Blaendal

Ar ddechrau cytundeb tenantiaeth newydd, talwch eich blaendal i’ch landlord neu asiant fel arfer. O fewn 14 diwrnod, mae gofyn i’r landlord neu asiant roi gwybodaeth i chi ynglŷn â sut caiff eich blaendal ei warchod, gan gynnwys:

  • Manylion cysylltu’r cynllun gwarchod blaendal tenantiaeth
  • Manylion cysylltu’r landlord neu’r asiant
  • Sut i wneud cais am ryddhau’r blaendal
  • Gwybodaeth sy’n esbonio diben y blaendal
  • Beth i’w wneud os oes anghydfod ynglŷn â’r blaendal Os nad ydych chi’n

Os nad ydych chi’n cael yr wybodaeth hon, Gofynnwch y cwestwn syml hwn i’ch landlord neu asiant: ‘Sut mae fy mlaendal yn cael ei warchod?’.

 

Mae tri chynllun ar gyfer gwarchod blaendal:

 

Gwnewch yn sicr eich bod yn gofyn i’ch landlord amdano!

Mae’r llywodraeth am sicrhau bod eich blaendal tenantiaeth yn cael ei amddiffyn: Er mwyn i chi gael eich blaendal yn ôl yn gyfan, neu ran ohono, pan fydd gennych chi hawl i hynny, a bydd yn haws datrys unrhyw anghydfod rhyngoch chi â’ch landlord neu asiant.

 

Gwarchod eich blaendal

Mae’n ddyletswydd arnoch i ddychwelyd yr eiddo yn yr un cyflwr ag yr oedd pan y gosodwyd y lle i chi, a chaniatáu ar gyfer traul teg. Mae’n syniad da sicrhau pan fyddwch chi’n arwyddo eich cytundeb, eich bod yn:

  • Tynnu lluniau o’r ystafelloedd ac unrhyw ddifrod neu draul, cyn i chi symud i mewn.
  • Cadw rhestr fanwl o’r cynnwys (dodrefn a gosodiadau)
  • Gwirio dan ba amgylchiadau y gallai eich landlord neu asiant ddal eich blaendal yn ôl.

 

Beth ddylech chi ei wneud os nad yw eich landlord neu asiant wedi gwarchod eich blaendal?

Gallwch wneud cais i’ch llys sirol lleol; gall y llys wedyn orchymyn eich landlord neu asiant i naill ai ad-dalu eich blaendal i chi, neu ei osod mewn cynllun gwarchod blaendaliadau.

www.gov.uk/tenancy-deposit-protection

 

Blaendal

  • Dylech gael eich blaendal yn ôl o fewn 10 diwrnod ar ôl diwedd y denantiaeth, os ydych chi a’ch landlord yn cytuno ar faint ddylid ei dalu’n ôl i chi.
  • Mae sut mae hyn yn gweithio os oes anghytno’n dibynnu ar y math o gynllun mae eich landlord yn ei ddefnyddio (gwnewch yn sicr bod gan y landlord a’r cynllun eich manylion cywir, e.e. cyfeiriad ar gyfer anfon pethau ymlaen, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn).
  • Mae’n rhesymol i’ch landlord ddal arian yn ôl o’ch blaendal mewn achos lle bu difrod i’r eiddo neu’r dodrefn, neu eitemau ar goll o’r rhestr y cytunwyd arni ar ddechrau’r denantiaeth. 
  • Ni ddylai’r landlord gymryd arian allan o’r blaendal i dalu am draul teg (h.y. difrod sydd wedi digwydd yn raddol yn sgil defnydd cyffredin o ddydd i ddydd.