer y mwyafrif o raglenni CertHE - er enghraifft, myfyrwyr ar raglenni CertHE Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu raglenni CertHE Arweinyddiaeth a Rheolaeth a addysgir yn PCyDDS Llundain a PCyDDS Birmingham. Os ydych chi'n astudio tuag at CertHE wahanol ac yn bwriadu symud ymlaen i radd Baglor, gallai'r rheolau fod yn wahanol. Cysylltwch â ni am gyngor penodol.

Mae eich rhaglen CertHE ar Lefel 4 - h.y. mae'n cyfateb o ran safon i Flwyddyn 1 gradd Baglor.

Er mwyn symud ymlaen i Flwyddyn 2 (Lefel 5) y radd Baglor o raglen CertHE, fel rheol byddai angen i chi basio pob un o'r 120 credyd, gyda sgôr o 40% neu'n uwch.
Os ydych chi wedi methu unrhyw fodiwlau, fel arfer mae gennych yr hawl i ail-sefyll - gallwch ddarllen mwy am ail-sefyll isod.

Y nifer fwyaf o gyfleoedd i ail sefyll yw dau. Os ydych chi wedi cael dau gyfle i ail-sefyll a’ch bod heb eu pasio (neu heb gyflwyno unrhyw waith ar eu cyfer), bydd y Bwrdd Arholi fel arfer yn gofyn i chi adael y rhaglen, ac ni fydd yn caniatáu i chi symud ymlaen i'r cwrs Baglor. Fodd bynnag, os oes gennych chi 'Amgylchiadau Esgusodol' - h.y. anawsterau yn eich bywyd personol neu o ran eich iechyd sydd wedi effeithio ar eich astudiaethau, a’ch bod wedi rhoi gwybod i'r Brifysgol amdanynt - mae’n bosib y byddwch yn gymwys i gael cyfle pellach i ail-sefyll. Cysylltwch â ni am gyngor ar hyn.

Mewn rhai sefyllfaoedd, os byddwch yn methu un modiwl o drwch blewyn (gyda sgôr o 30% o leiaf), efallai y caniateir i chi symud ymlaen i Flwyddyn 2 (Lefel 5) y radd Baglor. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i chi fodloni amodau eraill hefyd. Cysylltwch ag Arweinydd eich Rhaglen neu'r Tîm Asesiadau (Asesiadau Llundain neu Asesiadau Birmingham) os nad ydych yn siŵr a ddylai hyn fod yn berthnasol i chi.

Os gofynnwyd i chi adael eich rhaglen, ond eich bod yn credu y dylech fod wedi cael caniatâd i symud ymlaen i'r radd Baglor, dylech wirio yn gyntaf gydag Arweinydd eich Rhaglen neu'r Tîm Asesiadau (Asesiadau Llundain neu Asesiadau Birmingham).

Os ydych chi'n credu bod y Bwrdd Arholi wedi gwneud camgymeriad, neu'n eich trin yn annheg, fe allech chi ystyried gwneud Apêl Academaidd. Gallwch ddarllen mwy am hyn isod.

Mae'r cyngor hwn ar gyfer y rhan fwyaf o raglenni gradd Baglor - ond cofiwch y gallai rhai rhaglenni (yn enwedig y rhai sydd â gofynion cofrestru proffesiynol) ddilyn rheolau ychydig yn wahanol, felly gwiriwch ag Arweinydd eich Rhaglen os nad ydych chi'n siŵr. Gallwch hefyd ddarllen y Rheoliadau ar gyfer Cymwysterau a Addysgir yn llawn ym Mhennod 6 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd (yr adran sydd ei hangen arnoch yw tudalennau 50-58), a'r polisi Rhwyd Ddiogelwch yn yr atodlen ar Reoliadau Wrth Gefn (os ydych chi'n graddio yn 2020-21).

