Gwnewch y mwyaf o'ch amser fel myfyriwr gyda ni. Helo Ġna, Undeb Myfyrwyr PCyDDS ydyn ni. ac rydych chi'n fwy na myfyriwr - rydych chi'n un o'n haelodau. Ni yw'r bobl mewn porffor sydd am eich helpu i wneud y gorau o'ch amser fel myfyriwr. Pwy bynnag ydych chi, beth bynnag ydych chiĠn ei wneud, mae yna le i chi yn PCyDDS. DymaĠr pethau rydyn ni'n eu gwneud: Llais - rydym yn elusen dan arweiniad myfyrwyr, ac yn falch o hynny. Dydyn ni ddim yn rhan o'r Brifysgol. Gallwch chi fod yn rhan o'n rhwydwaith o gynrychiolwyr myfyrwyr sy'n ein helpu i gasglu syniadau a barn myfyrwyr a sicrhau eu bod yn cael eu clywed. Rydym hefyd yn cynnal yr Etholiadau Myfyrwyr yn PCyDDS; gallwch chi enwebu a phleidleisio ynddynt - gan helpu i ddewis y bobl sy'n eich cynrychioli. Ac yn ein harwain ni mae eich Llywyddion Undeb; maent yn cael eu hethol gan fyfyrwyr ac yn gweithio'n llawn-amser i gyfarwyddo ein gwaith, ein dal yn atebol a'ch cynrychioli i'r Undeb, y Brifysgol a thu hwnt. Cyngor - fel aelod, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth cynghori - mae'n annibynnol, yn gyfrinachol ac am ddim. Rydym am eich grymuso i wneud y penderfyniadau cywir i chi. Cyfleoedd - mae eich profiad fel myfyriwr yn llawer mwy na darlithoedd yn unig, ac rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i wneud y gorau ohono. Gallwch ddilyn eich angerdd trwy ymuno ‰ chlwb neu gymdeithas dan arweiniad myfyrwyr neu gychwyn eich hun. Dangoswch eich doniau trwy ymuno ag un oĠn timau chwaraeon cystadleuol gyda hyfforddiant proffesiynol gan Academi Chwaraeon PCyDDS. Gallwch fynd ‰Ġch profiad myfyriwr iĠr lefel nesaf trwy gymryd rhan yn un oĠn digwyddiadau Rhowch Gynnig Arni. Maent yn llawn dop o brofiadau anhygoel wedi'u dewis y ofalus gennym ni am brisiau na fyddwch chi'n dod o hyd iddyn nhw yn unman arall. Ar ™l hynny i gyd, gallwch loywi eich sgiliau a pharatoi ar gyfer gyrfa gyda gweithdai a hyfforddiant am ddim o'r Wythnos Sgiliau. Lleoliadau - rydym hefyd yn rhedeg eich lleoliadau ar y campws. Mae ynaĠr Llofft aĠr Clwb yng Nghaerfyrddin aĠr Cwch Gwenyn, yr Hen Far ac Xtension yn Llambed. Maen nhw'n lleoedd gwych i ymlacio, dal i fyny ‰ ffrindiau a mwynhau noson allan. Gyda ni, byddwch chi'n gwneud ffrindiau, yn creu atgofion anhygoel, ac yn gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned mewn dim o amser. Unwaith y byddwch wedi ymrestru yn y brifysgol, rydych yn dod yn un o'n haelodauĠn awtomatig. PĠun a yw hon eich blwyddyn gyntaf neu'ch blwyddyn olaf, pĠun a ydych chi'n astudio'n llawn-amser neu'n rhan-amser, yn byw ar y campws neu oddi arno, yn gallu mwynhau ychydig neu gryn lawer o amser rhydd - mae gennym ni rywbeth ar eich cyfer chi. Ewch i'n gwefan i ddysgu mwy neu anfonwch e-bost (union@uwtsd.ac.uk) neu neges atom (Instagram: @uwtsdunion).