🌈 Ymunwch â Chriw’r UM 2021/22

Dydd Mercher 09-06-2021 - 14:24

🌈Ymunwch â Chriw’r UM 2021/22🌈

Hei! Ydych chi'n hoffi helpu pobl? Ydych chi'r math o berson sydd wrth eich bodd yn ysbrydoli ac annog cyd-fyfyrwyr i gymryd rhan mewn pethau? Ydych chi am gael effaith ar brofiad myfyrwyr a bod yn rhan o Dîm Undeb y Myfyrwyr? Ydych chi'n am gael cyfleoedd ar gyfer hunan-ddatblygiad ac i sefyll allan o'r dorf? Mae Criw’r UM yn berffaith i chi felly!

Iawn - ond beth yw 'Criw’r UM'?

Gall fod yn anodd bod yn fyfyriwr newydd neu’n dychwelyd i'r brifysgol ar ôl seibiant o’ch astudiaethau. Mae Criw’r UM yno i wneud gwahaniaeth. Gwirfoddolwyr yw Criw’r UM, sy'n annog profiad cadarnhaol i fyfyrwyr trwy helpu myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd i gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau a digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr trwy gydol y flwyddyn. Mae rhai o'r digwyddiadau hyn yn cynnwys Wythnos y Glas, Wythnos Llesiant, a’r Wythnos Werdd. Mae Criw’r UM yno i ddarparu presenoldeb cyfeillgar a gwybodus i fyfyrwyr yn ystod digwyddiadau. Maent yn rhannu eu profiad yn ogystal ag ymgysylltu â myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd, i'w helpu i drosglwyddo i'r brifysgol a theimlo bod croeso iddynt.

Pam ddylwn i wneud cais?

Mae aelodau Criw’r UM yn cael:

- Llwyth o gyfleoedd hyfforddi am ddim (pethau fel cymorth cyntaf, gofalu am dy gyfaill, cymorth cyntaf iechyd meddwl, a.y.b.)

- Profiad gwirfoddoli sy'n edrych yn wych ar CV

- Tystysgrif Arweinyddiaeth wedi’i Achredu gan Undeb y Myfyrwyr

- Dealltwriaeth ddyfnach o Undeb y Myfyrwyr (mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfranogi yn yr UM yn y dyfodol - fel sefyll am rôl llywydd campws)

- Geirda ar gyfer eich CV

- Llwyth o bethau eraill difyr am ddim trwy gydol y flwyddyn (gan gynnwys mynediad am ddim i ddigwyddiadau a chrys-t hynod cŵl!)

Mae hyn yn swnio'n hwyl! Sut mae modd i mi gadw mewn cysylltiad?

Nodwch eich gwybodaeth cysylltu yma a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fyddwn ni’n dechrau recriwtio aelodau newydd Criw’r UM ar gyfer 2021/22. Nid oes unrhyw bwysau i wneud cais nawr - dim ond ffordd i chi fod y cyntaf i wybod am y diweddaraf gan Griw’r UM yw hyn.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, gallwch hefyd e-bostio Michaella: michaella.batten@uwtsd.ac.uk

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...