Clybiau ar-lein

Dydd Llun 11-01-2021 - 14:44

Rydym yn sylweddoli nad yw hi wedi bod y flwyddyn hawddaf i fyfyrwyr. Mae wedi bod yn wahanol iawn i flwyddyn arferol, ac rydym am sicrhau eich bod yn cael cyfle i gael y gorau o'ch profiad prifysgol. Yn y flwyddyn newydd rydym am roi cyfle i chi adeiladu cyfeillgarwch a chymunedau y tu allan i'ch astudiaethau, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y byddwch yn cael cyfle a lle i wneud hynny. Rydyn ni bob amser yn annog myfyrwyr i gynnig syniadau newydd a all ddod â myfyrwyr ynghyd mewn ffordd unigryw. Os oes gennych chi unrhyw syniadau am glwb neu gymdeithas yr hoffech eu gweld yn eich UM, rhowch wybod i ni a byddwn yn gwneud popeth sydd o fewn ein gallu i drefnu hynny, a gwneud y broses honno mor hwylus â phosibl.

 

Fel rhan o'r hyn y byddwn ni'n ei gynnig, rydyn ni'n ystyried creu rhai clybiau ar-lein rydyn ni am i chi fod yn rhan ohonyn nhw!

 

Trwy gydol y flwyddyn newydd rydym yn cynnig cyfle i chi fod yn greadigol trwy gyflwyno rhai clybiau ar-lein. Bydd aelodau’r UM yn helpu â chynnal y clybiau a restrir isod:

 

Clwb Rhedeg/Cerdded

Join us at the very first online running/walking club:

Dydd Mercher 20 Ionawr 11 am

 

Clwb Llyfrau

Join us at the very first online book club:

Dydd Mercher 20 Ionawr 2 pm

 

Clwb Celf

Join us at the very first online art club:

Dydd Iau 21 Ionawr 3 pm

 

Clwb Ffilm

Join us at the very first online film club:

Dydd Gwener 22 Ionawr 4 pm

 

Rydyn ni'n chwilio am fyfyrwyr sy’n awyddus i fod yn rhan o'r cymunedau hyn, i rannu syniadau, i rannu teithiau cerdded, llwybrau rhedeg, gemau, ffilmiau, unrhyw beth mewn gwirionedd - rydyn ni am i chi gael cyfle i'w rannu gyda myfyrwyr sydd o’r un anian.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn unrhyw un o'r clybiau uchod, rydym hefyd yn chwilio am fyfyrwyr i'n helpu i arwain y gweithgaredd a sicrhau ein bod yn gwneud y pethau hynny y mae myfyrwyr am eu gweld yn digwydd. MAE’CH ANGEN CHI!

Bydd y sesiynau cychwynnol ar gyfer y clybiau yn cael eu cynnal ar-lein a byddwn yn cynnal cyfres o weithgareddau i'ch helpu chi i ymgysylltu â'ch cyd-fyfyrwyr, a ninnau.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn unrhyw un o'r sesiynau uchod, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy e-bostio: andrew.g.jones@uwtsd.ac.uk

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...