Yn achos y rhan fwyaf o raddau Baglor (Israddedig), mae dosbarthiad eich gradd yn seiliedig ar eich sgôr cyfartalog ar draws y modiwlau hynny sydd wedi cael y sgôr uchaf. Yn yr un modd â'ch modiwlau, mae 70% yn Ddosbarth 1af, 60% yn 2:1, 50% yn 2:2 a 40% yn 3ydd. Os mai 35% yw eich cyfartaledd a'ch bod yn pasio o leiaf 60 credyd, gallwch fod yn gymwys ar gyfer Gradd ar lefel Pasio.

Fodd bynnag, nid yw pob un o'ch modiwlau yn cael eu cyfrif. Nid yw’r 20 credyd sydd â'r sgôr isaf yn cael eu cynnwys yn y cyfrifiad. Yn hytrach, maen nhw'n cyfrifo'ch cyfartaledd gan ddefnyddio'r ddau ddull canlynol, a'ch dosbarthiad gradd yw'r uchaf o'r ddau gyfartaledd:

● NAILL AI eich 100 credyd gorau ar lefel 5 a'ch 80 credyd gorau ar lefel 6. Mae'r credydau ar lefel 6 wedi'u pwysoli 2x eich credydau ar lefel 5.
● NEU eich 100 credyd gorau ar lefel 6 yn unig.

(Os ydych chi'n graddion yn 2020-21, o dan y Polisi Rhwyd Ddiogelwch, nid yw’r 40 credyd sydd â'r sgôr isaf yn cael eu cynnwys yn y cyfrifiad.)

Os ydych chi'n sgorio cyfartaledd (yn y naill ddull neu'r llall) o 48-49%, 58-59% neu 68-69%, rydych chi’n 'ffiniol'. Yn y sefyllfa hon, mae’n bosib y cewch eich symud i fyny un dosbarthiad mewn rhai amgylchiadau. Mae'r rheolau ar gyfer hyn ychydig yn fwy cymhleth, felly mae croeso i chi gysylltu â ni am gyngor.

Os ydych chi'n credu bod eich dosbarthiad gradd wedi'i gyfrif yn anghywir, dylech wirio yn gyntaf gydag Arweinydd eich Rhaglen a oes gwahanol reolau yn berthnasol ar eich rhaglen. Os ydych chi'n dal i fod yn anfodlon â dosbarthiad eich gradd, fe allech chi ystyried gwneud Apêl Academaidd. Gallwch ddarllen mwy am hyn isod:  

Mae'r cyngor hwn ar gyfer y rhan fwyaf o raglenni gradd Meistr - ond cofiwch y gallai rhai rhaglenni (yn enwedig y rhai sydd â gofynion cofrestru proffesiynol) ddilyn rheolau ychydig yn wahanol, felly gwiriwch ag Arweinydd eich Rhaglen os nad ydych chi'n siŵr. Gallwch ddarllen y Rheoliadau ar gyfer Cymwysterau a Addysgir yn llawn ym Mhennod 6 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd (yr adran sydd ei hangen arnoch yw tudalennau 58-67), a'r polisi Rhwyd Ddiogelwch yn yr atodlen ar Reoliadau Wrth Gefn (os ydych chi'n graddio yn 2020-21).

Mae i’r mwyafrif o raglenni gradd Meistr Ran I a Rhan II. Rhan I yw’r rhan o’r rhaglen 'a addysgir', ac mae'n werth 120 credyd (6 x 20 modiwl credyd fel arfer). Rhan II fel arfer yw’r traethawd hir, neu'r prosiect annibynnol, ac mae'n werth 60 credyd.

Fel arfer, mae'n rhaid i chi basio Rhan I cyn y gellir caniatáu i chi symud ymlaen i Ran II. Cofiwch, er mwyn 'pasio' ar lefel Meistr, bod angen 50% (nid 40%).

