Rheolau a Rheoliadau

Yn ystod eich ymgyrch etholiadol byddwch yn ymwneud â chyfres o weithgareddau. Mae'n bwysig cofio eich bod yn rhwym i wahanol reolau, rheoliadau a pholisïau.    

  • Rheolau a Rheoliadau Etholiadol
  • Polisïau Undeb y Myfyrwyr
  • Polisïau'r Brifysgol
  • Y Gyfraith

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn ystod y broses, dylech ymgynghori â'r tîm etholiadau.

Y 5 Egwyddor Graidd

Mae 5 egwyddor graidd y mae'n rhaid i bob ymgeisydd gadw atynt; bydd methu â gwneud hynny yn peri i'r ymgeisydd fod yn destun cosb neu sancsiynau sy'n amrywio o gyfyngu ar wahanol fathau o ymgyrchu, neu mewn achos mwy eithafol o gael ei diarddel o'r etholiad. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae'r defnydd o'r term 'ymgeisydd' neu 'ymgeiswyr' hefyd yn cyfeirio at ymgyrchwyr neu dimau ymgyrchu.

  1. Rhaid i fyfyrwyr fod yn rhydd i fwrw eu pleidlais heb ddylanwad na phwysedd annheg.
  2. Rhaid cydymffurfio â'r gyfraith, polisïau'r Undeb a'r Brifysgol.
  3. Mae’r bwysig trin pobl eraill fel y byddech chi am gael eich trin.
  4. Rhaid i chi ymgyrchu o fewn y lwfans ariannol a ddarperir
  5. Ni ddylai ymgyrchwyr ymgymryd â gweithgaredd ymgyrchu na allai eraill o fewn rheswm ei wneud hefyd, a bydd ymgyrchu yn cychwyn ar y diwrnod y cytunwyd arno.

Rhaid i fyfyrwyr fod yn rhydd i fwrw eu pleidlais heb ddylanwad na phwysedd annheg.

Ni chaiff ymgeiswyr sefyll a gwylio myfyrwyr wrth iddynt bleidleisio, gan y byddai'r myfyriwr dan bwysedd i bleidleisio dros yr ymgeisydd hwnnw. Dylai ymgeiswyr symud ymhell oddi wrth y myfyrwyr pan fyddant yn pleidleisio.

Er y caniateir i chi ddosbarthu taflenni a losin i wneud i fyfyrwyr eich cofio a gwrando arnoch chi, ni chewch gynnig cymhelliant (losin, arian a.y.b.) i fyfyrwyr a fyddai ar gael iddynt ar ôl iddynt bleidleisio drosoch chi, gan y byddai hyn yn cael ei ystyried yn ddylanwadu ar bleidlais myfyriwr.

Rhaid cydymffurfio â'r gyfraith, polisïau'r Undeb a'r Brifysgol.

Golyga hyn bod rhaid i chi fel ymgeisydd a'ch tîm ymgyrchu, bob amser gydymffurfio â'r gyfraith, rheoliadau'r Brifysgol (megis y côd ymddygiad, rheolau iechyd a diogelwch, gweithdrefnau cyfleoedd cyfartal, côd aflonyddu, difrod i eiddo'r Brifysgol, a'r defnydd o e-bost a.y.b.) yn ogystal â pholisi'r Undeb. Gall torri'r polisïau hyn arwain at weithred ddisgyblu a allai yn ei dro effeithio ar eich statws fel myfyriwr a'ch aelodaeth o'r Undeb.

Mae’r bwysig trin pobl eraill fel y byddech chi am gael eich trin.

Mae'r egwyddor hon yn ymwneud â sawl maes. Er enghraifft: mae difrodi deunydd cyhoeddusrwydd ac ymyrryd ag areithiau ymgeiswyr eraill ymysg y pethau a ystyrir i fod yn groes i'r egwyddor hon.

Rhaid i chi ymgyrchu o fewn y lwfans a ddarperir

Rhaid i eitemau a gynhyrchir neu a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer eich ymgyrch gael eu cyfrif o fewn y lwfans a roddir, yn unol â'r rheoliadau cyllidol sy'n perthyn i etholiadau'r undeb.

