Cyfarchion, bobl y Ddaear!

Tuesday 14-02-2017 - 14:40

English

Cyfarchion, bobl y Ddaear!

 

I'r rheiny sydd ddim yn fy adnabod, Amy ydw i a fis Tachwedd ces i fy ethol gan gorff y myfyrwyr yn Swyddog Gwyrdd Caerfyrddin – HWRE! Mae hyn yn golygu bod gen i'r fraint o fynychu cyfarfodydd Cyngor y Myfyrwyr, y Pwyllgor Cynaladwyedd bob pythefnos a chynrychioli corff y myfyrwyr ar holl bethau gwyrdd. Hefyd, dwi wedi cael y pleser o gynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud â'r amgylchedd yn ogystal â gweithio gyda'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr i wneud PCYDDS yn fwy cydnaws â'r Ddaear.

 

Yn ystod y tri mis diwethaf, dwi wedi bod yn hynod brysur ac mae gen i newyddion cyffrous i'w cyhoeddi;

 

Yn gyntaf, mae gennym ni grŵp Facebook ‘UWTSD Earth Lovers’ ar gyfer popeth sy'n ymwneud â'r amgylchedd - ewch i'w weld a chofiwch glicio ar y botwm tanysgrifio i gadw'n gyfoes â'r digwyddiadau. Hefyd gweler y dudalen UWTSD Go Green gan y Swyddfa Amgylcheddol. Cliciwch hoffi ar honno hefyd. Os ydych chi ar Twitter hefyd, mae croeso i chi ddilyn @OutdoorDreads. Mae llawer o'u pyst yn ymwneud â materion a newyddion amgylcheddol, yn ogystal â digwyddiadau ar y campws (a'r tu hwnt iddo).

 

Achub Y Gwenyn

Fel dwi'n siŵr eich bod chi gyd wedi clywed, mae niferoedd gwenyn yn gostwng yn gyflym; mae tri math o gacynen eisoes wedi darfod ac mae chwarter gwenyn y DU bellach wedi'u cofnodi'n fath dan fygythiad. Y rhan fwyaf brawychus yw, heb wenyn, bydd dyn yn marw'n llythrennol, ac felly dwi wedi bod mewn cyfarfodydd ymhob man gydag amryw adrannau'r Brifysgol, gyda Charu Gwenyn a Chyfeillion y Ddaear Caerfyrddin er mwyn troi PCYDDS Caerfyrddin yn 'Gampws Caru Gwenyn'. Os hoffech chi gymryd rhan, anfonwch neges ataf i neu dewch i unrhyw un o'r digwyddiadau.

 

Ymhlith y materion, ymgyrchoedd a phrosiectau eraill dwi wrthi'n gweithio arnynt mae'r bwyd yn Nhŷ Bwyta Myrddin a Starbucks yn Halliwell, sy'n ymwneud â mwy o brydau llysieuol a fegan sy'n iach ac yn barod i fynd, gwastraffu llai o fwyd, mwy o gydweithio gyda'r gymuned, digwyddiadau ac ymgyrchoedd traws-gampws a chenedlaethol. Mae gennym ni broblem o ran parcio ar hyn o bryd, felly dwi hefyd yn gweithio ar brosiect rhannu ceir fel opsiwn amgen i ragor o le gwyrdd fel gall mwy o bobl barcio'u ceir. Mae cyfleusterau storio beiciau awyr agored wedi'u gwarchod rhag y tywydd mewn llety myfyrwyr ac mewn mannau allweddol eraill yn hanfodol.

 

Dyddiadau Pwysig;

 

Dydd Llun 13 Chwefror

PRYNU GWERTHU CYFNEWID UMYDDS yn Undeb y Myfyrwyr, 11am - 2pm. Oes gennych chi unrhyw eitemau diangen hoffech chi eu gwerthu, eu cyfnewid neu gael gwared â nhw? Dewch â'ch ffrindiau ac ewch i gael bwrdd i gychwyn yr Wythnos Werdd flynyddol! P'un a bod gennych chi lyfrau, dillad, cyfleusterau, cit chwaraeon, offer technegol, offerynnau, bagiau, addurnau'r ystafell wely neu hyd yn oed bocs o rawnfwyd! Uwchgylchwch eich bywyd yn PRYNU GWERTHU CYFNEWID UMYDDS ddydd Llun 13 Chwefror! ♻❤

 

Dydd Mawrth 14 Chwefror

UNIVERSITY VINTAGE FAIRS yn ymweld ag UMYDDS Caerfyrddin! Rhwng 11am a 5pm, bydd UVF yn dod â dillad 'vintage' anhygoel i'w gwerthu.

 

Dydd Mercher 15 Chwefror

HELPWCH GREU GARDD WENYN AR Y CAMPWS! Byddwn ni'n plannu blodau gwyllt sy'n addas i gacwn a chreu gwestai i wenyn. Ymunwch â ni yn y Neuadd Chwaraeon (y tu ôl i Noakes), 2-4pm.

 

Dydd Mawrth 21 Chwefror

CYFARFOD YNGHYLCH GWENYN gyda Charu Gwenyn a Chyfeillion y Ddaear Caerfyrddin yn Llyfrgell Gyhoeddus Caerfyrddin. Dewch draw os hoffech chi helpu i droi PCYDDS yn brifysgol sy'n gydnaws â gwenyn ac i rannu syniadau a thrafod sut gallwn ni, fel myfyrwyr, wneud gwahaniaeth.

 

Dydd Llun 27 Chwefror

GLANHAU TRAETH LLANSTEFFAN BEACH gyda Chadwch Gymru'n Daclus a Gofal Arfordir. Cwrdd ger y pwynt ailgylchu ym maes parcio'r traeth.

 

Dim ond rhai o'r digwyddiadau sy'n digwydd yn ystod yr wythnosau nesaf yw'r rhain, felly ewch ar ein cyfryngau cymdeithasol am y diweddaraf. Wrth gwrs, os oes gennych chi unrhyw syniadau, cwestiynau neu ddiddordebau amgylcheddol hoffech chi eu gwireddu, dewch i gael sgwrs.

 

Heddwch a chariad,


Y Swyddog Gwyrdd

 

1

 

Related Tags :

More Cymraeg ArticlesMore UWTSD Students' Union Articles

More Articles...