I basio Rhan I, fel rheol byddai angen i chi basio pob un o'r 120 credyd gyda sgôr o 50% neu'n uwch. Fel arfer, byddai gennych yr hawl i ail-sefyll modiwlau a fethwyd unwaith (gyda sgôr wedi'i gapio o 50%) - gallwch ddarllen mwy am ail-sefyll isod.

Mae’n bosib y bydd y Bwrdd Arholi’n caniatáu i chi symud ymlaen i Ran II gyda hyd at 20 credyd heb eu pasio. Gelwir hyn yn 'gydoddefiad'. Fodd bynnag, nid yw'n awtomatig, ac mae rhai amodau y mae'n rhaid i chi eu bodloni. I fod yn gymwys i gael 'cydoddefiad', byddai angen i chi fod:

• Â sgôr cyfartalog o 50% neu'n uwch ar draws y 120 credyd, AC
• Wedi pasio (h.y. sgôr o 50% neu'n uwch) mewn o leiaf 100 o'r 120 credyd (y mae'n rhaid iddynt gynnwys pob un o'r 'modiwlau craidd'), AC
• Wedi sgorio o leiaf 45% yn y 20 credyd sy'n weddill

(O dan y Polisi Rhwyd Ddiogelwch, mae’n bosib y bydd y Bwrdd Arholi’n caniatáu i chi symud ymlaen i Ran II gyda hyd at 40 credyd heb eu pasio.)

Os ydych chi'n credu y dylech chi fod wedi cael caniatâd i symud ymlaen i’ch traethawd hir, dylech wirio yn gyntaf gydag Arweinydd eich Rhaglen a oes gwahanol reolau yn berthnasol ar gyfer eich rhaglen. Os ydych chi'n dal i fod yn anfodlon â’r penderfyniad i beidio â chaniatáu i chi wneud hyn, fe allech chi ystyried gwneud Apêl Academaidd. Gallwch ddarllen mwy am hyn isod: 

Bydd fel arfer - pan fyddwch chi'n methu modiwl unigol, mae'r Bwrdd Arholi yn gyffredinol yn cynnig cyfle i’w ail-sefyll. Fodd bynnag, ni ellir sicrhau hyn, ac (yn dibynnu ar eich rhaglen) efallai y bydd yn rhaid i chi fodloni amodau eraill hefyd. Cysylltwch ag Arweinydd eich Rhaglen yn gyntaf os nad ydych chi'n siŵr ble rydych chi'n sefyll.

Os oes rhaid i chi ail-sefyll, mae eich marc ar gyfer y modiwl fel arfer wedi'i gapio ar y marc pasio (40% ar raglen Israddedig, 50% ar raglen Ôl-raddedig). Os gofynnoch chi i'r Brifysgol ystyried 'Amgylchiadau Esgusodol' pan wnaethoch chi gwblhau'r aseiniad, mae’n bosib y bydd y Bwrdd Arholi yn cytuno i adael i chi ail-sefyll heb osod cap ar eich marc.

Efallai y bydd y Bwrdd Arholi yn gofyn i chi ail-sefyll yn llwyddiannus cyn symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf, neu mewn rhai amgylchiadau yn ystod y flwyddyn nesaf. Yn 2020-21, mae'r polisi Rhwyd Ddiogelwch yn caniatáu i chi fethu hyd at 40 credyd (mae hynny’n ddau fodiwl ar y mwyafrif o raglenni) o drwch blewyn, a pharhau i symud ymlaen i flwyddyn nesaf y cwrs heb orfod ail-sefyll. Gelwir hyn yn 'gydoddefiad'. Fodd bynnag, dim ond dan rai amodau y gallwch chi wneud hyn - er enghraifft, ar radd Baglor, mae'n rhaid i chi fod wedi cael marc sydd dros 30%, ac ni all y modiwlau a fethwyd fod yn 'Fodiwlau Craidd'. Unwaith eto, os nad ydych yn siŵr a yw hyn yn berthnasol i chi, holwch Arweinydd eich Rhaglen yn gyntaf.

