Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau 

Dydd Iau 03-12-2020 - 08:29

Gan: Emily Sykes. Swyddog Rhan-amser Myfyrwyr Anabl, Campws Llambed

 

Helo Bawb! 

 

Cyn cychwyn, hoffwn eich atgoffa am yr arolwg y mae UM Llambed wedi'i anfon allan! Os nad ydych wedi ei lenwi eto, rwy'n eich annog chi i wneud hynny! Rydym am sicrhau bod y campws hwn yn hygyrch, ac mae eich mewnbwn yn werthfawr, felly cymerwch ychydig funudau o'ch diwrnod i'w lenwi a gadewch i ni wybod am eich profiadau ar y campws!

 

Llenwch yr arolwg hwn os gwelwch yn dda, a rhannwch e gyda'ch ffrindiau

Arolwg Hygyrchedd Campws Llambed

 

Mae 3ydd Rhagfyr yn ddiwrnod pwysig iawn. Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau (DRhPA), a'r thema ar gyfer 2020 yw 'Nid yw pob Anabledd yn Weladwy'. Mae DRhPA wedi dewis y thema hon i ddod ag ymwybyddiaeth i anableddau cudd, sy'n cynnwys y rheiny sydd â salwch meddwl, nam ar eu golwg / clyw, anableddau dysgu, a mwy. 

 

Mae gwefan DRhPA yn nodi bod gan 15% o boblogaeth y byd anabledd, yn ôl Adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd ar Anabledd, ac o blith y rhain, mae gan 450 miliwn gyflwr meddyliol neu niwrolegol. Yr hyn a’m trawodd yn wirioneddol oedd y ffaith nad yw dwy-ran-o-dair o’r bobl hyn yn ceisio, ac na fyddant yn ceisio, cymorth meddygol proffesiynol, oherwydd camwahaniaethu, stigma ac esgeulustod. (https://idpwd.org/)

 

Fe wnaeth yr ystadegyn yma gryn argraff arnaf, felly penderfynais ei bod yn bwysig codi ymwybyddiaeth ynghylch yr hyn sydd ar gael yma yn Llambed ar gyfer y rhai sydd am edrych i mewn i'r broses o wneud cais am help, a hefyd ei gwneud ychydig yn haws dod o hyd i'r holl wybodaeth y gallai fod ei hangen arnoch chi ynghylch Gwasanaethau Myfyrwyr. 

 

Mae'r tîm yma yn Llambed yn hynod gymwynasgar a chyfeillgar. Rwyf wedi bod yn derbyn cymorth ers ail wythnos fy mlwyddyn gyntaf, ac rwy'n ddiolchgar yn dragwyddol i'm tîm. Pan nes i ymweld â Llambed am y tro cyntaf, cefais deimlad o orlwytho oherwydd nid oeddwn yn gyfforddus ag eistedd mewn darlith. Roedd y brifysgol yn gefnogol iawn i'm hanghenion, gan drefnu apwyntiad i fy nhad a minnau i siarad â'r staff gwasanaethau myfyrwyr. Yr haf cyn fy mlwyddyn gyntaf, trefnwyd Asesiad Anghenion ar fy nghyfer, felly roeddwn i'n barod i ddechrau pan gyrhaeddais. Mae'r staff yn agos atoch ac yn hawdd mynd atynt, felly os ydych chi am wybod mwy, peidiwch â bod ofn cysylltu!

 

Mae rhan o fy nhîm cymorth yn fy helpu gyda fy nhraethodau, ac yn ystod y blynyddoedd rwyf wedi’u treulio yma, rwyf wedi datblygu fy llais beirniadol trwy hyn. Mae fy nhîm yn fy helpu i gadw’n drefnus oherwydd fy nghyflwr dyspracsia, gan sicrhau fy mod yn cadw o fewn y terfynau amser a'r nodau rwyf yn eu gosod ar gyfer fy hun, a sicrhau fy mod yn gwybod pryd i gymryd seibiant o fywyd y brifysgol. Mae hyn wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol gan nad ydw i'n sylweddoli fy mod i'n llosgi allan nes i fy mod i wedi llosgi allan yn llwyr.

 

Mae’r cymorth rwyf yn ei gael hefyd wedi fy helpu i ddysgu beth yw fy nherfynau a phenderfynu ar yr hyn sy'n gweithio orau i mi. Mae fy hyder wedi cynyddu cymaint, a rhaid i mi ddiolch i'r tîm cymorth am fy helpu dros y blynyddoedd hyn yn Llambed. Rwy'n teimlo'n hyderus am fynd allan i'r byd go iawn un diwrnod, ac mae hyn yn rhywbeth na welais i erioed ynof fy hun pan oeddwn i’n ddechrau yn y brifysgol.

 

Cofiwch, os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am unrhyw beth, anfonwch neges neu e-bost ataf! Rwy'n agored iawn am fy anableddau a sut maen nhw'n effeithio arna i o ddydd i ddydd, a'r broses es i drwyddi er mwyn cael cefnogaeth!

 

Gallwch gysylltu â fi ar Facebook neu trwy fy e-bost myfyriwr: 1700547@student.uwtsd.ac.uk

 

Rwy'n gobeithio y gall hyn helpu unrhyw un mewn angen, yn ogystal â’r rhai sydd am wybod mwy ynghylch yr hyn sydd ar gael; rwyf yn gwybod bod hyn yn rhywbeth y byddwn i wedi cael budd ohono.

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...