Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben neu nid yw'r digwyddiad bellach ar gael.
Ymunwch â ni am noson hamddenol gydag awyrgylch da, diodydd oer, a pizza am ddim (gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu tocyn ar gyfer y pizza). P'un a ydych chi yma am alw heibio am dafell gyflym neu am wneud noson ohoni, dyma'r ffordd berffaith i ymlacio, treulio amser gyda ffrindiau, a gwneud y gorau o'r profiad.
Gallwch ddod i’r digwyddiad hwn am ddim, ond mae angen i chi archebu tocyn.
Mae yna ddigonedd o fyrddau bach a mawr yn y Llofft, yn ogystal â seddi a soffas mawr cyfforddus - perffaith ar gyfer ymlacio, dal i fyny â ffrindiau, a phan fydd grwpiau mawr o bobl am ddod ynghyd. Mae yna hefyd Deledu Clyfar, PS5, gemau bwrdd, bwrdd pŵl, a diodydd rhad i chi eu mwynhau gyda ffrindiau!
Bydd archebu tocynnau’n dod i ben am 10am fore Sul 21ain Medi.
Mae pob croeso i chi i droi fyny ar y diwrnod; gwnewch yn siŵr eich bod yno’n gynnar i fachu tafell cyn y bydd popeth wedi mynd.
Lleoliad : Y Llofft, SU Building, Carmarthen
Math: Caerfyrddin, Glasfyfyrwyr, Glasfyfyrwyr Caerfyrddin , Y Clwb a Y Llofft
Dyddiad dechrau: Dydd Sul 21-09-2025 - 20:00
Dyddiad gorffen: Dydd Sul 21-09-2025 - 23:30
Nifer y lleoedd: 70
Students' Union
union@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.