Amgylchiadau Esgusodol

Cwestiynau am Amgylchiadau Esgusodol

Dyma rai o'n Cwestiynau Mwyaf Cyffredin a ofynnir am Amgylchiadau Esgusodol. Os na allwch weld eich cwestiwn yn cael ei ateb - neu os ydych chi am gael cyngor mwy penodol ynghylch eich sefyllfa bersonol - mae croeso i chi gysylltu â ni yn y gwasanaeth Cynghori yn Undeb Myfyrwyr PCyDDS. Rydym yn annibynnol o’r Brifysgol, ac ni fyddwn yn trafod eich achos gyda nhw heb eich caniatâd.

 

Os na allwch wneud eich gwaith gorau cyn y dyddiad cau, a bod hyn oherwydd - er enghraifft - problem iechyd, neu rywbeth sy'n digwydd yn eich bywyd personol, dylech ystyried gwneud cais am Amgylchiadau Esgusodol ('AE').


Os ydych chi'n gymwys i wneud cais am AE, mae’n fanteisiol i chi wneud hynny. Os byddwch yn gwneud cais am AE, a bod eich cais yn cael ei dderbyn, yna mae gennych y dewisiadau canlynol:

Gallwch chi gyflwyno’r gwaith beth bynnag.

• Os byddwch chi'n ei basio a’ch bod yn fodlon â'ch marc, yna mae hynny'n wych - os na fyddwch chi'n ei basio, neu os nad ydych chi'n fodlon â'ch marc, bydd gennych chi'r hawl i'w ail-sefyll heb unrhyw gosb ychwanegol.

• Mewn geiriau eraill, os mai dyma'ch ymgais gyntaf, yna pan fyddwch chi’n ail-sefyll, bydd hynny hefyd yn cael ei drin fel ymgais gyntaf - os yw'n ail gynnig, bydd hyn hefyd yn cael ei drin fel ail gynnig, ac yn y blaen.


Gallwch chi gyflwyno’r gwaith hyd at 1 wythnos yn hwyr.

• Yna bydd y 'gosb cyflwyno'n hwyr' yn cael ei dileu.

• Mewn geiriau eraill, os mai eich cynnig cyntaf yw hwn a'ch bod yn cyflwyno hyd at 1 wythnos yn hwyr, byddai'r marc fel arfer yn cael ei 'gapio' ar y marc llwyddo (40 yn achos israddedigion, 50 ar gyfer ôl-raddedigion). Fodd bynnag, os caiff AE eu derbyn, byddai'r 'cap' hwnnw'n cael ei godi a byddech chi'n cael y 'marc llawn'.

• Os ydych yn ail-sefyll a’ch bod yn cyflwyno’r gwaith hyd at 1 wythnos yn hwyr, byddech fel arfer yn derbyn marc o 0 yn awtomatig. Fodd bynnag, os caiff eich AE eu derbyn, byddai'r gosb honno'n cael ei dileu, a byddech yn gallu cyflawni marc hyd at 40 (israddedig) / 50 (ôl-raddedig).

Gallwch ddewis peidio â chyflwyno’r gwaith.

• Yna bydd gennych yr hawl i gyflwyno'r gwaith erbyn dyddiad cau newydd.

• Cofiwch, serch hynny, fod y dyddiad cau hwn yn debygol o fod yn y tymor neu'r semester nesaf. Mae hyn yn golygu y gallai fod oedi o ran symud ymlaen i’r lefel nesaf neu raddio – felly efallai y byddai’n werth cael cyngor ar yr opsiwn hwn gan eich darlithwyr.

Gallwch wneud cais am AE ar MyTSD (o dan 'Newidiadau Data'), hyd at 3 wythnos ar ôl y dyddiad cau ar gyfer yr aseiniad. Peidiwch ag anghofio:

• Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth annibynnol (fel arfer gan broffesiynwr) i ategu eich cais.

• Mae'n rhaid i chi wneud cais am AE eich hun – ni all aelod o staff y Brifysgol fel arfer wneud hyn ar eich rhan. Nid yw'n ddigon sôn wrth aelod o staff y Brifysgol am yr hyn yr ydych yn mynd drwyddo – bydd y Brifysgol yn disgwyl i chi lenwi'r ffurflen.

Gallwch chi wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol (AE) ar gyfer yr aseiniad, hyd at 3 wythnos ar ôl y terfyn amser.


Os llwyddoch chi i gyflwyno’r gwaith hyd at 1 wythnos yn hwyr, a bod eich AE wedi cael eu derbyn:

• Yna bydd y 'gosb cyflwyno'n hwyr' yn cael ei dileu.

