Yr wythnos hon fe wnaethon ni ffarwelio â'n tîm swyddogion sabothol 2019-2020. Gofynnwyd iddyn nhw fyfyrio ar eu hamser gydag Undeb y Myfyrwyr a dweud ychydig wrthym am eu cynlluniau at y dyfodol.
Am y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi cael y pleser o fod yn Llywydd y Grŵp, a’r flwyddyn cyn hynny roeddwn yn Llywydd Campws Caerfyrddin - rwyf wedi bod wrth fy modd yn y ddwy rôl. Dyma oedd un o'r heriau mwyaf yn ystod fy amser yn PCyDDS, ond mae'n her y byddwn yn ei chymryd eto pe cawn y cyfle. Mae gwrando arnoch chi, cynnal digwyddiadau a grwpiau ffocws, ennill gwobrau ac eistedd mewn cyfarfodydd tair awr i gyd wedi bod yn brofiadau pleserus, gan fy mod yn gwybod bod pob un o'r rhain, yn eu ffordd eu hunain, gobeithio wedi cynorthwyo myfyrwyr ac wedi caniatáu iddynt gael y profiad Prifysgol gorau bosibl. Rwy’n hynod o drist fy mod yn gadael Undeb mor gadarnhaol, nd mae gen i bob ffydd y bydd James, , Georgia a Tammy yn parhau â gwaith angerddol yr Undeb, ac yn sicrhau y byddwch yn teimlo eich bod yn cael eich cynrychioli a'ch cefnogi. Diolch i bob un ohonoch a anfonodd neges neu e-bost ataf, a stopiodd i sgwrsio mewn Undeb Dros-dro, a ddaeth i grŵp ffocws neu un o’n digwyddiadau a MWY - ni fyddem yma heboch chi, a byddaf yn ddiolchgar am byth i bawb sydd wedi cefnogi'r Undeb yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Roedd bod yn Llywydd yn brofiad na feddyliais i erioed y byddwn i’n ei gael. Cefais amser anodd iawn yn ystod trydedd flwyddyn fy nghwrs gradd, a rhoddais y gorau iddi tua mis Ebrill, pan nad oeddwn i ond wythnosau o orffen fy nghwrs a graddio. Deuthum yn ôl ym mis Medi, gan ail-wneud fy ngyfnod ar leoliad gwaith, ac ar yr un pryd, ddefnyddio fy oriau sbâr i fod yn intern cynaliadwyedd INSPIRE ac yn Swyddog Gwyrdd yng Nghaerfyrddin. Doeddwn i’n gwybod fawr ddim pan ddechreuais i gymryd rhan, ond fe helpodd yr UM fi gryn lawer pan oedd fy mywyd i yn ddi-gyfeiriad, ac roeddwn i eisiau dysgu sut y gallwn roi'n ôl yr un gefnogaeth ag a gefais i. Roedd yn sicr yn brofiad ddysgu, a dysgais LAWER IAWN am y Brifysgol - y ffordd y mae'n gweithio, ei blaenoriaethau, y mecanweithiau y tu ôl i'r llenni. Ni allaf ddweud bod y ddwy flynedd gyfan wedi bod yn hwyl, ond pwy all ddweud hynny am unrhyw swydd? Mae'n sicr wedi bod yn brofiad gwerth chweil, ac yn rhywbeth yr hoffwn i weld pawb yn rhoi cynnig arno. Mae'n swydd unigryw, gyda llai na 500 o swyddogion ledled y DU bob blwyddyn, felly mae'n destun sgwrs rhagorol ac yn caniatáu i chi ddefnyddio sgiliau a dysgu y tu hwnt i'ch gradd.
Eleni, rydym wedi cael rhai buddugoliaethau, gan ddarparu nwyddau misglwyf am ddim ar gampws Caerfyrddin (gyda champysau eraill i ddilyn), hefyd cyflwynwyd polisi rhwyd ddiogelwch ‘dim anfantais’ i amddiffyn graddau'r rhai y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt. Yn ogystal â hyn, cafwyd sicrwydd o £50,000 ar gyfer iechyd meddwl gan CCAUC, cynhaliwyd dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn llwyddiannus, mae’r argyfwng hinsawdd yn cael ei drafod gyda’r Is-Ganghellor a chymaint mwy. Rwyf am ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan mewn gwneud i'r pethau hyn ddigwydd, oherwydd wnaethon nhw ddim digwydd ar eu pennau eu hunain ac mae'n bwysig cydnabod cyfraniad pawb a gyfranogodd.
