Cael Trefn ar Bethau

Dydd Iau 07-01-2021 - 08:56

“Rydw i'n mynd i gael trefn ar fy mywyd” Un o'r celwyddau mwyaf rydyn ni'n eu dweud wrth ein hunain ar ôl “Byddaf yn barod i wynebu darlith 9am ar ddwy awr o gwsg” 

Mae Prifysgol yn hunllef. P'un a ydych chi ar eich blwyddyn gyntaf neu'n fyfyriwr ôl-radd, dydyn ni byth yn dod i arfer â'r newid syfrdanol o ran trefn bywyd. Ond un o gyfrinachau gorau addysg uwch? Mae'n iawn dechrau o fod yn gwbl ddidrefn!  

Yr allwedd i gael trefn ar eich bywyd yw derbyn y bydd pethau'n newid, ac mae yna sawl ffactor allanol a fydd yn effeithio ar p'un a ydych chi'n llawn cymhelliant y diwrnod hwnnw. Ond nid yw hynny'n dweud nad oes ffyrdd i'w gwneud yn haws i ni ein hunain.  

 

Felly, ble allwn ni ddechrau? 

CYSGWCH! Mae angen i chi sicrhau eich bod chi'n cysgu'n rheolaidd, a hynny tua'r un amser o'r dydd, a fydd yn lleihau'n sylweddol pa mor flinedig rydych chi'n teimlo oherwydd bydd eich corff wedi dod i arfer â threfn reolaidd. Sylwch i mi ddweud 'yr un amser o'r dydd'. Un o'r pethau rhyfedd am fywyd prifysgol yw, oni bai eich bod chi'n gweithio'n llawn-amser wrth i chi astudio, mae gennych chi bedair awr ar hugain i wneud yr hyn rydych chi ei eisiau, a hynny pan rydych chi eisiau gwneud hynny. Felly, os daw cymhelliant am 7pm bob nos, byddwch yn ‘aderyn y nos’ am ychydig nes bod eich gwaith wedi'i gwblhau. Y cyngor gorau i mi erioed ei gael gan ddarlithydd wrth wneud fy nhraethawd israddedig oedd: “Os ydych chi'n mynd i weithio gyda'r nos, cadwch at hynny a chysgu'n iawn yn ystod y dydd, cyn belled nad ydych chi'n dechrau colli dosbarthiadau” ac fe weithiodd y system honno!  I’r gwrthwyneb, mae’n bosib y byddwch chi ar eich gorau yn y bore ac yn teimlo bod eich cymhelliant yn dechrau pylu erbyn hanner dydd, felly dewch o hyd i'r hyn sy'n gweithio i chi ond gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael digon o gwsg! 


BWYTWCH! Meddyliwch fel yr hysbyseb Snickers: dydych chi ddim yn chi eich hun pan mae eisiau bwyd arnoch chi; fyddwch chi ddim yn gallu gwneud eich gwaith gorau os ydych chi'n meddwl yn gyson am beth i'w fwyta pan fyddwch chi’n cyrraedd adref.  Fe gyhoeddon ni flog yn gynharach yr wythnos hon dan y pennawd bwydydd ar gyfer yr ymennydd, a thra bo'r wyddoniaeth yno, os ydych chi am sglaffio pecyn o fotymau siocled oherwydd dyna beth rydych chi am ei wneud, wel i ffwrdd â chi! Nid oes unrhyw beth o'i le â dibynnu ar eich holl fyrbryd os bydd yn eich bodloni yn ddigon hir i chi ddal ati â’ch gwaith, ond gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael pryd bwyd go iawn o leiaf unwaith y diwrnod hwnnw. 

Blog Bwyd ar gyfer yr Ymennydd

 

Mae’n bwysig dod o hyd i system astudio sy’n gweithio i chi. Yn ystod ein cyfweliad â darlithwyr y semester diwethaf. Dywedwyd wrthym, pan fyddwch chi’n darllen llyfr, mai dim ond unwaith y dylech fod angen ei ddarllen. Felly mae sut rydyn ni'n cymryd nodiadau yn bwysig. P'un a yw'n well gennych chi eu teipio, neu eu hysgrifennu â llaw, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y cyfeirnod llawn, gan y bydd ei angen arnoch ar gyfer eich gwaith. Bydd hyn yn arbed cryn lawer o amser i chi yn y tymor hir. Y tu hwnt i hynny, gweithiwch trwy eich rhestr ddarllen mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr; peidiwch â darllen dim ond y rhai byrraf yn gyntaf! Dewch o hyd i'r cysylltiadau rhwng y ffynonellau; bydd yn creu naratif mwy cydlynol wrth i chi ddarllen ond hefyd, bydd eich nodiadau'n llifo’n well. 

Cyfweliad â darlithwyr

Ochr arall eich 'system' yw sut rydych chi'n ffeilio'ch nodiadau; yn bersonol, rwy'n rhoi cod lliw ar BOPETH, mae amlygwyr pastel yn wych am hyn, gan nad ydyn nhw mor llachar. Trwy neilltuo lliw penodol i bob 'thema' yn fy ngwaith, gallaf ddweud ar unwaith yr hyn yr wyf yn edrych arno, ac mae'n gwneud ffeilio popeth yn llawer haws. Ni all rhai pobl oddef lliwiau ar hyd eu tudalennau nodiadau ac maen nhw’n teimlo bod hyn yn tynnu eu sylw’n ormodol; mae'n well gan rai pobl ddefnyddio penawdau a rhannu pethau ar draws gwahanol dudalennau, felly gweithiwch allan beth sy'n gweithio i chi.  
 
