Yr wythnos hon mae Brook yn cynnal sesiwn Zoom AM DDIM i fyfyrwyr; pwnc yr wythnos hon yw cydsyniad a pherthnasoedd iach.
Byddant yn chwalu mythau, yn archwilio cymhlethdod perthnasoedd ac yn egluro sut mae cydsyniad yn gweithio mewn gwirionedd.
Archebwch eich lle trwy gofrestru ar ein gwefan. Sylwch oherwydd bod y sesiynau hyn ar gyfer myfyrwyr, bydd angen i chi gofrestru gan ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost myfyriwr.
Gweminar Brook: Cydsyniad a Pherthnasoedd Iach
Dydd Mercher 2il Rhagfyr, 15:45
Mewn ymateb i 16 Diwrnod o Weithredu #16Days rydym wedi trefnu digwyddiadau hyfforddiant ymwybyddiaeth o gamdriniaeth domestig AM DDIM ar gyfer staff a myfyrwyr. Mae lleoedd yn y sesiynau hyn yn gyfyngedig iawn, felly archebwch nawr os ydych chi am fynychu.
Dydd Mercher 9fed Rhagfyr 14:00
Dydd Iau 10fed Rhagfyr 14:00
Darllenwch Ein Blog am 16 Diwrnod o Weithredu #16Days
Byddwn yn gofyn i chi am eich profiadau gyda dysgu cyfunol yn Arolwg Mawr Undeb y Myfyrwyr yr wythnos hon.
Bydd yr ymatebion yn cyfrannu at ysgrifennu adroddiad ansawdd academaidd, a rennir gyda'r brifysgol.
Llenwch Arolwg Mawr yr UM (Dod yn fuan)
Fyfyrwyr Llambed, rydym angen i chi roi adborth ar hygyrchedd ar y campws.
Byddwn yn lansio arolwg ddydd Llun ac yn gweithio i drefnu grwpiau ffocws i glywed eich barn.
Mae’n bosib y byddwch chi eisoes yn meddwl am ddod o hyd i lety ar gyfer eich blwyddyn academaidd nesaf.
Rydym wedi diweddaru ein gwefan gyda llawer o gyngor i'ch helpu i ddod o hyd i’ch cartref nesaf. O gontractau, blaen-daliadau a phethau i'w gwneud pan fyddwch chi'n symud, i ddyfais ar gyfer cymharu gwahanol dai y byddwch chi’n mynd i ymweld â nhw.
Cewch wybod mwy yma: