Application Pack: Student Opportunities Assistant – Lampeter
About Us
UWTSD SU is a Students’ Union with a unique set of challenges and opportunities. We are spread over 6 sites across Wales and England.
These sites include:
Birmingham – Our newest campus founded in 2017. Birmingham contains two sites, the original Sparkhill site and the new Quay Place site with three buildings in the heart of the city. Most students study CertHE programmes.
Cardiff – Our smallest campus in terms of student numbers. This campus is spread across a few locations in the centre of Cardiff and consists of multiple programmes, including Performing Arts and CertHE centric courses.
Carmarthen – A campus with a very traditional feel, as numerous students live on campus, and study a wide range of programmes such as Sport, Education, and Performing Arts.
Lampeter – Our oldest campus, has the largest footprint, and is second smallest in terms of student numbers. The campus only delivers humanities courses and has a strong community feel.
London – Established in 2012, the London campus has rapidly expanded to capacity and there is a planned move of site location to Canary Wharf in the works. The programmes offered here are primarily CertHE.
Swansea – Our largest campus in terms of number of programmes offered and student numbers, the campus is spread over a series of buildings in the centre of Swansea and in the marina area.
We are led politically by our Sabbatical Officers, strategically by our Chief Executive, and charitably by our Trustees.
You can view our current team here: https://www.uwtsdunion.co.uk/about/team
The Student Opportunities Team Mission
To make every campus fun and engaging.
The Student Opportunities Team Vision
To be Fun, Lasting, Accessible, Trustworthy, Supportive, and Inspiring.
Job Description: Student Opportunities Assistant – Lampeter
Starting Salary |
£21,840 (pro rata to 0.6 FTE) |
Contract Type |
Permanent |
Working Hours |
Maximum of 20 Hours Per Week (0.6 Equivalent Hours) |
Location |
Lampeter
|
Reporting To |
Student Opportunities Manager |
Responsible For |
|
Purpose |
|
What We Offer |
|
Principle Accountabilities
I. The post provides administrative assistance to the Student Opportunities Department Team for the purposes of delivering safe and fun student Opportunities for Lampeter students.
II. Support the growth of student volunteering within the Students’ Union across all locations, promoting opportunities, recruiting volunteers and assisting project leaders.
III. Support regular student-facing campaign and engagement activity around campus.
IV. Undertake research on the student experience as well as wants and needs of students at their relevant campus.
V. Act as a first point of contact for students requiring student support or academic representation, referring appropriately.
VI. Support student groups to achieve successful recruitment and running of their activity (including supporting fund-raising activity).
VII. To update students regularly through articles, blogs, and other methods of communication as deemed appropriate. Supporting elected representation roles and committee roles on campus with what they wish to deliver to students.
VIII. To encourage students to participate in activity that improves their University experience, develops their skills and/or creates a vibrant and engaging community, signposting relevant academic experience matters to the Student Voice Team.
IX. To champion core SU policies, including a commitment to equal opportunities; zero tolerance to harassment; sustainability; and bilingualism and the Welsh language.
X. To work with the Students’ Union to enhance the provision of high-quality activities and facilities for students, and the development of the range of activities and facilities available for the respective campuses.
XI. To ensure information is gathered and fed back between the Students’ Union, the University and Students regarding issues, wins, and challenges.
XII. To promote and refer students to the relevant University support services. Supporting initiatives that encourage student well-being and promote community cohesion.
XIII. To work flexibly around student hours and availability. This is likely to include regular evening and/or weekend work depending on the campus. Lampeter Students study on a block system, so aligning working days and times around this to be available for student engagement is important.
Pecyn Ymgeisio: Cynorthwyydd Cyfleoedd Myfyrwyr – Llambed
Amdanom Ni
Mae UM PCyDDS yn Undeb Myfyrwyr sydd â set unigryw o heriau a chyfleoedd. Rydym wedi’n gwasgaru dros 6 safle ar draws Cymru a Lloegr.
Mae'r safleoedd hyn yn cynnwys:
Birmingham - Sefydlwyd ein campws mwyaf newydd yn 2017. Mae Birmingham yn cynnwys dau safle, sef safle gwreiddiol Sparkhill a safle newydd Quay Place, gyda thri adeilad yng nghanol y ddinas. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn astudio rhaglenni Tystysgrif AU.
Caerdydd – Ein campws lleiaf o ran niferoedd myfyrwyr. Mae'r campws hwn wedi'i wasgaru ar draws gwahanol leoliadau yng nghanol Caerdydd, ac mae'n cynnig nifer o raglenni, gan gynnwys y Celfyddydau Perfformio a chyrsiau Tystysgrif AU.
Caerfyrddin – Campws ag iddo naws draddodiadol iawn, gan fod nifer o fyfyrwyr yn byw ar y campws, ac yn astudio ystod eang o raglenni megis Chwaraeon, Addysg, a’r Celfyddydau Perfformio.
Llambed – Dyma ein campws hynaf, sydd â’r ôl troed mwyaf, ond mae’r ail leiaf o ran niferoedd myfyrwyr. Dim ond cyrsiau dyniaethau y mae'r campws yn eu darparu ac mae iddo naws gymunedol gref.