Gallwch hefyd ystyried a yw'n werth llunio amserlen astudio reolaidd i chi’ch hun. Mae rhai myfyrwyr yn canfod, trwy ddyrannu amser penodol i weithio yn ystod y dydd, y gallant gael eu hunain i'r arfer o weithio bob dydd. Mae'n well gan rai myfyrwyr gyfnodau hir o amser astudio ar yr un pryd. Os yw hyn yn rhywbeth y credwch fyddai'n gweithio i chi, mae gennym sawl templed ar gyfer amserlenni a chynlluniau traethawd ar-lein y gallwch eu lawrlwytho.

Cynllunydd Wythnosol

Cynllunydd Traethawd

 

Yn bersonol, mae'n gas gen i amserlenni astudio; rwy'n teimlo fod hyn yn rhoi pwysau arnaf i astudio pan nad ydw i efallai'n cael fy ysgogi i wneud hynny. Yr unig reswm rydw i'n sôn am hyn yw oherwydd ei fod yn iawn os nad ydych chi'n eu hoffi nhw chwaith. Mae'r holl awgrymiadau a thriciau hyn wedi dod yn sgil myfyrwyr eraill yn darganfod beth sy'n gweithio iddyn nhw, felly mater i ni yw dewis a dethol beth sy'n gweithio i ni. 
 
Un o'r darnau gorau o gyngor yw: os oes gennych chi le, sefydlwch ardal astudio bwrpasol i chi'ch hun. Sicrhewch fod y gofod hwn wedi'i oleuo'n dda, gyda digon o le i'ch llyfrau, gliniadur, cyfrifiadur, beth bynnag sydd ei angen arnoch i gael rhywfaint o waith wedi’i wneud. Mae bod â lle pwrpasol yn golygu pan fyddwch chi'n cyrraedd eich terfyn, gallwch chi godi o’ch cadair a cherdded i ffwrdd. Does dim angen i chi dreulio amser yn tacluso nac yn gosod popeth yn ôl yn ei le pan gewch chi rywfaint o gymhelliant unwaith yn rhagor. Mae hyn hefyd yn golygu os ydych chi'n brin o amser, efallai bod gennych chi awr cyn y dosbarth nesaf, y gallwch chi ail-afael yn y gwaith heb orfod gosod popeth allan o’r newydd. Un o'r lleoedd gwaethaf i weithio yw o'r gwely! Mae angen i chi gadw'ch gwely fel man gorffwys, a gall ei gwneud hi'n anoddach cael noson dda o gwsg os ydych chi'n gweithio yn y gwely hefyd.  
 
Mae llawer o'r pethau rydyn ni wedi bod yn siarad amdanyn nhw'n dibynnu ar 'ddod o hyd i'r hyn sy'n gweithio i chi' ac ar ôl i chi ganfod eich system, fe welwch eich cynhyrchiant yn cynyddu'n sylweddol! Ond beth os oes angen rhywfaint o help arnoch chi? Dyma yw diben Sgiliau Astudio; mae'n wasanaeth anhygoel a gynigir gan y Brifysgol i bob myfyriwr o'r cam Sylfaenol hyd at Ôl-radd, lle bydd staff yn eich helpu gydag unrhyw beth o ddod o hyd i'ch system astudio ac adolygu ar gyfer arholiadau, i gyfeirnodi, sgiliau cyflwyno a mwy! Gallwch fwrw golwg ar y rhestr lawn neu archebu slot gyda nhw yma: https://www.uwtsd.ac.uk/study-skills/. Cofiwch, fyddwch chi ddim yn dod o hyd i system astudio berffaith dros nos, bydd yn cymryd peth amser a rhoi cynnig ar wahanol ddulliau cyn i chi ganfod yr hyn sy’n gweithio i chi mewn gwirionedd.  
 
Nawr eich bod chi'n bwyta'n iawn, yn cael digon o gwsg, rydych chi wedi arfogi’ch hun â deuddeg o amlygwyr lliw pastel ac yn dal i fethu dod o hyd i’r cymhelliant i agor llyfr? Cymerwch seibiant! Fe wnaethon ni i gyd ddewis ein pynciau (gobeithio) oherwydd ein bod ni'n angerddol am y pwnc hwnnw; os ydych yn gweld nad oes gennych chi unrhyw gymhelliant ambell ddiwrnod, mae hynny'n iawn! Fel cymdeithas, mae angen i ni roi'r gorau i weld llosgi allan fel rhywbeth i anelu ato. Mae hunanofal yn bwysig, gyfeillion! Chwaraewch ambell gêm fideo darllenwch ambell lyfr nad oes a wnelo â'r brifysgol; ewch am ddiod gyda'ch cyd-letywyr neu mynnwch awr o gwsg os mai dyna sydd ei angen arnoch chi! Mae'n bwysig ein bod yn cymryd cam yn ôl ac yn cymryd anadl ddofn, yng ngoleuni’r hinsawdd fyd-eang sydd ohoni.  
 
Wedi dweud hynny, mae'n amser anodd i fod yn fyfyriwr. Mae yma sawl gwasanaeth ar gyfer cynnig cymorth i chi. Rwyf wedi rhestru rhai ohonynt isod. 
 
Cymerwch ofal, Tammy.

 

NHS: www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/mental-health-helplines/

Connect Project: Connect | UWTSD

Counselling Service: https://www.uwtsd.ac.uk/counselling/

Student Space: https://studentspace.org.uk/

Study Skills Support: https://www.uwtsd.ac.uk/study-skills/

 

 

 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...