Ni ddylai ymgyrchwyr ymgymryd â gweithgaredd ymgyrchu na allai eraill o fewn rheswm ei wneud hefyd, a bydd ymgyrchu yn cychwyn ar y diwrnod y cytunwyd arno.

Bydd gan bob ymgeisydd gyfle cyfartal i ymgyrchu ac ymgysylltu â myfyrwyr. Mae hyn yn golygu na allwch ddefnyddio dulliau a sianelau i ymgysylltu â myfyrwyr nad ydynt ar gael yn rhwydd i bob ymgeisydd.

Ni chaiff ymgeiswyr ymgyrchu tan ddechrau'r cyfnod ymgyrchu. Gall ymgyrchu ddechrau cyn i'r pleidleisio agor neu ar yr un diwrnod. Caiff yr union ddyddiad ei wneud yn eglur i'r holl ymgeiswyr.

Mae hyn yn golygu, er enghraifft, na chewch wneud cyhoeddiad mewn darlithoedd na gosod posteri cyn dechrau’r cyfnod ymgyrchu, er mwyn sicrhau bod pob ymgeisydd yn dechrau ymgyrchu ar yr un pryd.

Ymrwymiad Ymgeiswyr

Yn ogystal â'r 5 egwyddor graidd, disgwylir i ymgeiswyr ymwneud â'r broses.

Disgwylir iddynt fynychu sesiwn briffio ymgeiswyr a chyflwyno pob ffurflen yn brydlon, gan gynnwys datganiad yr ymgeisydd. Gall methu â gwneud hynny arwain at waharddiad o'r broses etholiadol, gan gynnwys ar ôl i'r pleidleisio ddod i ben.

Swyddogion sy’n ail-sefyll

Lle mae swyddogion yn ail-sefyll am gyfnod arall yn y rôl, cânt eu cyfyngu rhag defnyddio unrhyw gyfleuster sydd ar gael iddynt fel swyddogion cyfredol. I gael rhagor o fanylion, dylai swyddogion gyfeirio at Ddogfen Ganllaw Ymddygiad Staff yr UM neu at y tîm etholiadau.

Staff Myfyrwyr

Ni chaiff ymgeiswyr ac ymgyrchwyr sy'n cael eu cyflogi gan yr Undeb fel staff myfyrwyr ymgyrchu tra'u bod yn gweithio i Undeb y Myfyrwyr. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at Ddogfen Ganllaw i Staff Myfyrwyr ar gyfer Gweithio yn Ystod Etholiadau neu'r tîm etholiadau.

Deunyddiau Hyrwyddo

Ni chaiff ymgeiswyr gynnwys brand neu logos Undeb y Myfyrwyr neu'r Brifysgol ar unrhyw ddeunydd hyrwyddo.

Os oes llun o’r Ymgeisydd yn ymddangos ar adnoddau neu dudalennau gwe cyfredol yr UM neu’r Brifysgol, yna rhaid defnyddio delweddau gwahanol o'r ymgeisydd at ddibenion ymgyrchu.

Ni chaiff ymgeiswyr ddefnyddio adnoddau'r Undeb nac adnoddau clybiau a chymdeithasau.

Cosbau Etholiad

Gall torri Rheoliadau’r Etholiad neu bolisïau perthnasol eraill Undeb y Myfyrwyr neu'r Brifysgol arwain at gosb. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys y canlynol:

  • Derbyn rhybudd llafar anffurfiol
  • Derbyn rhybudd ysgrifenedig ffurfiol
  • Cael eich diarddel o'r etholiadau

Gellir cymryd camau disgyblu pellach yn erbyn unrhyw droseddwyr o dan Bolisïau Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol. 

Rheoliadau Ariannol

Ni chaiff ymgeiswyr wario mwy na'r hyn a ganiateir o fewn eu cyllideb. Ar gyfer pob rôl, rhoddir terfyn o £30 ar wariant pob ymgeisydd, a gaiff ei ad-dalu iddynt. Gosodir terfyn o £30 ar bob ymgeisydd, waeth faint o rolau y mae'r ymgeisydd yn sefyll ar eu cyfer.