Rwy'n symud ymlaen o UMyDDS i UCM Cymru! Cefais fy ethol yn Llywydd UCM Cymru ym mis Chwefror, ac mae gen i ddwy flynedd arall o gynrychiolaeth myfyrwyr, eiriolaeth a gweithio dros fyfyrwyr o fy mlaen. Rwyf wrth fy modd o fod y trydydd Llywydd UMyDDS yn olynol i gael ei ethol i'r swydd hon, ac felly diolch yn fawr i’r rheiny a fynychodd Gynhadledd Flynyddol UCM Cymru am bleidleisio i mi! Ar ôl 2022, pwy a ŵyr? Byddwn wrth fy modd yn dal ati i weithio mewn Undebau Myfyrwyr neu Brifysgolion, gan fod cymaint o waith da yn cael ei wneud gan Undebau Myfyrwyr, a byddwn i wrth fy modd cael bod yn rhan o hynny.
Mae pethau da yn cymryd amser. Ni chaiff polisïau a phwyntiau maniffesto eu datrys mewn diwrnod. Mae eich llesiant meddyliol yn hanfodol bwysig. Ni fyddwch yn plesio pob myfyriwr drwy'r amser. Manteisiwch ar gyfleoedd pan fyddant yn cael eu cyflwyno i chi. Ewch allan i wrando ar fyfyrwyr, yn hytrach na siarad â nhw - mae ganddyn nhw lawer i'w ddweud, ac mae'n iawn fel rheol. Darllenwch bapurau a nodiadau pan fyddwch chi’n eu derbyn. Os nad ydych chi’n siŵr ynghylch barn myfyrwyr am rywbeth, gofynnwch iddynt! Gwnewch yn sicr eich bod yn defnyddio CC a BCC yn gywir mewn e-byst. Defnyddiwch gyfryngau cymdeithasol er mantais i chi, a'u defnyddio er lles pobl. Mwynhewch eich hun a chredwch ynoch chi'ch hun - mae myfyrwyr y brifysgol hon wedi pleidleisio i chi am reswm.
Bydd pethau'n edrych ychydig yn wahanol i'r arfer, neu'r hyn y gwnaethoch chi ei ddychmygu. Ond eich profiad prifysgol CHI yw hwn, ac mae gennych chi hawliau fel myfyrwyr. Os ydych chi'n cael trafferth gyda rhywbeth neu ddim yn hapus â rhywbeth, dywedwch wrthym! Dim ond os ydym yn gwybod bod problem y gallwn ni helpu, felly peidiwch byth â theimlo nad yw eich problem chi’n ddigon mawr i eraill eich helpu chi i’w datrys, oherwydd po gyntaf y gwyddom, cyntaf y gallwn gynnig cymorth i chi.
Ymgeisiwch am fwrsariaethau!! Rydyn ni'n gwybod bod myfyrwyr yn brin o arian ac mae yna gronfeydd o arian a ddarperir gan y Brifysgol sydd ar gael i fyfyrwyr wneud cais amdanynt i'ch cynnal chi drwy'ch astudiaethau. Mae bwrsariaethau addysgol, bwrsariaethau gofal plant, bwrsariaethau ar gyfer offer TG, cronfeydd arian ar gyfer interniaeth a mwy ar gael i chi wneud cais amdanynt.
Cefnogwch eich cyfoedion Bydd rhai yn mynd drwy gyfnodau anodd ar hyn o bryd, ac mae'n bwysicach nag erioed, lle rydych chi'n gallu, eich bod chi'n cynnig cefnogaeth a chlust i wrando. Bydd y cynnydd mewn datgeliadau iechyd meddwl mewn Prifysgolion, trawma'r mudiad #BlackLivesMatter, profedigaeth annisgwyl oherwydd COVID-19 a mwy yn effeithio ar y rhai o'ch cwmpas. Byddwch yn garedig ag eraill, a thrin y rhai o'ch cwmpas fel yr hoffech chi gael eich trin, er mwyn helpu i greu cymdeithas gefnogol a chyfartal.
Cymerwch ofal, byddaf yn gweld eich eisiau chi i gyd.
