Mae'r Ferch Hon o'r Drindod Yn Gallu: Summer Williams

Thursday 23-03-2017 - 15:22

English

 

Summer Williams: Rygbu Menywod PCYDDS A Charwr Y Campau 

 

Helo, fy enw i yw Summer Williams, a dwi'n fyfyrwraig ryngwladol sy'n astudio Saesneg ac Athroniaeth yma ar Gampws Llambed o PCYDDS. Dwi wedi dewis bod yn rhan o dîm Rygbi'r Menywod er mwyn rhoi cynnig ar rywbeth newydd, a hynny mewn gwlad newydd.

Doedd gen i ddim llawer o obeithion am y gamp, gan fy mod i'n weddol heini ac yn dysgu campau newydd yn gyflym. Wel, fe ges i gryn sioc yn hynny o beth! Mae'r gamp nid yn unig yr un fwyaf corfforol i mi erioed ei chwarae, ond hefyd yr un fwyaf heriol yn feddyliol. Mae cymaint o bethau i'w dysgu, cymaint o strategaethau, a dwi o hyd yn dysgu pethau newydd.

Fel rhywun sy'n hoffi bwrw pethau, mae digonedd o hynny hefyd! Y peth gorau am gymryd rhan mewn chwaraeon yw'r ffordd rydych chi'n teimlo wedyn. Dwi wrth fy modd bod yn yr awyr agored, yn taflu unrhyw fath o bêl neu'n mynd i redeg. Dwi'n hoffi pob math o chwaraeon dŵr, a dwi'n gobeithio cael profiad o arfordir anhygoel Cymru cyn bo hir. Rai dyddiau, pan nad ydych chi'n teimlo fel mynd y tu allan neu fynd ati i wneud unrhyw beth, mae mynd allan a chymryd rhan mewn chwaraeon y peth gorau y gallwch chi ei wneud! Manteisiwch ar yr endorphins a'r awyr iach.

Mae i'r rhan fwyaf o dimau'r brifysgol sawl clic a gwleidyddiaeth fewnol, ond cefais groeso cynnes gan dîm rygbi'r menywod.

Dwi wedi wynebu rhywstrau yn y gorffennol, ac mae rhaid i chi edrych yn ddwfn a sylweddoli os ydych chi am wneud rhywbeth, yna ddylech chi ddim malio beth mae eraill yn ei ddweud neu'n ei wneud.

Dwi wrth fy modd yn profi pobl yn anghywir a gwella gam wrth gam. Mae wynebu popeth fel her yn ddefnyddiol iawn yn hyn o beth. Hyder yw hyn, ond does dim rhaid i chi fod wedi cael eich geni'n hyderus, gallwch ei feithrin. Mae pawb yn dda am rywbeth. Yr unig ffordd o ganfod beth yw hynny yw rhoi cynnig ar bopeth! I gyflawni unrhyw beth mewn bywyd, rhaid i chi fod yn gyfforddus â'r anghyfforddus!

Rhowch gynnig ar yr annisgwyl, oherwydd fyddwch chi byth yn gwybod beth sydd o fewn eich gallu nes byddwch chi'n rhoi cynnig arni. Dewisais i rygbi oherwydd roeddwn i'n gwybod ei bod yn gamp gorfforol ac roedd pêl yn rhan o'r fargen. Doeddwn i erioed wedi chwarae'r gamp cyn i mi gyrraedd yma ym mis Medi. Nid yn unig yw hyn wedi bod yn gyfle i mi gael gwared ar straen a thyndra, mae wedi dysgu i mi fy mod i'n gallu gwneud unrhyw beth. Mae wedi fy nysgu mai agwedd yw popeth. Dwi'n edrych ar eraill o'm hamgylch ar y tîm, sy'n newydd i'r gamp fel fi, a dwi'n gweld fod y profiad wedi rhoi rhyw sbardun iddyn nhw, wedi rhoi cyfle iddyn nhw fod yn rhan o rywbeth. Dyna beth mae chwaraeon yn ei wneud. Mae'n rhoi cyfle i bobl deimlo eu bod yn perthyn. Mae gwahanol rolau mewn gwahanol gampau. Mae pob un mor bwysig â'i gilydd. Golyga hyn bod lle i bawb.

Doeddwn i erioed wedi chwarae rygbi adre yng Nghanada, oherwydd doeddwn i ddim yn credu ei bod yn gamp deilwng, ac roedd y ddelwedd mai dim ond merched mawr cyhyrog oedd yn ei chwarae. Oes, mae merched cyhyrog yn chwarae'r gamp, ond mae rhai bach cyflym hefyd, a'r rheiny sydd rywle yn y canol. Mae gan bob math o chwaraewyr rôl ar y cae, ac maen nhw i gyd yn cyfrannu at yr amcan terfynol. Mae gen i gymaint o barch at unrhyw chwaraewr sy'n penderfynu camu ar y cae a mynd amdani. Rydyn ni angen pob siap o gyrff i guro'r tîm arall. Mae pob chwaraewr, beth bynnag fo'i siap, maint neu bwysedd, yr un mor bwysig â'i gilydd. Ers i mi ddechrau chwarae rygbi ym Medi, dwi wedi teimlo'n ostyngedig.

Mae rygbi'n gamp anhygoel, ac mae'r gwobrau'n rhai teilwng.

Mae fy meddylfryd tuag at chwaraeon yn gyffredinol wedi newid. Fydda i byth eto'n edrych ar gamp arall fel rhywbeth 'annheilwng'. Mae gweld y strategaeth sy'n mynd i mewn i bob gêm hefyd o fudd ar gyfer campau eraill. Maent i gyd yn perthyn i'w gilydd. Roeddwn i'n ystyried fy hun i fod yn athletwraig o'r blaen, ond nawr dwi'n gweld fy hun fel athletwraig fwy cymwys ac yn berson mwy cyflawn. Os oes unrhyw un yn ystyried rhoi cynnig ar gamp neu weithgaredd newydd, buaswn i'n dweud, ewch amdani, ar bob cyfrif!

Y peth gwaethaf a allai ddigwydd yw eich bod chi'n sylweddoli nad yw'n iawn i chi; y peth gorau a allai ddigwydd yw eich bod yn canfod gweithgaredd sy'n cyfoethogi eich bywyd. Mae'r dewis yn hawdd. EWCH AMDANI. Neges Summer ar gyfer rygbi menywod.

 

 

Related Tags :

More Cymraeg ArticlesMore UWTSD Students' Union Articles

More Articles...