Awgrymiadau gan Ddarlithwyr

Mae darlithwyr PCyDDS Dr. Caroline Lohmann-Hancock, Phillip Morgan, a Ken Dicks wedi llunio rhestr o awgrymiadau defnyddiol i helpu â gwneud astudio yn haws. 

 

Cronfeydd Data

  • Mae cronfeydd data yn allweddol ar gyfer ymchwil! Ni fydd defnyddio dim ond eich sleidiau PowerPoint yn sicrhau’r marciau rydych chi'n anelu atynt.
  • Mae gennym gronfeydd data mewnol (yn y Llyfrgell) a rhai allanol! Siaradwch â'ch darlithydd ynghylch y rhai sy'n berthnasol i'ch cwrs.
  • Mae graddau sy'n seiliedig ar ymarfer yn elwa'n fawr o ddefnyddio cronfeydd data!
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod beth yw eich arddull cyfeirnodi a'ch bod yn cyfeirnodi’n gywir!

 

Traethodau

  • Y peth cyntaf - CYFRIF GEIRIAU! Peidiwch â cheisio cynnwys popeth rydych chi'n ei wybod am bwnc mewn un darn o waith; edrychwch ar y cyfrif geiriau a'r cwestiwn a nodwch beth yw'r wybodaeth fwyaf perthnasol yn y gofod sydd gennych chi i weithio ynddo.
  • Wrth ddadansoddi'ch cwestiwn, ystyriwch y cwestiynau hyn: Beth yw'r ffocws / y pwnc? Beth maen nhw am i chi ei wneud? 
  • Y rhan fwyaf o'r amser, cwestiwn y traethawd YW eich rhagarweiniad! Ar ôl i chi ei ddadelfennu ac yna nodi'r amcan dysgu o'r cwestiwn hwnnw, dyna fframwaith eich rhagarweiniad yn barod ar eich cyfer chi!
  • Gellir gwirio casgliadau’r traethawd gyda'r cwestiynau hyn: Beth am hynny? Pwy sy’n malio? Beth sydd nesaf? - Felly beth ydych chi wedi'i ddarganfod? Pwy / beth mae'n effeithio arno? Ac i ble allai'r ymchwil fynd o’r fan yma? 
     

 

Cyflwyniadau  

  • Cofiwch fod cyflwyniadau'n cael eu defnyddio yn y byd gwaith! Cymerwch y rhain fel cyfleoedd i ymarfer a chael adborth!
  • Mae'r sgiliau hyn yn esblygu, o wyneb-yn-wyneb yn unig, i recordio deunydd i ffrydio byw! Mae’n bwysig cynllunio, ymarfer, ymddiried ynddoch hun, a chofiwch anadlu!
  • Cadwch eich pen i fyny! Edrychwch ar eich cynulleidfa! Pobl yw'r gynulleidfa, bodau dynol ydyn nhw, ac rydyn ni yma i gynnig cefnogaeth i chi! 

 

Traethawd Hir  

  • Mae’n bwysig i chi ymddiried ynoch eich hun! Mae eich profiad prifysgol wedi arwain at hyn; fel darlithwyr rydym yn ymddiried ynoch chi!
  • Dewiswch rywbeth rydych chi'n angerddol yn ei gylch; os nad ydych chi'n angerddol am y pwnc, byddwch chi'n cael trafferth ysgrifennu'ch traethawd hir.
  • Meddyliwch am y traethawd hir fel nifer o draethodau llai rydych chi'n eu cysylltu â’i gilydd, gan ddweud wrth y darllenydd pam mae un adran yn symud ymlaen i'r darn nesaf.
  • Peidiwch â theimlo dan bwysau i ddechrau gyda’r rhagarweiniad; os oes gennych chi adran sy'n hawdd ei hysgrifennu, dechreuwch gyda honno!
  • Mae’n bwysig cwrdd â'ch goruchwyliwr! Rydym yma i roi cefnogaeth i chi! O'r cynnig cychwynnol, yr holl ffordd drwodd nes ei gyflwyno. Meddyliwch amdanom ni fel eich 'ffrind beirniadol' a all roi adborth i chi!
  • Mae data / tystiolaeth sy'n dangos bod myfyrwyr sy'n mynychu eu cyfarfodydd goruchwylio yn cael graddau gwell na myfyrwyr sydd ddim yn gwneud hynny.

 

Cyfeirnodi

  • Cadwch gofnod o bopeth a'i gadw'n drefnus! Os ydych chi'n mynd i ddarllen rhywbeth, dim ond unwaith y dylech chi fod yn ei ddarllen. Ysgrifennwch rif y dudalen a'r ffynhonnell, hefyd sut y byddech chi'n ei gyfeirnodi, fel bod hwn gennych chi o'r cychwyn cyntaf! 
  • Pan fyddwch yn lawrlwytho ffeiliau PDF a.y.b. cadwch nhw o dan enw sy’n gwneud synnwyr fel y gallwch ddod o hyd iddyn nhw eto!
  • Nodwch eich cyfeirnodau yn nhrefn yr wyddor!
  • Unwaith y byddwch chi'n ymrwymo i arddull cofnodi sy'n addas i chi, mae'n gweithio mewn gwirionedd!
  • Defnyddiwch adnoddau fel RefWorks; gall gyflymu eich dull o gyfeirnodi a chadw cofnod cywir o bopeth rydych wedi'i ddarllen er mwyn adeiladu gwell llyfryddiaeth.