Dylai ymgeiswyr gwblhau Ffurflen Hawlio Treuliau Ymgeisydd erbyn diwedd y cyfnod pleidleisio a’i chyflwyno i'r Tîm Etholiadau. Rhaid i’r Ffurflen Hawlio Treuliau gynnwys manylion pob gwariant. Bydd methu â chyflwyno Ffurflen Hawlio Treuliau erbyn y terfyn amser yn golygu na chaiff unrhyw arian ei at ad-dalu, a gallai arwain at gamau disgyblu a allai gynnwys cael eich diarddel o’r etholiad

Bydd ymgeiswyr sy'n gwario mwy na'u cyllideb ddynodedig yn destun camau disgyblu a gallant gael eu diarddel o'r etholiad.

Rhaid i chi gadw cofnod o gostau eich deunyddiau ymgyrchu a gallu cyflwyno derbynebau a thystiolaeth o wariant os gofynnir i chi wneud hynny gan y Dirprwy Swyddog Canlyniadau. Gall hyn fod yn sgrinluniau o wariant ar-lein.

Gall ymgeiswyr ddefnyddio unrhyw eitem y gallai unrhyw un yn rhesymol ei chael am ddim. Mae'r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • Hen grysau-T
  • Paent
  • Hen gynfasau gwely
  • Offer ysgrifennu
  • Blu-tack / Tâp / PinnauCardboard
  • Cardfwrdd
  • Pren
  • Meddalwedd sydd ar gael trwy Gyfrif Myfyriwr PCyDDS

Y Dirprwy Swyddog Canlyniadau sy'n penderfynu pa eitemau y gallai ymgeiswyr yn rhesymol eu cael am ddim.

Mae unrhyw ddeunyddiau a ddefnyddir ar gyfer ymgyrchu ac sydd eisoes yn eiddo i'r ymgeisydd yn cyfrif tuag at gyllideb ymgyrchu ymgeisydd.

  • Gwisgoedd - £5 yr un.

Mae unrhyw argraffu a wneir wedi'i brisio ar y cyfraddau canlynol, waeth beth fo'r ffynhonnell.

Maint Papur A5 A4 A3
Du a Gwyn (Un ochr) £0.03 £0.05 £0.10
Du a Gwyn (Dwyochrog) £0.02  £0.06 £0.16
Lliw (Un ochr) £0.11 £0.18 £0.34
Lliw (Dwy ochr) £0.18 £0.32 £0.64

Gall ymgeiswyr brynu postiadau ar gyfryngau cymdeithasol o'u cyllideb, a bydd hyn yn cael ei gynnwys fel gwariant ar y pris a godir ar yr ymgeisydd hwnnw gan y darparydd cyfryngau cymdeithasol.

Caniateir i ymgeiswyr recriwtio aelodau tîm ymgyrchu sy’n meddu ar sgiliau a defnyddio'r rhain i gynorthwyo â’u hymgyrchoedd. Rhaid datgan unrhyw wasanaethau y talwyd amdanynt ar y daflen gyllideb.

Ad-daliad Costau Teithio

Mae PCyDDS yn Brifysgol aml-gampws ar draws Cymru a Lloegr. Gall pob myfyriwr waeth beth fo'u Campws bleidleisio ar gyfer pob un o'r rolau sydd ar gael yn ystod yr etholiadau. Yn ystod y broses ymgyrchu, efallai y bydd ymgeiswyr am ymweld â champysau eraill i ymgyrchu ymysg myfyrwyr eraill. Bydd yr etholiad hwn yn treialu cynllun ad-dalu costau teithio i ymgeiswyr er mwyn caniatáu iddynt deithio i'r gwahanol gampysau heb orfod ysgwyddo’r gost sy’n gysylltiedig â hyn. Dylid nodi bod yr arian hwn yn perthyn i gronfa ar wahân i'r lwfans ymgyrchu.

Pwy sy'n Gymwys?

Pob ymgeisydd sy’n sefyll ar gyfer rôl swyddog llawn-amser yn unig. (Llywydd y Grŵp, Llywydd Caerfyrddin, Llywydd Caerdydd a Abertawe, a Llywydd Birmingham a Llundain.) 

Beth sydd gan ymgeisydd hawl iddo?