Yn gywir,
Becky
Helo bawb, wrth i ni ddod i ddiwedd yr hyn rwy’n gwybod sydd wedi bod yn dymor heriol, rwyf am eich llongyfarch chi i gyd ar ba mor rhyfeddol rydych chi wedi bod, gan lwyddo i addasu a pharhau i ddisgleirio drwy gyfnod mor anodd. Gan mai hwn fydd y blog olaf i mi ei ysgrifennu, rwyf hefyd am ddiolch i chi i gyd am bopeth rydych chi wedi'i wneud eleni. Cynhaliwyd cymaint o ddigwyddiadau rhyfeddol dan arweiniad myfyrwyr eleni a phan ddaeth y cyfnod cloi, roedden ni'n meddwl mai dyna fyddai’r diwedd ar bethau o’r fath; ond na, fe ddaethoch chi at eich gilydd unwaith eto fel cymuned wych Llambed, ac rwy'n gwybod bod llawer ohonoch chi'n parhau i wneud pethau anhygoel. Rwyf am ddymuno'r gorau i bob un ohonoch chi ar gyfer y dyfodol. Ar ôl 5 mlynedd, rydw i'n mynd i fethu Llambed a'r holl fyfyrwyr rhyfeddol sydd yma, ond dwi'n gwybod fy mod i'n eich gadael chi yn nwylo medrus iawn fy olynydd.
Peidiwch byth ag anghofio pa mor arbennig ydych chi i gyd, a pha mor arbennig fu'ch amser yn y Brifysgol. Wrth i lawer symud i ffwrdd, symud ymlaen a symud i fyny, cofiwch bob amser lle gwnaethoch chi ddysgu'r cyfan, cofiwch lle ffurfiwyd yr atgofion a chofiwch y cyfeillgarwch. Er gwell neu er gwaeth, mae Llambed yn rhan ohonom bellach, felly beth am roi cyfle i Lambed deimlo’n falch ohonom.
Pob Lwc Tam; gen ti mae’r awenau nawr. x
Mae bod yn Llywydd Llambed wedi bod yn brofiad mor anhygoel. Mae wedi bod yn flwyddyn heriol yn bendant, yn enwedig yr ychydig fisoedd diwethaf hyn, pan fu rhaid i ni ganslo ein holl gynlluniau ac addasu mor gyflym i ffordd newydd o weithio. Eleni oedd fy mhumed flwyddyn, a'r olaf, yn Llambed ac roedd yn anhygoel gallu helpu myfyrwyr a helpu i wella profiad y myfyrwyr hynny. Rwyf hefyd wedi meithrin doethineb a phrofiad mewn meysydd na fyddai fel rheol ond ar gael i rywun sawl blwyddyn yn hŷn na fi, rhywbeth hynod werthfawr a fydd gen i am byth.
Bu cymaint o atgofion hyfryd o'r flwyddyn hon; rydyn ni i gyd wrth ein bodd â'r dyddiau cŵn ac roedd y teithiau'n wych, ond i mi, ‘Gwisgwch Binc’ oedd un o fy hoff ddiwrnodau. Roeddwn i mor falch o’r swm y llwyddon ni i'w godi, ac roedd y ffaith bod pobl yn dysgu pethau ac yn cael hwyl yn gwneud y digwyddiad yn well fyth.
Mae gen i flwyddyn ar ôl o fy ngradd Meistr (rhan-amser) felly byddaf yn gweithio ar fy nhraethawd hir. Y bwriad oedd cael swydd mewn amgueddfa tra byddwn i’n gwneud hyn, ond gyda'r sefyllfa bresennol, roedd yn rhaid i'r cynllun hwnnw newid. Rydw i nawr yn gobeithio gweithio fel Au Pair gyda theulu dramor am gyfnod a fydd, yn fy marn i, yn hwyl ac yn ffordd wych o weld mwy o'r byd.
Fy nghyngor ar gyfer y swyddogion sabothol newydd yw iddyn nhw fwynhau’r profiad! Mae amser yn hedfan heibio ac yn aml rydych chi mor brysur, ond cymerwch eiliad i'w fwynhau, neu i deimlo’n falch o'r hyn rydych chi wedi'i gyflawni. Hefyd, cymerwch amser i ffwrdd, mae'r swydd hon yn anhygoel ac yn fendigedig, ond mae hefyd yn waith caled ac mae angen i chi neilltuo amser i chi'ch hun.
I unrhyw fyfyrwyr newydd neu hen, byddwn yn argymell cymryd rhan mewn pob math o bethau. Cymryd rhan mewn digwyddiadau a gynhelir gan yr UM, mewn clybiau chwaraeon, cymdeithasau, a phethau sy'n digwydd yn y dref. Manteisiwch i'r eithaf ar y cyfleoedd anhygoel o'ch cwmpas. Rydych chi yma i astudio heb os, ond rydych chi yma hefyd i gael hwyl a thyfu fel person. O brofiad personol, mae ymuno â chlwb neu gymdeithas yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a ffurfio cyfeillgarwch a fydd yn parhau ymhell ar ôl i chi adael y brifysgol. Heriwch eich hun i roi cynnig ar rywbeth newydd!