 

Myfyrdodau a Darnau Myfyriol

  • Cyfeirir ato'n aml fel arfer myfyriol - dyna'r allwedd, ARFER!
  • Nid yw'n ymwneud â dim ond 'beth sydd wedi digwydd', mae'n ymwneud â'r hyn sydd wedi digwydd mewn cyd-destun proffesiynol, gan ddefnyddio gwybodaeth ac ymchwil i'ch helpu i ddeall y cynnwys yn well a meddwl am rywbeth cadarnhaol y gallwch ei ddatblygu a gwneud yn well y tro nesaf.
  • Daw'r syniad o atblygedd i mewn i hyn, sut wnaethoch chi ymdrin â’r dasg? Nid dim ond ystyried beth aeth yn dda neu'n anghywir a sut rydych chi'n ei gywiro, ond ystyried pam.
  • Mae rhan o'r broses yn gwyro’n naturiol tuag at rannau negyddol y dasg neu'r broses, ond mae'r rhain yn bethau i'w datblygu a gwella arnynt fel rhan o'ch taith ddysgu.
  • Mae angen i chi gofio dadbacio'r hyn a aeth yn dda a gwneud hynny eto!

 

Myfyrwyr Lefel 3

  • Mae angen i chi ymddiried yn eich darlithydd a rhoi cynnig ar bopeth! Mae angen i ni ddiddymu'r ofn o fod yn anghywir, hyd yn oed os ydym yn cael 40% yn iawn y tro hwn, gallwn adeiladu ar hynny y tro nesaf! 
  • Mae’n bosib y byddwch chi'n penderfynu y byddwch chi efallai eisiau adeiladu i gyfeiriad arall ar ddiwedd Lefel 3; dylech weld hyn fel taith a dod o hyd i ble rydych chi am fynd nesaf! Mae'n gwrs sylfaen am reswm - mae'n rhywbeth i chi adeiladu arno!
  • Ewch â'ch profiad gyda chi! Mae gennym gymaint o fyfyrwyr sy'n dod o wahanol gefndiroedd, yn aml myfyrwyr hŷn, gyda chyfoeth o brofiad allan yn y byd felly peidiwch â bod ofn rhannu hynny, gan ei fod yn cyfoethogi profiad dysgu pawb yn yr ystafell. Fe'i gelwir yn swyddogol yn 'ehangu mynediad (myfyriwr hŷn) anhraddodiadol' ond y cyfan mae hynny’n ei olygu yw eich bod wedi byw ychydig! Rydym wedi bod â myfyriwr a raddiodd yn 89 oed; mae eich profiad o fywyd yn rhywbeth y gellir ei drosglwyddo i addysg uwch!
  • Os ydych chi'n ymuno â ni o goleg, nid yw cwrs sylfaen yn golygu nad ydych chi'n gallu llwyddo mewn addysg uwch; defnyddiwch y flwyddyn i ddod i arfer â'r brifysgol, dod i adnabod eich darlithwyr a phenderfynu pa gyfeiriad rydych chi am fynd â’ch addysg!

 

Mynd o astudio israddedig i ôl-raddedig.

  • Ar lefel ôl-raddedig, rydych chi'n creu deunydd i eraill ei ddarllen a'i ddefnyddio. Rydyn ni eisiau myfyrwyr sydd â chymhelliant! 
  • Rydych chi'n 'oedolion yn academaidd', ac oedi’r rhy hir cyn cyflawni unrhyw beth yw eich pryder mwyaf yn aml. Cadw ar ben eich gwaith yw'r her fawr.
  • Er bod gennym 'ofyniad mynediad' o radd israddedig 2:1, nid dyma'r unig ffordd i mewn i astudiaeth ar gyfer MA a PhD!
  • Mae angen i chi fod eisiau astudio ar y lefel hon! Rydym wedi gweld cymaint o fyfyrwyr sy'n 'ddawnus yn academaidd' ar lefel israddedig ddim yn gwneud cystal ar lefel ôl-raddedig, gan nad ydyn nhw eisiau llwyddo cymaint â myfyriwr sy'n gweithio'n galed; mae'n bleser gweld y myfyrwyr hynny yn rhagori ar eu disgwyliadau eu hunain. 
  • Fel gyda’ch traethawd hir, mae’n bwysig cadw mewn cysylltiad â'ch darlithwyr! Ystyriwch eu hadborth!