📣 Byddwch yn llais a ran myfyrwyr  

Dydd Llun 07-06-2021 - 09:00

 

Nid yw prifysgol yn ddim heb ei myfyrwyr. Dyna pam mae adborth myfyrwyr mor bwysig i PCyDDS. Gyda 16,000 o fyfyrwyr ar draws Cymru a Lloegr, mae strwythur cynrychiolwyr myfyrwyr yn helpu i sicrhau bod barn myfyrwyr yn cael ei chlywed, ble bynnag rydych chi wedi'ch lleoli.  

Yn annatod i'r strwythur hwn mae Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr (CLlM), sy'n gweithio mewn partneriaeth ag uwch staff yn y Brifysgol i ganfod datrysiadau a sicrhau bod eich lleisiau’n cael eu clywed. Dyma'r cam nesaf i fyny o fod yn Gynrychiolydd Cwrs, sy'n canolbwyntio ar faterion sy'n benodol i gwrs astudio unigol. Tra bod Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr yn cynrychioli pob myfyriwr sydd yn yr un Athrofa ar gampws. 

Mae rôl Cynrychiolydd Llais Myfyrwyr yn cynnwys gweithio gyda Chynrychiolwyr Cwrs a Swyddogion Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod barn y myfyrwyr am eu profiad academaidd yn cael ei chlywed, a bod y Brifysgol yn gweithredu ar hynny. Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu'n rhagweithiol â myfyrwyr a mynychu cyfarfodydd gydag uwch staff y Brifysgol. Mae'n gyfle gwych i wneud gwahaniaeth a gadael gwaddol y tu hwnt i'ch amser fel myfyriwr yn PCyDDS. 

O ystyried faint o newid a fu mewn cyflwyno addysgu a dysgu dros y flwyddyn ddiwethaf yn PCyDDS, megis addysgu ar-lein ar raddfa eang neu gyflwyno Modiwlau Nodweddion Graddedigion, ni fu erioed mor hanfodol i lais y myfyriwr fod yn rhan o’r broses gwneud penderfyniadau. Nawr yw eich cyfle i fod y llais hwnnw trwy ddod yn Gynrychiolydd Llais Myfyrwyr! 

 

Byddai'r rôl hon yn addas iawn i chi: 

  • Os ydych chi'n angerddol am fyfyrwyr yn cael y profiad prifysgol y maen nhw ei eisiau a'i haeddu. 
  • Os ydych chi'n agored i ymgysylltu â myfyrwyr sydd â phrofiadau amrywiol.  
  • Os ydych chi eisiau datblygu'ch sgiliau ac ennill profiad gwerthfawr i wella'ch cyflogadwyedd. 
  • Os gallwch chi ymrwymo i neilltuo amser yn rheolaidd i'r rôl. 

 

Peidiwch â chael eich darbwyllo: 

  • Os nad ydych chi'n allblyg - bydd yr hyfforddiant a'r gefnogaeth a roddir i chi yn eich helpu i ddatblygu eich hyder, ac i ddefnyddio'ch cryfderau i gynrychioli myfyrwyr yn effeithiol yn eich ffordd eich hun. Mae'n debygol y byddwch chi'n synnu'ch hun! 
  • Rydych chi'n fodlon â'ch profiad academaidd personol - mae'n bwysig bod y pethau cadarnhaol yn cael eu mynegi i'r Brifysgol hefyd (fel nad ydyn nhw'n eu newid), ac mae'r rôl hon yn ymwneud â chynrychioli barn llawer o fyfyrwyr eraill, nid eich barn chi yn unig.  
  • Mae etholiadau'n swnio'n frawychus - mae Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr yn cael eu dewis trwy broses ymgeisio a chyfweld (nid etholiad) gan Undeb y Myfyrwyr (a dydyn ni ddim yn credu ein bod ni'n codi ofn ar unrhyw un). 

 

Felly, a allech chi fod yn llais ar ran myfyrwyr fel Cynrychiolydd Llais Myfyrwyr? Mae'r ceisiadau ar agor nawr tan 9am, 5ed Gorffennaf 2021.  

Gallwch ganfod mwy am y rôl a sut i wneud cais yma!

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...