Mae’r ap anhygoel hwn, gyda sawl trac sain ar gyfer cysgu a llacio straen, myfyrdod dan arweiniad a dosbarthiadau ar gyfer Athrawon i leddfu straen, yn ogystal â helpu gyda chwsg a llesiant; ar gael am ddim! Mae fersiwn uwchraddedig ar gael sy'n caniatáu mwy o nodweddion (mae’r un sydd am ddim yn iawn).
Ap am ddim yw hwn sy'n canolbwyntio ar lesiant, technegau anadlu a gwrthdyniadau. Gall helpu ar gyfer straen a phryder, cysgu, cymhelliant a mwy. Mae gwasanaeth cyffredin ac un wedi’i uwchraddio ar gael, ac mae'r sesiynau’n para rhwng 4 - 30 munud.
Ap myfyrdod a chysgu am ddim yw Calm. Gall ddarllen straeon i chi, chwarae cerddoriaeth i’ch helpu i ymlacio, neu draddodi areithiau ysgogol wrth i chi weithio neu wneud ymarfer corff!
Tudalennau lliwio ar gael yn ddigidol ac AM DDIM gan artistiaid annibynnol. Serch hynny, rydym yn argymell anfon rhodd at yr artistiaid i'w helpu i'w cadw i fynd yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Dechreuwch eich diwrnod gyda sesiwn ymarfer corff gan Joe Wicks; mae hyn yn wych i'r teulu cyfan ac yn ffordd berffaith o ddadebru.