Gallwch bori trwy ein holl glybiau a chymdeithasau ar ein tudalen grwpiau. Os dewch chi o hyd i grŵp rydych chi'n ei hoffi, gallwch chi ymuno trwy glicio ar y botwm 'Ymuno Nawr' ar frig y dudalen.
Yn y lle cyntaf, mae'n well cysylltu ag aelod o'r grŵp yn uniongyrchol. Gallwch ddarganfod pwy yw'r cyswllt allweddol trwy ymweld â'r grŵp ar y rhestr. Os na ydych yn llwyddo cysylltu, anfonwch e-bost at y Cynorthwyydd Ymgysylltu â Myfyrwyr ar gyfer eich campws.
I ymuno â chlwb neu gymdeithas yn llwyddiannus, rhaid i chi brynu'r haen aelodaeth gywir. Mae gennym ddwy lefel aelodaeth, Haen 1 a Haen 2. Mae prynu aelodaeth yn caniatáu i chi ymuno â chynifer o grwpiau ag y mynnwch ar yr un haen tan ddiwedd y flwyddyn academaidd. Sylwch y gall rhai grwpiau godi ffi aelodaeth ychwanegol sy'n unigryw iddyn nhw, felly gwiriwch y manylion ar dudalen unigol y grŵp.
Mae aelodaeth Haen 1 yn costio £5, ac mae aelodaeth Haen 2 yn costio £20.
Pan fydd grŵp yn gwneud cais gyntaf i ddod yn glwb neu'n gymdeithas swyddogol, rydym yn adolygu eu cais a, gan ddibynnu ar eu gofynion unigryw, rydym yn eu categoreiddio’n Haen 1 neu Haen 2. Ymysg y pethau yr ydym yn eu hystyried mae ffioedd ar gyfer gemau, costau teithio, llogi lleoliadau, prynu offer a.y.b.
Wrth ymuno â grŵp, cewch gyfarwyddyd i brynu'r aelodaeth ofynnol wrth fynd i dalu. Gallwch brynu aelodaeth yn uniongyrchol yma.
Peidiwch â phoeni, pan fyddwch chi'n cofrestru ar gyfer grŵp, bydd yr aelodaeth ofynnol yn cael ei hychwanegu'n awtomatig wrth fynd i dalu.
Unwaith i chi brynu aelodaeth Haen 1, rydych chi'n rhydd i ymuno â chymaint o grwpiau Haen 1 ag y dymunwch heb orfod prynu aelodaeth eto. Sylwch y gall rhai grwpiau godi ffi aelodaeth ychwanegol sy'n unigryw iddyn nhw, felly gwiriwch y manylion ar dudalen unigol y grŵp.
Unwaith i chi brynu aelodaeth Haen 2, rydych chi'n rhydd i ymuno â chymaint o grwpiau Haen 2 ag y dymunwch heb orfod prynu aelodaeth eto. Sylwch y gall rhai grwpiau godi ffi aelodaeth ychwanegol sy'n unigryw iddyn nhw, felly gwiriwch y manylion ar dudalen unigol y grŵp.
Oes, os yw'r grwpiau rydych chi am ymuno â nhw yn gymysgedd o Haen 1 a Haen 2, yna bydd angen i chi brynu'r ddau fath aelodaeth.
Rydym yn gostwng pris ein haelodaeth 50% ym mis Ionawr. Bydd eich aelodaeth yn ddilys tan ddiwedd y flwyddyn academaidd.
Mae'r arian a godir trwy daliadau aelodaeth yn mynd tuag at yswiriant, cit ac offer, mynediad i gerbydau a llogi cyfleusterau. Dysgwch fwy am fuddsoddiad Undeb y Myfyrwyr mewn clybiau a chymdeithasau yma.