Mae'r Ferch Hon o'r Drindod yn Gallu: Harriet Green

Tuesday 21-03-2017 - 15:00

English

Pa chwaraeon/gweithgareddau ydych chi'n cyfranogi ynddynt?

Dawnsio a rhedeg.

 

Beth yw'r peth gorau am weithgareddau ymarfer corff?

Y teimlad gewch chi ar ôl gorffen rhedeg am bellter hir neu feistroli dawns arbennig o anodd a gwybod eich bod chi wedi mynd y tu hwnt i'r hyn roeddech chi'n meddwl bod modd i chi ei wneud.

 

Ydych chi erioed wedi wynebu rhwystrau wrth geisio cyfranogi mewn chwaraeon, a sut wnaethoch chi eu goresgyn (os o gwbl)?

Un o'r prif rwystrau yw goresgyn yr hyn bydd pobl arall yn ei feddwl a phoeni dydych chi ddim yn ddigon da/dydych chi ddim yn gallu cyflawni'ch amcan. Y ffordd orau o oresgyn hyn yw dod o hyd i rywun fydd yn ymarfer gyda chi; boed yn bartner rhedeg neu ffrind sydd am fynd ar deithiau cerdded gyda chi bob wythnos. Fel hyn, bydd modd i chi ysgogi, helpu ac annog eich gilydd ac mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol pan na fyddwch chi am barhau.

 

Pa chwaraeon neu weithgaredd fyddech chi'n hoffi rhoi cynnig arnynt, ond dydych chi erioed wedi cael y cyfle?

Byddwn i'n dwli ar roi cynnig ar focsio am ei fod yn ymarfer da ac mae'n cryfhau rhannau uchaf y corff yn enwedig!

 

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth bobl eraill sydd am gymryd rhan mewn chwaraeon, ond sy'n rhy ofnus neu'n gofidio gormod i fynd ati?

Y rhan anoddaf am ddod yn actif yw dechrau; unwaith i chi wneud hynny, rydych chi wedi pasio'r glwyd gyntaf eisoes. Peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar gamp newydd – ewch ar eich cyflymder eich hun, dechreuwch yn araf a cheisiwch wella. Does dim disgwyl i neb allu rhedeg pellter hir y tro cyntaf neu allu cofio dawns gyfan yn eu dosbarth dawnsio cyntaf. Dechreuwch gyda'r hyn sy'n gyfforddus i chi ac ewch ati un cam ar y tro. Fydd dim diwedd i'r hyn gallech chi ei gyflawni os na fyddwch chi'n trio.

 

Pam ddewisoch chi'r gamp/gweithgaredd rydych chi'n cymryd rhan ynddi ar hyn o bryd?

Roeddwn i'n dawnsio ers saith mlynedd cyn dod i'r Brifysgol felly roedd gen i wybodaeth gefndir o'r gamp eisoes, ond roedd rhedeg yn gamp gwbl newydd i mi. Dewisais i redeg oherwydd doeddwn i ddim yn hapus â'r ffordd roeddwn i'n teimlo ac awgrymodd fy ffrind gorau o gartref i mi fynd ati, a hithau'n rhedwr pellter hir.

 

Fu rhaid i chi oresgyn ofnau ynglŷn â chael eich beirniadu er mwyn cyfranogi mewn chwaraeon neu'r gweithgaredd o'ch dewis?

Bu, wrth redeg a dawnsio. Mae dawnsio'n wahanol ofn i redeg am eich bod chi mewn ystafell o ddawnswyr o bob gallu ac yn amlwg dydych chi ddim am godi cywilydd ar eich hun neu gwympo i'r llawr wrth roi cynnig ar naid. Serch hynny, yn y gymdeithas ddawns yn Llambed, rydyn ni'n annog pawb i roi cynnig ar bethau newydd ac mae'n amgylchedd hynod gyfforddus felly dwi'n gwybod fy mod i'n gallu ymddiried ym mhawb yn y stiwdio ddawns.

Mae rhedeg ychydig yn wahanol os ydych chi'n byw mewn tref fach fel Llambed. Mae'n anodd dod o hyd o ffyrdd oni bai am brif ffyrdd. Roedd hyn yn broblem i mi i ddechrau oherwydd roedd hi'n well gen i redeg gyda'r nos ac roedd angen i mi redeg ar ffyrdd wedi'u goleuo'n dda. Roeddwn i'n teimlo byddai pobl oedd yn gyrru heibio'n fy meirniadu neu'n meddwl fy mod i'n edrych yn ddwl. I oresgyn hyn, dechreuais i redeg gyda fy ffrind a helpodd hyn yn fawr oherwydd roedd y ddau ohonom yn ysgogi ein gilydd i beidio rhoi'r ffidil yn y to, ble bynnag roeddwn ni'n rhedeg
😎

 

Ydych chi'n teimlo eich bod chi wedi cael unrhyw fudd yn sgil cyfranogi yn y gamp/gweithgaredd o'ch dewis?

Rydw i wedi cael llwyth o fuddion ers i mi ddechrau rhedeg; dwi'n teimlo'n llawer mwy hyderus, mae fy iechyd meddwl wedi gwella cymaint ac mae hyn wedi adlewyrchu ar fy ngwaith academaidd yn ogystal â fy mywyd cymdeithasol. Mae gen i fwy o egni sy'n para gydol y dydd, gwell patrwm cysgu a rhagolwg iachach a hapusach ar fywyd yn gyffredinol. Trwy fod yn actif, rydych chi'n dewis treulio amser yn canolbwyntio arnoch chi a gwella'ch ffitrwydd; mae angen amser arnom ni gyd i weithio ar ein hunain a bod y bobl orau gallwn fod!

 

 

 

Related Tags :

More Cymraeg ArticlesMore UWTSD Students' Union Articles

More Articles...