Os ydych chi'n credu y dylech chi fod wedi cael cynnig ail-sefyll, ond y gwrthodwyd hyn - neu os ydych chi'n credu y dylech chi fod wedi cael cynnig ail-sefyll heb fod cap ar eich marc, yn hytrach na’i fod wedi'i gapio - fe allech chi ystyried gwneud Apêl Academaidd. Gallwch ddarllen mwy am hyn isod:  

'Apêl Academaidd' yw'r dull ar gyfer gofyn i'r Brifysgol ail-ystyried penderfyniad y Bwrdd Arholi. Gallech chi gyflwyno 'Apêl Academaidd' os ydych chi'n teimlo bod y Bwrdd Arholi wedi eich trin yn annheg - er enghraifft:

● Rydych chi wedi cael marciau ar gyfer modiwl y mae gennych chi reswm dilys i anghytuno â hwy;
● Mae gennych reswm dilys i anghytuno â dosbarthiad eich gradd derfynol;
● Mae'r Bwrdd Arholi wedi penderfynu'n annheg na allwch barhau ar eich rhaglen, heb gynnig cyfle i chi ail-sefyll

Pan fyddwch chi’n cyflwyno Apêl Academaidd, bydd y Swyddfa Academaidd - sy'n rhan o'r Brifysgol, ond sy'n annibynnol o’ch rhaglen - yn ymchwilio i'r ffeithiau. Os ydyn nhw'n cytuno eich bod chi wedi cael eich trin yn annheg, byddan nhw'n gofyn i'r Bwrdd Arholi ail-ystyried eu penderfyniad.  

Mae Polisi Apeliadau Academaidd y Brifysgol yn caniatáu i chi Apelio ar unrhyw un o dair 'sail' (‘seiliau' yw rhesymau dilys y bydd y Brifysgol yn eu cydnabod). Yn syml, y rhain yw:
 

4.1.1. “bu gwall rhifyddol neu wall ffeithiol arall yn y canlyniadau a gyhoeddwyd gan y Brifysgol” - Gallwch Apelio os yw'r Bwrdd Arholi yn ffeithiol anghywir yn ei benderfyniad. Er enghraifft, os cyfrifwyd eich marciau neu ddosbarthiad gradd yn anghywir, neu y bu iddyn nhw gael eu mewnbynnu i'r system yn anghywir.
 

4.1.2. “roedd yna amgylchiadau lliniarol, nad oedd y corff academaidd, am reswm da, yn ymwybodol o’r ffactor arwyddocaol yn ymwneud ag asesiad myfyriwr pan wnaeth ei benderfyniad gwreiddiol, ac mae tystiolaeth annibynnol i ddangos rhesymau digonol pam na roddwyd gwybod i’r Brifysgol amdanynt ynghynt.” - Gallwch Apelio os oedd yna anawsterau - er enghraifft, problem yn eich bywyd personol, neu’n ymwneud â’ch iechyd - a effeithiodd ar eich perfformiad yn yr asesiad. Fodd bynnag, dim ond os gallwch chi brofi nad oeddech yn gallu rhoi gwybod i'r Brifysgol amdanynt ar y pryd y mae'r 'seiliau' hyn yn ddilys. Er enghraifft, os yw'r Brifysgol yn credu y gallech, ac y dylech, fod wedi eu hysbysu yngynt (e.e. trwy wneud cais ar MyTSD am Amgylchiadau Esgusodol), yna bydd eich Apêl yn cael ei gwrthod.
 

4.1.3. “Roedd diffygion neu anghysondeb yn y ffordd y cynhaliwyd yr asesiad neu mewn cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu o ran y cyngor a roddwyd ynghylch yr asesiad, lle mae achos prima facie y gallai diffygion, anghysondeb neu gyngor o’r fath fod wedi cael effaith niweidiol ar berfformiad y myfyriwr” - Gallwch Apelio os oedd yr asesiadau eu hunain, neu'r cyfarwyddiadau a gawsoch, yn ddiffygiol neu'n gamarweiniol. Bydd angen i chi ddangos y gallai'r problemau yn yr asesiadau neu'r cyfarwyddiadau a gawsoch fod wedi effeithio ar eich canlyniad terfynol.