• Mewn geiriau eraill, os mai cynnig cyntaf yw hwn a'ch bod yn cyflwyno hyd at 1 wythnos yn hwyr, byddai'r marc fel arfer yn cael ei 'gapio' ar y marc llwyddo (40 yn achos israddedigion, 50 ar gyfer ôl-raddedigion). Fodd bynnag, os caiff eich AE eu derbyn, byddai'r 'cap' hwnnw'n cael ei godi a byddech chi'n cael y 'marc llawn'.

• Os ydych yn ail-sefyll a’ch bod yn cyflwyno’r gwaith hyd at 1 wythnos yn hwyr, byddech fel arfer yn derbyn marc o 0 yn awtomatig. Fodd bynnag, gydag AE yn cael eu derbyn, byddai'r gosb honno'n cael ei dileu, a byddech yn gallu cyflawni marc hyd at 40 (israddedig) / 50 (ôl-raddedig).

Os na lwyddoch chi i gyflwyno’r gwaith o gwbl, a bod eich AE wedi cael eu derbyn: :

• Yna bydd gennych yr hawl i gyflwyno'r gwaith ar gyfer dyddiad cau newydd.

• Cofiwch, serch hynny, fod y dyddiad cau hwn yn debygol o fod yn y tymor neu'r semester nesaf. Mae hyn yn golygu y gallai fod oedi o ran symud ymlaen i’r lefel nesaf neu raddio – felly efallai y byddai’n werth cael cyngor ar yr opsiwn hwn gan eich darlithwyr.

Wrth gwrs, gorau po gyntaf y byddwch yn gwneud cais am AE. Fel yna, bydd gennych y 'tawelwch meddwl' o wybod eu bod wedi'u derbyn.

Os nad oeddech yn gallu gwneud cais am AE cyn pen 3 wythnos ar ôl y dyddiad cau – er enghraifft, oherwydd eich bod yn yr ysbyty yn ystod y cyfnod hwnnw – byddai angen i chi ddarparu tystiolaeth i ddangos pam nad oeddech yn gallu gwneud hynny. Ni fydd y Brifysgol fel arfer yn derbyn nad oeddech yn gwybod am y broses AE, gan y byddwch wedi cael gwybod am AE yn ystod eich cyfnod sefydlu.

Mae Adran 14 o'r Polisi Amgylchiadau Lliniarol yn egluro'r meini prawf ar gyfer Amgylchiadau Esgusodol. Y pwynt allweddol yw bod yn rhaid i chi ddarparu 'tystiolaeth ddogfennol annibynnol' bod rhywbeth penodol wedi effeithio ar eich astudiaethau yn y cyfnod cyn, neu yn ystod, yr asesiad dan sylw.


Fel arfer, mae hyn yn golygu darparu llythyr neu ddatganiad gan broffesiynwr, fel Tystysgrif Feddygol neu Ddatganiad o Ffitrwydd i Weithio gan feddyg ar gyfer cyflwr meddygol. Dylai llythyrau ddod o gyfeiriad e-bost swyddogol (nid cyfeiriad personol), neu ar bapur â phennawd.

Mae'n rhaid i'r dystiolaeth y byddwch yn ei darparu gadarnhau bod yr hyn yr ydych yn hawlio AE ar ei gyfer yn bendant wedi digwydd. Er enghraifft, os yw'r llythyr gan eich meddyg dim ond yn nodi eich bod wedi dweud wrth eich meddyg am salwch, ond na chawsoch ddiagnosis gan y meddyg ar gyfer y salwch hwn mewn gwirionedd, ni fydd hyn yn cael ei dderbyn. Neu, os bu farw rhywun yr oeddech yn agos ato, fel arfer byddai disgwyl i chi ddarparu Trefn y Gwasanaeth ar gyfer yr angladd neu gopi o'r Dystysgrif Marwolaeth.

Mae’n rhaid i’r Swyddog Achos sy’n ystyried eich cais am AE allu gweld y bu effaith ar eich astudiaethau, a gweld bod yr effaith hon wedi bod yn ystod cyfnod yr asesiad (neu ychydig cyn hynny). O ganlyniad, ni fydd tystiolaeth fel ffotograff o feddyginiaeth ar bresgripsiwn gan feddyg yn cael ei derbyn, gan nad yw'n darparu'r wybodaeth hon.

Mae yna hefyd bethau penodol sydd ddim yn cyfrif fel AE, oherwydd mae'r Brifysgol yn gweld y rhain fel pethau y gallwch chi eu rheoli yn eich bywyd o ddydd-i-ddydd fel myfyriwr. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft, anghofio gwneud copi wrth gefn o’ch aseiniad ar eich dyfais eich hun (er efallai y bydd y Brifysgol yn derbyn hynny os mai dyfais y Brifysgol oed yn ddiffygiol), symud tŷ, neu wynebu anhawster ariannol dros-dro (er enghraifft, os ydych yn ychydig yn brin o arian yn ystod wythnos olaf y tymor).

