Beth yw'r ACF? Pam mae hyn yn bwysig? Sut mae modd i ni ei ddefnyddio

Thursday 15-12-2016 - 14:25
Nss

English

 

Mae'r ACF, neu'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, yn arolwg blynyddol o bob myfyriwr israddedig blwyddyn olaf yn y DU. Hwn yw sylfaen y mwyafrif o dablau cynghrair cenedlaethol ac mae prifysgolion ledled y wlad yn defnyddio'r adborth mae'n ei roi fel sail i lawer o'u gwaith. Mae llawer o'r gwelliannau rydych chi wedi dwyn budd ohonynt (hyd yn oed os nad ydych chi'n gwybod eich bod chi) yn dod o'r adborth a roddir gan y myfyrwyr a oedd yn y brifysgol yn flaenorol. Dyna pam mae'r Brifysgol, ac Undeb y Myfyrwyr, mor awyddus i bawb sy'n gallu ei lenwi i wneud hynny a pham ym mis Mawrth byddwch chi'n clywed llawer amdano. 

 

Mae myfyrwyr yn llenwi'r ACF yn ystod misoedd olaf eu tymor olaf yn y Brifysgol drwy holiadur ar-lein. Mae prifysgolion yn treulio llawer o amser yn dadansoddi'r canlyniadau – gan weld lle maen nhw'n methu, yr hyn maen nhw'n ei wneud yn dda ac wrth ddadansoddi'r ymatebion yn ôl pwnc, mae llawer o bwysedd gan y brifysgol yn ganolog ar ysgolion ac athrofeydd i annog cymaint o fyfyrwyr â phosib i lenwi'r arolwg ac i gynnig cynlluniau gweithredu ar sail yr ymatebion. 

 

Rydyn ni fel undeb myfyrwyr yn cefnogi hwn yn fawr am mai hon yn aml yw'r ffordd orau sydd gennym o dynnu sylw'r ysgolion at broblemau. O ran eich rôl fel cynrychiolwyr cwrs a chyfadran, fe welwch ei bod yn llawer haws ategu'r hyn rydych chi'n ei ddweud os mae modd i chi gyfeirio at dystiolaeth. Mae llawer o ysgolion a staff yn fodlon ystyried y pwyntiau rydych chi wedi'u codi ar sail adborth gan eich cyd-fyfyrwyr yn unig, ond bydd rhai aelodau staff yn fwy agored os oes gennych chi rywbeth arall i gynnal yr adborth hwnnw.

 

Gall y wefan www.unistats.com (dilynwch y ddolen hon am ganllaw ar sut i ddefnyddio'r wefan - https://youtu.be/65iU97jC67g) fod yn hynod ddefnyddiol. Mae'r safle hwn yn casglu gwybodaeth gan sawl ffynhonnell, yn enwedig yr ACF ac yn caniatáu i chi edrych ar y canlyniadau mewn ffordd hawdd ei dilyn ar gyfer eich cwrs. Ynghyd â gwybodaeth arall (adborth oddi wrth eich cyd-fyfyrwyr yw'r pwysicaf), gallwch chi ddechrau datblygu dadl ar sail tystiolaeth ar y materion rydych chi am eu codi gyda'ch ysgol. Gallwn ni weithio gyda chi i edrych ar y data ac i roi arweiniad ar y meysydd a allai fod angen i'ch ysgol ganolbwyntio arnynt ac o ran sut i ddefnyddio'r wybodaeth i wella profiad myfyrwyr. 

 

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, byddwn ni'n gofyn am gymorth o ran annog pobl i lenwi'r ACF. Bydd rhagor o wybodaeth yn y dyfodol, ond mae eich cysylltiad uniongyrchol â myfyrwyr yn golygu mai chi yw'r adnodd gorau sydd gennym ni i ennyn diddordeb yn yr hyn rydyn ni'n ei wneud, ac mae hwnnw'n cynnwys yr ACF. Gobeithio byddwch chi o leiaf yn ei lenwi os ydych chi'n fyfyriwr blwyddyn olaf.

Related Tags :

More Cymraeg ArticlesMore UWTSD Students' Union Articles

More Articles...