Ni allwch wneud Apêl Academaidd dim ond oherwydd eich bod yn teimlo bod eich marciau'n rhy isel - os gwnewch hynny, bydd eich Apêl yn cael ei gwrthod. Mae prifysgolion yn y DU i gyd yn dilyn egwyddor a elwir yn 'ddyfarniad academaidd'. O dan yr egwyddor hon, nid yw barn broffesiynol y marciwr ynghylch pa farc i roi ar gyfer darn o waith yn fater ar gyfer trafodaeth. (Os oes gennych chi bryderon difrifol am gymhwysedd ac ymddygiad eich darlithydd, y ffordd i gael eich llais wedi’i glywed am hyn yw trwy'r Polisi Cwynion Myfyrwyr. Gall Undeb y Myfyrwyr roi cymorth i chi gyda hyn.)

Mae gennych chi 21 diwrnod - 3 wythnos - o ryddhau’r canlyniadau gan y Bwrdd Arholi i gyflwyno'ch Apêl Academaidd. Ni fydd eich Apêl fel arfer yn cael ei hystyried os yw'n hwyr (oni bai bod amgylchiadau eithriadol), felly mae'n well ceisio cyngor gan Undeb y Myfyrwyr gynted â phosib. Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.  

Gallwch wneud eich Apêl Academaidd trwy lenwi'r Ffurflen Apêl Academaidd SC07 ar-lein. Mae dwy ffurflen wahanol - un ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio ar un o gampysau PCyDDS, ac un ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio gyda sefydliad Partner (os nad ydych yn siŵr pa un sy'n berthnasol i chi, cysylltwch ag Undeb y Myfyrwyr neu Arweinydd eich Rhaglen am gyngor). Gallwch ddod o hyd i’r naill a’r llall yma.

Bydd angen i chi nodi ar y ffurflen yn union pa benderfyniad gan y Bwrdd Arholi rydych chi'n Apelio yn ei erbyn (y ffordd orau o wneud hyn yw 'copïo a gludo' hwn o e-bost y Bwrdd Arholi atoch chi, er mwyn osgoi unrhyw ddryswch). Mae angen i chi hefyd ddewis eich 'sail' benodol o'r rhestr uchod.

Bydd angen i chi ddarparu datganiad fel rhan o'ch Apêl Academaidd. Gallwch hefyd uwchlwytho hyd at 10 ffeil fel tystiolaeth ategol.

Cyn cyflwyno'ch Apêl, dilynwch ein cyngor isod ar wneud eich Apêl mor gryf â phosibl. Mae croeso i chi hefyd gysylltu â ni i gael adborth ar eich datganiad.  

Y peth pwysicaf i'w gofio wrth ysgrifennu eich datganiad yw nad yw'r Swyddog Achosion yn y Swyddfa Academaidd sy'n ymchwilio i'ch Apêl yn eich adnabod chi nac yn gwybod llawer am eich sefyllfa. Mae'n debygol na fyddan nhw'n adnabod eich darlithwyr yn bersonol, gan eu bod nhw'n gweithio mewn rhan hollol ar wahân o'r Brifysgol - dyna pam maen nhw'n gallu ymchwilio i'ch achos yn annibynnol. Mae bron yn sicr na fyddant yn gwybod pa aseiniadau y gofynnwyd i chi eu cwblhau, oni bai eich bod chi’n dweud wrthynt. Felly, pan fyddwch chi'n mynd ati i ysgrifennu eich datganiad, rhowch eich hun yn eu sefyllfa nhw - pa fath o wybodaeth gefndir y byddent yn ei chael yn ddefnyddiol wrth ymchwilio i'ch achos?

