Mae eich Undeb Myfyrwyr newydd ddod o gyfarfod cadarnhaol gyda’r Brifysgol ac wedi derbyn sicrwydd na fydd unrhyw dâl am drwyddedau parcio i fyfyrwyr ar draws pob campws ar gyfer y flwyddyn academaidd hon wrth i ni weithio gyda'r Brifysgol ar y materion a godwyd y dyddiau diwethaf.
Mae argaeledd llefydd parcio yn parhau i fod yn broblem ar rai campysau ac felly bydd y Brifysgol yn cyhoeddi trefniadau parcio campws penodol newydd, gan gynnwys parthau penodol i fyfyrwyr yng Nghaerfyrddin a Townhill, yn fuan. Mae'r Brifysgol hefyd yn archwilio i opsiynau parcio oddi ar y campws er mwyn ychwanegu at y nifer o lefydd sydd ar gael.