Mae tri o'n rhwydweithiau Rhyddhad wedi cael eu cyhoeddi’r wythnos hon. Hyd yn hyn, mae'r grwpiau sydd ar gael i fyfyrwyr fel a ganlyn:
Mae Undeb y Myfyrwyr yn chwilio am bobl angerddol sy'n barod i arwain a chefnogi'r rhwydweithiau rhyddhad newydd. Bydd arweinwyr yn gallu cael mynediad i'r grŵp ar y wefan fel y gallant wneud diweddariadau; byddant hefyd yn rhedeg grŵp cyfryngau cymdeithasol preifat. Gall fod mwy nag un arweinydd, ond rhaid i arweinwyr rannu tasgau rhyngddynt yn deg.
Casglu cyfeiriadau e-bost holl aelodau'r rhwydwaith ar gyfer rhestr e-bost a sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei hanfon allan yn fisol.
Derbyn aelodau i'r grŵp preifat a dechrau sgyrsiau i ysgogi sgwrs rhwng aelodau.
Adborthi syniadau ar gyfer ymgyrchoedd a digwyddiadau i undeb y myfyrwyr, fel y gallant helpu i hwyluso a gwireddu'r cynlluniau hyn.
Rhannu erthyglau, fideos a.y.b. diddorol a pherthnasol â'r holl aelodau, er mwyn sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a allai fod o gymorth i'r rhwydwaith.
Rhoi gwybod i gefnogwyr am sut y gallant fod o gymorth i'r rhwydwaith a'u darparu â’r diweddaraf am ddigwyddiadau / ymgyrchoedd y gallant ymuno â nhw.
Os dewch chi ar draws unrhyw ddeunydd addysgol ynglŷn â'r rhwydwaith, rhannwch flog ar wefan undeb y myfyrwyr er mwyn i bawb ei weld.
Prif swyddogaeth y rôl yw cynnig cefnogaeth i bob aelod, diarddel unrhyw un sydd ddim yn ymddwyn yn briodol neu'n unol â gwerthoedd undeb y myfyrwyr a helpu gyda chynnal rhwydweithiau’n effeithlon.
Os ydych chi am ymgymryd â'r rôl wirfoddol hon, e-bostiwch Rebecca ar Rebecca.Crane@uwtsd.ac.uk i fynegi eich diddordeb.