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu datganiad cryf:

● Ysgrifennwch bopeth yn nhrefn amser - h.y. o'r dechrau i'r diwedd. Er enghraifft, "Cefais fy nerbyn i'r ysbyty ar 4ydd Chwefror. Ceisiais ffonio fy Nhiwtor Modiwl, Owain Glyndŵr, ar 5ed Chwefror, ond ni chefais ateb (ffeil dystiolaeth 1: sgrin-lun o alwadau na atebwyd ar eich ffôn). O'r diwedd, llwyddais i gysylltu â'm darlithwyr ar 12fed Chwefror... "
● Rhowch fanylion llawn. Rhowch ddyddiadau ar gyfer digwyddiadau a sgyrsiau, ac enwau llawn (nid dim ond enwau cyntaf) staff y Brifysgol sy'n ymwneud â'ch achos. Rhowch deitlau llawn y modiwlau a’r codau ar gyfer modiwlau. Bydd hyn yn helpu'r Swyddog Achosion i benderfynu â phwy y mae angen iddynt siarad.
● Cysylltwch yr hyn rydych chi'n ei ddweud â'r dystiolaeth rydych chi'n ei darparu. Er enghraifft, "Fe wnaeth fy meddyg fy nghynghori i beidio â defnyddio cyfrifiadur trwy gydol y cyfnod asesu, felly nid oeddwn yn gallu cyrchu MyTSD i gyflwyno Amgylchiadau Esgusodol (ffeil dystiolaeth 2: llythyr gan y meddyg)".
● Dechreuwch a diweddwch bob paragraff gyda 'brawddeg pwnc' a 'brawddeg i gloi' sy'n cysylltu'r hyn rydych chi'n ei ddweud â'ch 'sail' dros Apelio. Er enghraifft, "Ni ellid yn rhesymol fod wedi disgwyl i mi gwblhau fy nghais Amgylchiadau Esgusodol o'r ysbyty ... [datganiad yn cysylltu â’r dystiolaeth] ... Fel yr wyf wedi dangos, nid oedd cyfle yn yr ysbyty i ymwneud â'r broses Amgylchiadau Esgusodol, a chredaf felly fod fy sefyllfa’n ateb y gofynion ar gyfer sail am Apêl."

Ar ôl i chi ddrafftio'ch datganiad, mae croeso i chi gysylltu â ni am adborth, neu i gael awgrymiadau ar ba dystiolaeth fyddai'n ddefnyddiol.  

Gall y Broses Ffurfiol gymryd hyd at 40 diwrnod. Gynted y bydd y Swyddfa Academaidd wedi derbyn eich Apêl, dylech gael cydnabyddiaeth trwy e-bost. Dylai'r e-bost cydnabyddiaeth roi gwybod i chi pryd y gallwch ddisgwyl clywed y canlyniad. Os nad ydych chi wedi derbyn hwn cyn pen wythnos ar ôl cyflwyno'r ffurflen, cysylltwch â'r Swyddfa Academaidd (aocases@uwtsd.ac.uk) i gadarnhau ei bod wedi cyrraedd.

Bydd y Swyddfa Academaidd yn penodi Swyddog Achos i ymchwilio i'ch Apêl. Mae’n bosib y bydd y Swyddog Achos yn cysylltu â chi gyda chwestiynau am eich achos i gael eglurhad, neu i ofyn am gael gweld mwy o dystiolaeth. Mae'n bwysig eich bod yn cadw llygad ar eich mewnflwch tra bo'ch Apêl yn cael ei hystyried, oherwydd, os yw'r Swyddog Achos yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth, ac nad yw'n clywed gennych o fewn 7 diwrnod, byddant fel arfer yn parhau â'u hymchwiliad beth bynnag.

Os yw'r Swyddfa Academaidd o'r farn bod eich achos yn debygol o gymryd mwy na 40 diwrnod, byddant yn anfon e-bost atoch cyn y terfyn amser i roi gwybod i chi. Os ydych chi wedi aros am fwy na 40 diwrnod a heb glywed unrhyw beth, cysylltwch â aocases@uwtsd.ac.uk i ofyn am ddiweddariad, neu cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.  

