Symud I Mewn

Ydych chi’n teimlo’n gyffrous am symud i mewn i'ch lle newydd? Mae'n deimlad cyffrous (ac ychydig yn frawychus). Ond peidiwch â phoeni, byddwn yn eich tywys trwy rai o'r prif bethau y dylech eu gwneud wrth symud i mewn.  

 

Rhestr eiddo

Bydd eich landlord yn rhoi rhestr eiddo ysgrifenedig i chi, sef rhestr o’r gosodiadau, ffitiadau a’r dodrefn yn yr eiddo. Mae angen i chi wirio popeth! Sicrhewch eich bod chi’n cymryd nodiadau o unrhyw waith rydych chi’n meddwl sydd angen ei wneud. Os oes unrhyw anghysondeb, cytunwch nhw â’r landlord a sicrhewch ei fod yn llofnodi. Os na chawsoch chi restr eiddo ysgrifenedig, ysgrifennwch un a sicrhewch eich bod chi a’r landlord yn ei llofnodi.

 

Biliau

Ar y diwrnod y cewch chi allweddi’r eiddo, nodwch ffigurau’r mesuryddion nwy a thrydan. Mae’n werth cael ffeil i gadw’r holl filiau ynghyd. Yna, os byddwch chi’n talu bil, gallwch sicrhau bod modd i’ch cydlety- wyr gofnodi faint a phryd gwnaethon nhw eich talu chi.

 

Treth Cyngor

Gall myfyrwyr llawn amser cofrestredig wneud cais am eithriad rhag talu treth cyngor. Gellir gwneud hyn drwy fynd i’r Gofrestrfa i gael tystysgrif eithriad.

 

Yswiriant Cynnwys

Sicrhewch eich bod chi’n cael yswiriant cynnwys! Bydd hwn yn sicrhau bod eich pethau gwerthfawr, gan gynnwys cyfrifiaduron, teledu ayyb. Yn cael eu gwarchod.

 

Diogelwch Nwy, Trydan a Thân

Dan y gyfraith, mae gofyn i landlordiaid sicrhau bod pob cyfarpar nwy yn cael ei wirio’n flynyddol gan beirianwyr sydd wedi cofrestru â Gas Safe. Mae hefyd angen id- dyn nhw wneud yn siŵr bod pob cyfarpar trydanol a ddarperir yn dangos marc CE (mae gwneuthurwyr yn honni ei fod yn ateb gofynion Cyfraith Safon Diogelwch Ewropeaidd). Dylai eich landlord ddarparu larwm dân ar gyfer pob llawr a chanfodydd carbon monocsid mewn unrhyw ystafell sy’n defnyddio tannwydd called. Gallwch hefyd ofyn i’r Gwasnaeth Tân ac Achub ymweld â’ch eiddo i gynnal Asesi- ad Risg Tân yn y Cartref.

www.fireservice.co.uk

 

Trwydded Deledu

Os ydych chi’n berchen ar deledu, yna bydd angen i chi fod â thrwydded deledu. Os oes gennych chi denantgiaeth ar y cyd, does ond angen bod ag un drwydded. Os yw’r denantiaeth yn un unigol, mae angen trwydded ar wahan ar gyfer pob person.

www.tvlicensing.co.uk

 

Biniau ac Ailgylchu

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa ddyddiau mae eich sbwriwel a’ch ailgyl- chu’n cael ei gasglu. Os ydych chi’n ansicr ynglŷn â hyn, holwch gymydog neu ewch ar-lein gan ddefnyddio eich cod post. Cadwch du allan yr eiddo’n daclus ac yn lân gan osgoi plâu a drewdod a fydd yn eich gwneud yn amhoblogaidd â’r cymdogion!

www.gov.uk/recycling-collections