Dyma noson bar myfyrwyr gyntaf y flwyddyn - ac mae'n ddigwyddiad hamddenol i'ch cyflwyno i fywyd prifysgol. Y Llofft yw eich ystafell gyffredin a bar i fyfyrwyr. Dewch draw; cewch gwrdd â chyd-fyfyrwyr, a mwynhau noson hamddenol wrth i chi ymgartrefu.
Mae yna lwyth o bethau i'w mwynhau;
Digwyddiad am ddim yw hwn - does dim tocynnau - dewch draw a mwynhewch.
Mae yna ddigonedd o fyrddau bach a mawr yn y Llofft, yn ogystal â seddi a soffas mawr cyfforddus - perffaith ar gyfer ymlacio, dal i fyny â ffrindiau, a phan fydd grwpiau mawr o bobl am ddod ynghyd. Mae yna hefyd Deledu Clyfar, PS5, gemau bwrdd, bwrdd pŵl, a diodydd rhad i chi eu mwynhau gyda ffrindiau!
Lleoliad : Y Llofft, SU Building, Carmarthen
Math: Caerfyrddin, Glasfyfyrwyr, Glasfyfyrwyr Caerfyrddin , Y Clwb a Y Llofft
Dyddiad dechrau: Dydd Sadwrn 20-09-2025 - 20:00
Dyddiad gorffen: Dydd Sadwrn 20-09-2025 - 23:30
Students' Union
union@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.