Bwyd ar gyfer yr Ymennydd

Dydd Mercher 06-01-2021 - 16:41

Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae'n debyg mai bwyta'n iach yw'r peth olaf ar feddyliau pawb. Ond wrth i ni weithio ac astudio gartref yn fwy nag erioed o’r blaen, mae'n bwysig neilltuo amser i ganolbwyntio ar ein hastudiaethau. 

Dim mwy o agor Teams ar eich gliniadur, diffodd eich meic a'ch camera ac yna neidio’n ôl i'r gwely! 

Un ffordd i wella'ch gallu i ganolbwyntio yw trwy fwyta'r bwydydd cywir; y bwyd rydych chi'n ei roi yn eich corff sy'n cael yr effaith fwyaf ar sut mae'ch ymennydd yn gweithio. Mae hyn yn arbennig o bwysig i'w gofio pan fydd terfynau amser ar gyfer cyflwyno gwaith ar y gorwel.

Trwy newid i rai o'r bwydydd hyn sy’n llesol i’r ymennydd, bydd nid yn unig yn rhoi hwb i'ch ymennydd ond hefyd yn gwella'ch cof ac yn eich helpu i gyflawni tasgau astudio ychwanegol! 
Mae'n bwysig cofio mai'ch ymennydd yw’r rhan fwyaf cymhleth o’ch corff. Edrychwch arno fel cyfrifiadur; mae'n cynnal miliynau o brosesau bob dydd ac nid yw byth yn stopio gweithio. Er mwyn ei gadw i weithio mae'n rhaid i chi ei ddarparu â’r tanwydd cywir! Y math o danwydd sydd ei angen i gadw’ch ymennydd i weithio yw glwcos, sy'n fath o siwgr. Mae'ch corff yn cael glwcos o'r bwyd rydych chi'n ei fwyta, ac mae’n cael ei ddanfon i'r ymennydd trwy'ch llif gwaed. Yn wahanol i gyfrifiadur, ni all eich ymennydd storio glwcos, felly mae'n rhaid i chi ychwanegu at y lefelau hynny trwy gydol y dydd. Rwy'n deall y gall hyn fod yn anodd rhwng darlithoedd a gwaith, felly mae byrbrydau iach fel ffrwythau a chnau yn hanfodol! Os na fyddwch chi'n dal ati i ddarparu tanwydd i’ch ymennydd, rydych chi'n debygol o ddechrau teimlo'n drist, yn bigog ac yn brin o gymhelliant. Gall effeithio ar y ffordd rydych chi'n cysgu, eich gallu i gofio pethau ac mae’n bosib y byddwch chi'n ei chael yn anodd datrys problemau. Nid dyma sut rydych chi eisiau teimlo pan fydd gennych chi derfyn amser ar gyfer cyflwyno gwaith drannoeth.  
 

 

Protein

Mae hyn yn cynnwys cig, pysgod, wyau, dofednod, codlysiau, cnau, hadau, ffa sych a chorbys, cynhyrchion llaeth a chynhyrchion soi. Bydd protein yn helpu'ch ymennydd i anfon negeseuon i weddill eich corff. Yn ogystal â hynny, mae’n helpu i greu Dopamin sydd hefyd yn cael ei alw'n “yr hormon ar gyfer teimlo'n dda” - bydd hyn yn helpu i wella'ch hwyliau.  

 

Omega-3 

Rydych chi'n cael Omega-3* o bysgod olewog, hadau/olew llin, wyau, cyw iâr a chig eidion. Canfuwyd bod Omega-3 yn helpu'ch ymennydd i weithio'n galetach a gall wella'ch iechyd meddwl, gan ei fod yn cynnwys math o asid brasterog o'r enw EPA y profwyd yn wyddonol ei fod yn brwydro yn erbyn iselder. Gall Omega-3 hefyd helpu gydag iechyd llygaid; mae hyn yn arbennig o bwysig wrth astudio ar-lein, gan ein bod yn treulio cymaint o amser yn sownd i'n sgriniau cyfrifiadur a’n tabledi.  

 

Caffîn

Gweithio trwy’r nos i gwblhau eich traethawd? Caffîn fydd eich ffrind gorau! Er hynny, cofiwch nad yw gormod o gaffîn yn dda i chi! Mae te a choffi yn ffordd berffaith o roi hwb i'ch egni pan fyddwch chi’n gweithio. Wyddech chi y gallwch chi hefyd gael caffîn o siocled tywyll? Mae bwyta tamaid o siocled tywyll gyda ffrwythau ffres yn sicr o wneud i chi deimlo'n barod i fynd i’r afael ag unrhyw aseiniad sydd angen ei orffen! Dim ond i chi fod yn gymhedrol, bydd caffîn yn gwneud i chi deimlo’n fwy effro ac yn caniatáu i chi canolbwyntio’n well!  

 

Gwrthocsidyddion

Mae gwrthocsidyddion yn sylweddau a all leihau ac arafu difrod i gelloedd a achosir gan radicalau rhydd, sef moleciwlau ansefydlog y mae'r corff yn eu cynhyrchu fel adwaith i bwysau gwaith a ffactorau amgylcheddol eraill. Rydych chi'n cael Gwrthocsidyddion o ffrwythau a llysiau; rhowch gynnig ar fwyta aeron neu yfed sudd pomgranad! Gall gwrthocsidyddion helpu i ohirio rhai effeithiau heneiddio ar yr ymennydd!  

 

Colesterol Dietegol

Mae bwydydd fel llaeth, corgimychiaid a melynwy yn cynnwys colesterol yn naturiol, gelwir hyn yn Golesterol Dietegol; mae'n cael llai o effaith ar lefel y colesterol yn eich gwaed na braster dirlawn. Mae'ch ymennydd yn dibynnu ar golesterol i greu'r celloedd sydd eu hangen i anfon negeseuon i weddill eich corff.  

 

Brasterau Monodirlawn

Dyma'r brasterau iach sydd i’w cael mewn afocados, cnau, a rhai olewau, fel olew olewydd, olew canola ac olew cnau daear. Maent yn cyfrannu at wella eich cof a sut mae eich ymennydd yn gweithio.

 

Dŵr 

Dŵr, o bosib, yw'r peth gorau y gallwch chi ei roi yn eich corff! Wedi'r cyfan, dŵr yw 73% o’ch ymennydd! Gall helpu i wella'ch cof a'ch hwyliau. Mae'r GIG yn argymell eich bod chi'n yfed 6-8 gwydraid y dydd; mae llaeth â braster isel a diodydd heb siwgr neu lefel isel o siwgr, te a choffi yn cyfrannu at y nod hwn.

 

Dyna ni! Gwnewch rai o'r dewisiadau iach hyn ar gyfer eich prydau bwyd, a bydd yn sicr o helpu i roi hwb i'ch cymhelliant i astudio a chwblhau eich gwaith o fewn y terfynau amser! 
Cymerwch ofal, Georgia 
 

*https://www.healthline.com/nutrition/11-brain-foods

 

 

 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...