Pa chwaraeon/gweithgareddau ydych chi'n cyfranogi ynddynt?
Rydw i'n chwarae hoci i dîm hoci'r menywod.
Beth yw'r peth gorau am weithgareddau ymarfer corff?
Pan dwi'n chwarae, mae'n fy helpu i anghofio am bopeth arall am ychydig o amser.
Ydych chi erioed wedi wynebu rhwystrau wrth geisio cyfranogi mewn chwaraeon, a sut wnaethoch chi eu goresgyn (os o gwbl)?
Ar wahân i ymrwymiadau gwaith, naddo. Does dim byd wedi fy atal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon; dwi wastad wedi gallu cyfranogi.
Pa chwaraeon neu weithgaredd fyddech chi'n hoffi rhoi cynnig arnynt, ond dydych chi erioed wedi cael y cyfle?
Dwi'n credu y byddai rygbi'n hwyl.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth ferched eraill sydd am gymryd rhan mewn chwaraeon, ond sy'n rhy ofnus neu'n gofidio gormod i fynd ati? /Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth bobl eraill sydd am gymryd rhan mewn chwaraeon, ond sy'n rhy ofnus neu'n gofidio gormod i fynd ati?
Pa ots beth mae pobl eraill yn ei feddwl? Ewch ati i wneud beth bynnag y mynnwch. Mae hyn yn 100% gwir am ein clwb hoci. Does neb yn y tîm yn eich beirniadu, ac mae pawb y ffrindiau da, ar y cae ac oddi arno, pryd bynnag y bu iddyn nhw ymuno â'r clwb.
Pam ddewisoch chi'r gamp/gweithgaredd rydych chi'n cymryd rhan ynddi ar hyn o bryd?
Fel y dywedais, dwi wedi chwarae hoci gydol fy amser yn yr ysgol, a phan ymunais i â chlwb des y ffrindiau gorau â'm cyd-chwaraewyr. Wedyn ar ôl i mi ddod i Aber, ymunais â thîm y brifysgol, gan wneud yr un peth yma, a bellach fi yw'r capten. Felly dwi wedi dod ymlaen yn y gamp dwi wedi ei mwynhau ers blynyddoedd.
Fu rhaid i chi oresgyn ofnau ynglŷn â chael eich beirniadu er mwyn cyfranogi mewn chwaraeon neu'r gweithgaredd o'ch dewis?
Naddo, ddim mewn gwirionedd.
Ydych chi'n teimlo eich bod chi wedi cael unrhyw fudd yn sgil cyfranogi yn y gamp/gweithgaredd o'ch dewis?
Do, yn sicr! Mae wedi fy helpu gryn lawr â fy hyder, wedi fy helpu i deimlo'n well amdanaf fy hun ac wedi gwella fy sgiliau gweithio mewn tîm. Mae hefyd wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu a threfnu, drwy fod yn bwynt cyswllt ar gyfer yr UM.
+