Taz & Richard

Dydd Llun 07-12-2020 - 11:45

Taz Jones

Pennaeth Gwasanaethau’r Aelodaeth

taz.jones@uwtsd.ac.uk

Richard Buckley

Cydlynydd Eiriolaeth

r.buckley@uwtsd.ac.uk

 

Mae tîm yr Undeb wedi tyfu, ac rydym yn falch iawn o gyflwyno ein haelodau diweddaraf, Taz Jones a Richard Buckley.

Taz yw Pennaeth Gwasanaethau’r Aelodaeth, rôl newydd sbon yn yr Undeb. Bydd yn gyfrifol am reoli'r Tîm Llais ac Eiriolaeth Myfyrwyr, rheoli ein Tîm Ymgysylltu â Myfyrwyr ac yn arwain ein gwaith ar gampysau Caerdydd, Birmingham a Llundain. Yn gryno, mae'n ymwneud â chynrychioli myfyrwyr a sicrhau eu bod yn cael amser da.
                                                                                        
Bydd Richard yn gweithio ochr yn ochr ag Euan, fel ein Cydlynydd Eiriolaeth newydd. Maen nhw yma i roi cymorth uniongyrchol i chi gyda'ch astudiaethau ac i ymdopi â rheolau’r brifysgol - o ddarparu cyngor arbenigol, i'ch pwyntio i'r cyfeiriad cywir, i helpu â'ch grymuso. 

Mae'r rolau newydd hyn yn allweddol wrth dyfu'r Undeb a sicrhau ein bod yno ar gyfer pob myfyriwr. Mae Taz a Richard yn ymuno â ni o Undebau Myfyrwyr eraill - byddan nhw'n dod â llwyth o arbenigedd gyda nhw. 

Felly dyma ni’n dweud 'croeso' wrth Taz a Richard - allwn ni ddim aros i weld y pethau gwych maen nhw'n eu cyflawni. 

 

 


 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...