Cwestiynau Cyffredin

Rhoi terfyn ar gytundeb cyfnod gosod

Mae rheolau arbennig yn perthyn i sut gallwch chi ddod â'ch tenantiaeth i ben os yw am gyfnod gosod (e.e. chwe mis neu flwyddyn), sydd heb ddod i ben eto. Gallai eich tenantiaeth fod am gyfnod penodol, hyd yn oed os ydych chi'n talu'r rhent bob wythnos/mis (mae'n bwysig eich bod chi'n gwybod os ydych chi mewn cytundeb cyfnod penodol).

 

Ydw i'n gallu rhoi rhybudd i fy landlord, ac os ydw i, faint o amser?

Mae llawer o gytundebau cyfnod penodol (gan gynnwys rhai tenantiaethau sicr byr â landlordiaid preifat) yn cynnwys cymal terfynu, sy'n caniatáu i chi ddod â'r cytundeb i ben cyn diwedd y cyfnod penodol. Gwiriwch eich cytundeb i weld os yw'n cynnwys cymal fel hwn. Os nad yw eich cytundeb yn cynnwys cymal terfynu, yna dylai hefyd ddweud faint o rybudd sydd ei angen; os nad yw'n cynnwys cymal terfynu, yna ni allwch ddod â'r denantiaeth i ben yn gynnar oni bai bod y landlord yn cytuno.

 

Ydw i'n gallu cael rhywun arall i symud i mewn?

Gall hyn fod yn bosib os nad oes gennych chi unrhyw ddewis ond gadael yn gynnar, a'ch bod am osgoi talu rhent ar fwy nag un cartref. Serch hynny, rhaid i chi gael y landlord i gytuno i'r unigolyn hwnnw symud i mewn i'r eiddo. Mae'n bosib y bydd y landlord am gael geirda ar eu cyfer nhw. Dylai'r landlord roi cytundeb tenantiaeth newydd i'r unigolyn yma - fel arall byddwch chi'n dal i fod yn gyfreithiol gyfrifol am y denantiaeth.

 

Beth os yw fy landlord yn cytuno fy mod i'n gallu gadael?

Mae'n bosib dod allan o'r cytundeb ar unrhyw amser os gallwch chi â'r landlord gytuno ar hynny. Gelwir hyn yn 'ildio'. I fod yn ddilys, rhaid i'r naill ochr a'r llall gytuno, ac mae'n well os yw'r cytundeb yn cael ei wneud mewn ysgrifen, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddryswch yn nes ymlaen. Os oes gennych chi denantiaeth ar y cyd, rhaid i bob un o'r tenantiaid ar y cyd a'r landlord gytuno i'r ildio.

 

Beth sy'n digwydd pan fydd fy nghytundeb yn dod i ben?

Os yw eich cytundeb am gyfnod penodol (e.e. chwe mis), gallwch adael ar ddiwrnod olaf y cyfnod penodol, ond rhaid i chi sicrhau nad ydych chi'n aros ddiwrnod yn fwy, neu byddwch yn dod yn denant cyfnodol yn awtomatig, a bydd rhaid i chi roi rhybudd go iawn. Mae cyfathrebu da'n helpu i bethau fynd yn hwylus, felly er nad oes rhaid i chi wneud hynny, mae'n dal i fod yn syniad da rhoi gwybod i'r landlord pan fyddwch chi'n symud allan.