Ni fydd y Brifysgol fel arfer yn derbyn AE yn seiliedig ar orfod gweithio oriau hir - oni bai bod cysylltiad agos rhwng eich astudiaethau a'ch gwaith (er enghraifft, os yw'ch cyflogwr yn eich noddi, neu os ydych ar Brentisiaeth Gradd, neu debyg).

Yn yr un modd, unrhyw fân salwch (e.e. annwyd); mae hyn yn annhebygol o gael ei dderbyn oni bai y gallwch chi ddangos bod yr effaith yn fwy difrifol nag y gellid ei ddisgwyl.

Yn olaf, nid y system AE yw'r ffordd gywir o gael cymorth ar gyfer anabledd - diben AE yw mynd i'r afael ag effaith anawsterau iechyd a phersonol dros-dro ar eich astudiaethau. Os oes gennych chi gyflwr hirdymor, dylech siarad â’r adran Gwasanaethau Myfyrwyr yngylch 'addasiadau rhesymol' ac (os yw'n addas) Datganiad o Fesurau Cydadferol.

Os na allwch ddarparu unrhyw fath o dystiolaeth fel yr awgrymir uchod, ond eich bod yn dal i gredu y dylid cydnabod eich AE, mae opsiwn arall ar gael - gallwch fynd at Reolwr Cymorth Dysgu yn yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr, a gofyn iddynt ddarparu 'Ffurflen Cadarnhad o Amgylchiadau Esgusodol gan y Brifysgol'. Gallwch ddarllen mwy am hyn isod.

Dylech fod wedi derbyn e-bost gan y Swyddfa Academaidd yn esbonio pam na chafodd eich AE eu derbyn. Dyma rai rhesymau posibl:


• Wnaethoch chi wneud cais fwy na 21 diwrnod ar ôl terfyn amser yr aseiniad, ond heb ddarparu tystiolaeth ychwanegol i egluro pam eich bod yn gwneud cais yn hwyr? Os felly, ni fydd eich AE yn cael eu hystyried oni bai y gallwch ddarparu'r dystiolaeth ychwanegol honno.

• A oedd y dystiolaeth a ddarparwyd gennych yn Gymraeg neu yn Saesneg? Os nad oedd, bydd angen i chi ddarparu cyfieithiad cyn y gellir ei ystyried.

• A oedd y dystiolaeth gan feddyg, ar bapur â phennawd neu wedi’i anfon o gyfeiriad e-bost swyddogol? Yn gyffredinol, ni fydd y Brifysgol yn cydnabod unrhyw beth answyddogol, na thystiolaeth gan ymarferydd iechyd anfeddygol (er enghraifft, ymarferydd iechyd amgen).

• A ydych yn gwneud cais am AE yn seiliedig ar gyflwr hirdymor neu anabledd yr ydych eisoes yn derbyn cymorth ar ei gyfer? Os oes gennych chi Ddatganiad o Fesurau Cydadferol gan y Gwasanaethau Myfyrwyr (sy'n rhoi ‘dyddiad cau estynedig' o hyd at wythnos ar gyfer aseiniadau), mae'r Brifysgol eisoes wedi rhoi amser ychwanegol i chi mewn cydnabyddiaeth o’ch cyflwr. Felly byddai angen i chi ddangos yn eich cais am AE pam nad yw'r wythnos ychwanegol hon wedi bod yn ddigon i chi ar gyfer yr aseiniad hwn.

Er mwyn dod o hyd i broffesiynwr addas a allai roi tystiolaeth o'ch Amgylchiadau Esgusodol ('AE'), efallai y byddai'n werth 'meddwl y tu allan i'r bocs'. Er enghraifft, os ydych chi wedi cael unrhyw gymorth gan weithiwr cymdeithasol neu elusen sy'n gallu cadarnhau'r hyn rydych chi wedi bod yn mynd drwyddo, efallai y bydd y Brifysgol yn gallu cydnabod e-bost swyddogol neu lythyr oddi wrthyn nhw ar bapur â phennawd.

 

Os nad oes neb mewn gwirionedd a all wneud hyn i chi, mae ffordd arall. Gallwch fynd at Reolwr Cymorth Dysgu yn yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr, a gofyn a allant ddarparu Cadarnhad o Amgylchiadau Esgusodol gan y Brifysgol. Gellir defnyddio'r Cadarnhad hwn fel tystiolaeth ar gyfer cais am AE. Bydd y Rheolwr Cymorth Dysgu am gael gwybod beth sydd wedi digwydd (a pham na allwch ddarparu 'tystiolaeth ddogfennol annibynnol').

