Mae’r pleidleisiau wedi cael eu bwrw, rydyn ni wedi’u cyfrif nhw, a dyma’r canlyniadau ar gyfer Etholiadau’r Hydref 2020.
Results to be published at 12pm on Friday 20 November.
Mae democratiaeth myfyrwyr wrth wraidd yr hyn a wnawn. Ein hetholiadau yn yr Hydref a’r Gwanwyn yw sut rydych chi'n penderfynu pwy sy'n eich cynrychioli, ac mae’n helpu i'n harwain a'r gwaith rydyn ni'n ei wneud.
Ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, gall myfyrwyr enwebu am gyfle i lenwi rôl arweinyddiaeth wag ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol; mae’r rhain yn cynnwys rôl Myfyriwr Ymddiriedolwr, Swyddog Rhan-amser, Cadeirydd yr UM neu Gynrychiolydd i Gynhadledd UCM. Bydd myfyrwyr yn dewis eu cynrychiolwyr o'r rhestr o enwebeion.
Yn ystod ail semester pob blwyddyn academaidd, gall myfyrwyr enwebu am gyfle i ddod yn Swyddog Llawn-amser (Sabothol), Swyddog Rhan-amser, Myfyriwr Ymddiriedolwr neu Gadeirydd yr UM ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Bydd myfyrwyr yn dewis eu cynrychiolwyr o'r rhestr o enwebeion.
Rydym yn cynnig ystod o rolau, cyflogedig a gwirfoddol, llawn-amser a rhan-amser:
Ydych chi am wneud gwahaniaeth neu’n adnabod rhywun fyddai’n berffaith ar gyfer rôl?
We use the single transferable voting system; it's quick, easy and fair.
Dysgwch y rheolau, sut i wneud cwyn, a gallwch fwrw golwg ar ddogfen briffio’r ymgeiswyr.