  • 1 daith ddwyffordd i bob campws (ac eithrio eu campws cartref) yn ystod yr wythnos ymgyrchu wyneb-yn-wyneb.
  • Neu daith aml-gampws. Mae hyn yn cynnwys teithio uniongyrchol i'r safleoedd a llety dros-nos.

Gall trefniadau ganiatáu i ymgeisydd deithio bob dydd mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Pa gostau gaiff eu had-dalu?

  • Trafnidiaeth gyhoeddus
  • Llety

Trefnir pob archeb gan Undeb y Myfyrwyr ymlaen llaw.

Ble gall ymgeisydd fynd?

  • Aros yn Ninas y Campws
  • Teithio Uniongyrchol yn Unig

Pryd gall ymgeisydd deithio?

Bydd yr holl deithio ar drên ar docynnau dwyffordd y tu allan i oriau brig, ac mewn sedd dosbarth safonol. 

Pam y gall ymgeisydd deithio?

Mae hyn ar gyfer ymgyrchu yn unig. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gofrestru wrth gyrraedd campysau a chadw mewn cysylltiad â'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn ystod arosiadau dros-nos.

Sut mae'r broses yn gweithio?

Trefnu a Chynllunio

  • Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r Ffurflen Cynllunio Teithio erbyn 13:00 dydd Mercher 1af Mawrth 2023. Dim ond ceisiadau teithio a gyflwynir ar y ffurflen fydd yn cael eu cymeradwyo.
  • Tîm Etholiadau Undeb y Myfyrwyr fydd yn gyfrifol am archebu'r holl drefniadau teithio ar gyfer yr ymgeiswyr.
  • Y Dirprwy Swyddog Canlyniadau sy'n penderfynu beth ellir ei ystyried yn gynllun teithio rhesymol.

Diogelwch a Llesiant

  • Pan fydd ymgeisydd yn cyrraedd ac yn gadael campws, dylai ymweld ag un o'r gorsafoedd pleidleisio ar y safle i gofrestru gydag aelod o staff Undeb y Myfyrwyr.
  • Pan fydd ymgeisydd yn aros dros-nos rhaid iddynt anfon neges destun at y Dirprwy Swyddog Canlyniadau i gadarnhau eu bod wedi cyrraedd a gadael y llety a archebwyd.
  • Dylai ymgeiswyr ddatgelu unrhyw anghenion hygyrchedd ar eu cynlluniau teithio i'r Tîm Etholiadau.

Cwynion ac Apeliadau

Gall unrhyw aelod o Undeb y Myfyrwyr wneud cwyn drwy lenwi Ffurflen Gwynion (ffurflen ar-lein), a ddylai gael ei hategu gan dystiolaeth.

Rhaid cyflwyno pob cwyn o fewn 24 awr i'r digwyddiad ac erbyn diwedd y cyfnod pleidleisio.

Dim ond cwynion ynglŷn â phroses y cyfrif ei hun a gaiff eu hystyried unwaith y bydd y cyfrif wedi dechrau; rhaid eu cyflwyno o fewn 24 awr i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi.

Bydd yr holl ffurflenni cwynion sydd wedi'u llenwi yn cael eu derbyn i ddechrau gan y Dirprwy Swyddog Canlyniadau. Bydd pob penderfyniad ynghylch dehongli rheolau'r etholiad yn cael ei wneud gan y Dirprwy Swyddog Canlyniadau.

Gall ymgeiswyr apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir gan y Dirprwy Swyddog Canlyniadau a'u Dirprwy trwy gyflwyno eu hapêl yn ysgrifenedig, o fewn 24 awr i’r penderfyniad gael ei wneud, gan ddilyn y weithdrefn apelio.

  1. Gwrandewir ar gam cyntaf yr apêl gan y Swyddog Canlyniadau; os yw'r ymgeisydd yn parhau i fod yn anfodlon yna,
  2. Gwrandewir ar ail gam yr apêl gan Bwyllgor Enwebiadau, Penodiadau ac Archwilio Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, a fydd yn gwrando ar yr achos a gyflwynir gan yr ymgeisydd a'r achos a gyflwynir ar gyfer gosod sancsiynau gan y Swyddog Canlyniadau, neu ei Ddirprwy enwebedig.
  3. Cyflwynir cam olaf yr apêl i Ddirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol neu ddirprwy a enwebir ganddo.