Mae un cyfle olaf i gyflwyno'r achos i'r Brifysgol - gelwir y cam hwn yn 'Adolygiad o Ganlyniad'. Mae gennych 14 diwrnod i wneud cais am hyn ar ôl i ganlyniad eich Apêl gael ei anfon atoch. Cysylltwch â ni gynted â phosibl am gyngor a chymorth gyda'r cam hwn.

Os ydych chi’n gwneud cais am Adolygiad o Ganlyniad, bydd y Swyddfa Academaidd yn gofyn i Swyddog Achos newydd gynnal yr ymchwiliad. Cofiwch fod y 'sail' ar gyfer gwneud cais am Adolygiad o Ganlyniad yn wahanol i'r sail ar gyfer gwneud cais am Apêl Academaidd. Yn syml, er mwyn 'ennill' Adolygiad o Ganlyniad, mae'n rhaid i chi ddangos un o'r canlynol:
 

18.1.1.1. “anghysondeb yn y modd y cynhaliwyd y weithdrefn apeliadau academaidd, sy’n ddigon i beri amheuaeth resymol na fyddai'r un penderfyniad wedi'i wneud pe bai hynny heb ddigwydd” - Gallwch wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad os oedd y weithdrefn a ddilynwyd gan y Swyddog Achos oedd yn ymchwilio i'r Apêl yn anghywir, a bod hynny o bosib wedi arwain at iddynt ddod i'r penderfyniad anghywir.
 

18.1.1.2. “bodolaeth tystiolaeth berthnasol newydd na allai'r myfyriwr, am resymau digonol, fod wedi’i darparu ynghynt yn y broses” - Gallwch wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad os oes tystiolaeth newydd y gallwch ei darparu ar gyfer at eich Apêl. Fodd bynnag, i ofyn am Adolygiad o Ganlyniad ar y 'sail' hon, mae'n rhaid i chi ddangos bod rheswm da pam na allech fod wedi darparu'r dystiolaeth hon ar gyfer eich Apêl yn y lle cyntaf.
 

18.1.1.3. “nid oedd canlyniad yr apêl yn rhesymol o ystyried amgylchiadau’r achos” - Gallwch wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad os yw penderfyniad y Swyddog Achos yn afresymol, o ystyried ffeithiau eich achos.

I wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad, bydd angen i chi lenwi Ffurflen SC11, y gallwch ddod o hyd iddi yma. Ar ôl i chi wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad, dylech dderbyn ymateb terfynol y Brifysgol cyn pen 28 diwrnod. Cadwch lygad ar eich e-byst rhag ofn y bydd y Swyddog Achos yn cysylltu â chi i gael mwy o dystiolaeth neu eglurhad.

Mae un opsiwn arall ar ôl os yw eich Adolygiad o Ganlyniad hefyd yn cael ei wrthod, neu os na allwch fodloni'r 'sail' ar gyfer Adolygiad o Ganlyniad, ond eich bod yn dal i gredu eich bod wedi cael eich trin yn annheg. Gallwch gyflwyno Cwyn i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol er Addysg Uwch, sef corff cenedlaethol sy'n gallu cynnal ymchwiliad i brifysgolion yng Nghymru a Lloegr. Mae gennych chi hyd at 12 mis o ddyddiad cau eich achos yn PCyDDS i wneud cwyn o’r fath. I wneud hyn, bydd angen i chi ofyn am lythyr 'Cwblhau Gweithdrefnau' gan y Brifysgol, a dilyn y cyfarwyddiadau yma. Unwaith eto, gall Undeb y Myfyrwyr eich helpu gyda'r rhan hon o'r broses, felly mae croeso i chi gysylltu â ni am gymorth ac arweiniad pellach.