Llundain – Sefydlwyd campws Llundain yn 2012 ac mae wedi ehangu’n gyflym i gapasiti; mae cynllun i symud lleoliad y safle i Canary Wharf ar y gweill. Y rhaglenni a gynigir yma yn bennaf yw rhai Tystysgrif AU.
Abertawe – Ein campws mwyaf o ran nifer y rhaglenni a gynigir a nifer y myfyrwyr; mae’r campws wedi’i wasgaru dros gyfres o adeiladau yng nghanol Abertawe ac yn ardal y marina.
Cawn ein harwain yn wleidyddol gan ein Swyddogion Sabothol, yn strategol gan ein Prif Weithredwr, ac yn elusennol gan ein Hymddiriedolwyr.
Gallwch weld ein tîm presennol yma: https://www.uwtsdunion.co.uk/about/team
Cenhadaeth y Tîm Cyfleoedd Myfyrwyr
Gwneud pob campws yn hwyl ac yn ddeniadol.
Gweledigaeth y Tîm Cyfleoedd Myfyrwyr
Bod yn Hwyl, yn Barhaol, yn Hygyrch, yn Ddibynadwy, yn Gefnogol ac yn Ysbrydoledig.
Swydd Ddisgrifiad: Cynorthwyydd Cyfleoedd Myfyrwyr – Llambed
Cyflog cychwynnol |
£21,840 (pro rata i 0.6 Cyfwerth â Llawn-amser) |
Math o Gytundeb |
Parhaol |
Oriau Gwaith |
Uchafswm o 20 awr yr wythnos (0.6 Cyfwerth â Llawn-amser) |
Lleoliad |
Llambed
|
Byddwch yn atebol i: |
Rheolwr Cyfleoedd Myfyrwyr |
Yn gyfrifol am: |
|
Pwrpas |
|
Yr Hyn Rydym yn ei Gynnig |
|
Prif Gyfrifoldebau
I. Mae deilydd y swydd yn darparu cymorth gweinyddol i Dîm yr Adran Cyfleoedd Myfyrwyr at ddibenion cynnig cyfleoedd diogel a hwyliog i fyfyrwyr Llambed.
II Cefnogi twf gwirfoddoli myfyrwyr o fewn Undeb y Myfyrwyr ar draws pob lleoliad, gan hyrwyddo cyfleoedd, recriwtio gwirfoddolwyr a chynorthwyo arweinwyr prosiect.
III Cynorthwyo gyda gweithgareddau ymgyrchu ac ymgysylltiad myfyrwyr o amgylch y campws.
IV Ymchwilio i brofiad myfyrwyr, yn ogystal â dymuniadau ac anghenion myfyrwyr ar eu campws perthnasol
V. Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer myfyrwyr sydd angen cymorth neu gynrychiolaeth academaidd, gan atgyfeirio fel y bo’n briodol.
VI. Rhoi cymorth i grwpiau myfyrwyr i recriwtio a chynnal eu gweithgareddau’n llwyddiannus (gan gynnwys helpu â gweithgareddau codi arian)
VII. Darparu myfyrwyr â'r diweddaraf trwy erthyglau, blogiau a dulliau eraill o gyfathrebu fel yr ystyrir i fod yn briodol. Cynnig cymorth i rolau cynrychiolaeth etholedig ac aelodau pwyllgor ar y campws gyda'r hyn y maent am ei gyflwyno i fyfyrwyr.
VIII. Annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gwella eu profiad yn y Brifysgol, yn datblygu eu sgiliau a/neu’n creu cymuned fywiog a deniadol, gan gyfeirio materion sy’n perthyn i’w profiad academaidd at Dîm Llais y Myfyrwyr.
IX. Hyrwyddo polisïau craidd yr Undeb, gan gynnwys ymrwymiad i gyfleoedd cyfartal; dim goddefgarwch i aflonyddu; cynaladwyedd; a dwyieithrwydd a'r Gymraeg.
X. Gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr i wella'r ddarpariaeth o weithgareddau a chyfleusterau o ansawdd uchel i fyfyrwyr, ynghyd â datblygu'r ystod o weithgareddau a chyfleusterau sydd ar gael ar gyfer y gwahanol gampysau.
XI. Sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chasglu a'i hadrodd yn ôl rhwng Undeb y Myfyrwyr, y Brifysgol a Myfyrwyr ynghylch materion o bwys, buddugoliaethau a heriau.
XII. Hyrwyddo a chyfeirio myfyrwyr at wasanaethau cymorth perthnasol y Brifysgol. Cynorthwyo mentrau sy'n hyrwyddo llesiant myfyrwyr ac yn hybu cydlyniad cymunedol.
XII Gweithio'n hyblyg o gwmpas oriau myfyrwyr a’u hargaeledd. Mae hyn yn debygol o gynnwys gweithio ar fin-nos a/neu ar benwythnosau’n rheolaidd, gan ddibynnu ar y campws. Mae myfyrwyr Llambed yn astudio ar system floc, felly mae'n bwysig alinio diwrnodau ac amseroedd gwaith o amgylch hyn er mwyn hwyluso ymgysylltiad myfyrwyr.