Bydd Hwb, neu dîm Gwasanaethau Myfyrwyr eich campws, yn gallu eich cyfeirio at y Rheolwr Cymorth Dysgu cywir.

Mae croeso i chi hefyd gysylltu â ni i gael awgrymiadau ynghylch sut y gallech ddod o hyd i dystiolaeth addas ar gyfer eich cais am AE.

Cofiwch fod rhaid i chi wneud cais am AE eich hun – ni all aelod o staff y Brifysgol fel arfer wneud hyn ar eich rhan. Nid yw'n ddigon sôn wrth aelod o staff y Brifysgol am yr hyn yr ydych yn mynd drwyddo – bydd y Brifysgol yn disgwyl i chi lenwi'r ffurflen.

Mae un cyfle olaf i gyflwyno'r achos i'r Brifysgol - gelwir y cam hwn yn 'Adolygiad o Ganlyniad'. Mae gennych chi 21 diwrnod i wneud cais am hyn ar ôl i ganlyniad eich cais am Amgylchiadau Esgusodol gael ei anfon atoch. Cysylltwch â ni gynted â phosibl am gyngor a chymorth gyda'r cam hwn.

Os ydych chi’n gwneud cais am Adolygiad o Ganlyniad, bydd y Swyddfa Academaidd yn gofyn i Swyddog Achos newydd gynnal yr ymchwiliad. Cofiwch fod y 'sail' ar gyfer gwneud cais am Adolygiad o Ganlyniad yn wahanol i'r sail ar gyfer gwneud cais am Apêl Academaidd. Yn syml, er mwyn 'ennill' mewn Adolygiad o Ganlyniad, mae'n rhaid i chi ddangos un o'r canlynol:

27.2.1 “afreoleidd-dra wrth gynnal y weithdrefn briodol, sydd o natur a allai achosi amheuaeth resymol a fyddai’r un penderfyniad wedi’i wneud pe na bai hynny wedi digwydd” - Gallwch wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad os oedd y weithdrefn a ddilynwyd gan y Swyddog Achos a ymchwiliodd i’r achos am Amgylchiadau Esgusodol yn anghywir, a gallai hyn fod wedi arwain at wneud y penderfyniad anghywir.

27.2.2 “bodolaeth tystiolaeth berthnasol ac mae rhesymau dilys pam na ddarparwyd y dystiolaeth hon yn gynharach yn y broses” - Gallwch wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad os oes tystiolaeth newydd y gallwch ei darparu ar gyfer eich Amgylchiadau Esgusodol. Fodd bynnag, i ofyn am Adolygiad o Ganlyniad ar y 'sail' hon, mae'n rhaid i chi ddangos bod rheswm da pam na allech fod wedi darparu'r dystiolaeth hon ar gyfer eich Amgylchiadau Esgusodol yn y lle cyntaf.

27.2.3 “Doedd y penderfyniad ddim yn rhesymol o ystyried amgylchiadau’r achos” - Gallwch wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad os yw penderfyniad y Swyddog Achos yn afresymol, o ystyried ffeithiau eich achos.

I wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad, bydd angen i chi lenwi Ffurflen SC11, y gallwch ddod o hyd iddi yma. Ar ôl i chi wneud cais am Adolygiad o Ganlyniad, dylech dderbyn ymateb terfynol y Brifysgol cyn pen 28 diwrnod. Cadwch lygad ar eich e-byst rhag ofn y bydd y Swyddog Achos yn cysylltu â chi i gael mwy o dystiolaeth neu eglurhad.

Mae un opsiwn arall ar ôl os yw eich Adolygiad o Ganlyniad hefyd yn cael ei wrthod, neu os na allwch fodloni'r 'sail' ar gyfer Adolygiad o Ganlyniad, ond eich bod yn dal i gredu eich bod wedi cael eich trin yn annheg. Gallwch gyflwyno Cwyn i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch, sef corff cenedlaethol sy'n gallu cynnal ymchwiliad i brifysgolion yng Nghymru a Lloegr. Mae gennych chi hyd at 12 mis o ddyddiad terfynu eich achos yn PCyDDS i wneud cwyn o’r fath. I wneud hyn, bydd angen i chi ofyn am lythyr 'Cwblhau Gweithdrefnau' gan y Brifysgol, a dilyn y cyfarwyddiadau yma. Unwaith eto, gall Undeb y Myfyrwyr eich helpu gyda'r rhan hon o'r broses, felly mae croeso i chi gysylltu â ni am gymorth ac arweiniad pellach.