Mae eleni wedi bod yn gorwynt o heriau i fyfyrwyr: ailstrwythuro'r Brifysgol, newidiadau o ran staff yr UM, iechyd meddwl, gorymdeithiau Brexit ar gyfer refferendwm yr UE, sefyll yn erbyn hiliaeth ac anghydraddoldeb gyda ‘Mae Bywydau Du o Bwys’, Covid-19... Rydyn ni wedi goddef cymaint. Rydych chi'n wydn! Rwy'n teimlo’n wylaidd fy mod i wedi bod yn llywydd drwy'r cyfan, ac yn hynod falch o'r holl bethau rydych chi wedi'u cyflawni gyda ni yn Undeb y Myfyrwyr. Nid yw’n ddiwedd y byd; rwy'n gadael gydag atgofion melys o fy nghyfnod yn UMyDDS hefyd, o gyflwyno ein Prif Weithredwr newydd Steve, i grwydro dinas Manceinion ar gyfer Cynadleddau.
Yn olaf, ond yn sicr nid lleiaf, mae gen i Becky a Martha i ddiolch am fod y Swyddogion Sabothol gorau y gallwn i erioed fod wedi gweithio ochr yn ochr â nhw; rwy'n wirioneddol ddiolchgar am eu hymroddiad, eu brwdfrydedd a'u hysbrydoliaeth i gyflawni newid a datblygu profiadau gwych i fyfyrwyr.
Wrth i ni wynebu ansicrwydd gyda Covid, rydw i yn fy elfen naturiol, sef mynd gyda'r llif! Byddaf yn dychwelyd adref i Gaerdydd, ac yn dod ym mis Medi rwy'n gobeithio ymuno â rhaglen Gwasanaeth Sifil i ddatblygu fy ngyrfa. Yn ogystal, rwy'n gobeithio teithio ar draws y rhan fwyaf o Ewrop rywbryd, pan fydd teithio'n haws i barhau â'm hanturiaethau o weld y byd a'i bobl.
Wrth i mi fynd, rwyf am adael ychydig o gyngor i chi:
Cyfathrebwch; bachwch ar bob cyfle i ddod ynghyd fel tîm a pharhau i ddysgu. Daliwch ati i herio'ch hun a chefnogi'ch gilydd, ac rwy'n sicr y byddwch chi i gyd yn cyflawni pethau gwych ar ran fyfyrwyr. Mae gennych chi brofiad mor wych ac unigryw o'ch blaen chi!
Croeso! Mae 4 blynedd wedi mynd heibio ers i mi ddod yma gyntaf, a gallaf gofio’n glir mor frawychus oedd i mi fod mewn amgylchedd newydd heb unrhyw gysylltiadau wedi'u sefydlu ymlaen llaw (roeddwn i’n greadur mewnblyg iawn bryd hynny). Fy nghyngor i chi: O'ch cyd-fyfyrwyr, cyd-letywyr i’r myfyrwyr hynny y byddwch chi’n cwrdd â nhw ar y campws, cofiwch fod bywyd Prifysgol yn ymwneud â'r profiad - a'r rhai rydych chi'n rhannu’r profiad hwnnw â nhw. Byddwch yn feiddgar a rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Fe welwch y gall yr UM gynnig llawer o gyfleoedd unigryw i chi ymuno â gweithgareddau a chwrdd â phobl newydd ar hyd y ffordd, a bydd hyn yn siapio'ch bywyd prifysgol.
Mae'r UM wedi gweld llawer o newidiadau eleni; Swyddogion Sabothol newydd, Prif Weithredwr newydd. Mae'n flwyddyn gyffrous o newidiadau, a gallwch chi fod wrth galon y cyfan! Mae’r UM angen eich arweiniad iddo fod yr hyn rydych chi am iddo fod, felly fy nghyngor i yw: Mynnwch gael eich clywed. Ymgysylltwch â'r UM, gadewch iddyn nhw wybod beth rydych chi ei eisiau, a rhowch help llaw i'w siapio - gallwch chi gyflawni pethau gwych gyda'ch gilydd.
Rwy'n dymuno'r gorau i chi, ac o waelod fy nghalon diolch yn fawr iawn am roi'r cyfle hwn i mi fod yn llywydd arnoch chi. Fyddwn i ddim wedi bod yma heboch chi, a fydden ni heb gyflawni popeth rydyn ni wedi’n wneud heboch chi chwaith.
Hwyl fawr!
Elis