Eich Rhestr Wirio

Eich Rhestr Wirio Bywyd Myfyrwyr

Eich Rhestr Wirio

0/7 Done
 
 
Progress saved

Mae mynd i'r brifysgol yn gyfle anhygoel, ond gall hefyd fod yn sioc i’r system os nad ydych chi wedi paratoi. Rydyn ni yma i'ch helpu chi i addasu i fywyd prifysgol a gwneud y broses gyfan mor ddidrafferth â phosibl.

Rydyn ni wedi llunio ein rhestr wirio ar-lein, gyda digonedd o wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu chi i fod yn barod ar gyfer y brifysgol. Mae hyn yn cynnwys pethau i'w gwneud cyn i chi gyrraedd y brifysgol, ac yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf.


Cyn i chi gyrraedd y Brifysgol

  1. Cyllid Myfyrwyr: Gwnewch yn siŵr bod eich cyllid myfyrwyr wedi'i drefnu'n llwyr - gallwch wneud hyn trwy Gyllid Myfyrwyr Lloegr a Chyllid Myfyrwyr Cymru.
  2. Llety: Os ydych chi'n symud i lety, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi darllen y contract a bod popeth wedi'i gadarnhau ymlaen llaw.
  3. Gwaith papur: P'un a ydych chi'n symud i'r brifysgol ai peidio, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n casglu'ch dogfennau pwysig at ei gilydd a'u cadw'n ddiogel. Gall hyn fod yn llythyrau derbyn, gwybodaeth am gofrestru, cadarnhad llety, polisïau yswiriant, cyllid myfyrwyr, a.y.b.
  4. E-bost myfyriwr: Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru, bydd gennych chi fynediad i'ch e-bost myfyriwr. Gwnewch yn siŵr y gallwch chi fewngofnodi iddo.
  5. Ysgogi eich Cyfrif Undeb Myfyrwyr: Ewch i'n gwefan ac ysgogwch eich cyfrif gan ddefnyddio'r botwm "mewngofnodi ag e-bost myfyriwr".

Yr ychydig ddyddiau cyntaf yn y Brifysgol

  1. Cyflwyno’ch hun: Mae cyflwyno'ch hun i gyd-letywyr a myfyrwyr eraill ar eich cwrs yn un o'r ffyrdd gorau o ddod i adnabod pobl. Cadwch bethau'n hamddenol - gofynnwch beth yw eu henw, o ble maen nhw'n dod, eu cwrs, ac a ydyn nhw'n mynd i unrhyw un o ddigwyddiadau’r Glas.
  2. Archwilio’r campws a'r dref: Peidiwch ag ynysu'ch hun. Treuliwch amser yn yr ardal gymunedol a'r ystafelloedd dosbarth, gofynnwch i bobl a ydyn nhw eisiau mynd i'r dref, gwylio rhywbeth, neu gael rhywbeth i'w fwyta.
  3. Mynychu Ffair y Glas: gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â'n Ffeiriau’r Glas (mae'r rhain yn cael eu cynnal yng Nghaerfyrddin ac Abertawe ym mis Medi).
  4. Mynychu rhai o ddigwyddiadau’r Glas: Edrychwch ar restr digwyddiadau’r Glas i ddod o hyd i ddigwyddiadau yn eich ardal chi - maen nhw i gyd wedi'u cynllunio i'ch helpu chi i gael hwyl a chymysgu â myfyrwyr eraill.
  5. Cerdyn adnabyddiaeth myfyriwr: Siaradwch â thîm HWB y brifysgol i gael eich cerdyn myfyriwr.

Iechyd a llesiant

  1. Gwirio eich brechlynnau: Trefnwch apwyntiad â'ch meddyg teulu presennol i fynd dros eich brechlynnau a threfnu unrhyw bigiadau atgyfnerthu sydd ar goll neu sydd angen eu diweddaru.
  2. Dod o hyd i feddyg teulu lleol: Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru â meddyg teulu lleol
  3. Archwiliad Deintyddol: Trefnwch archwiliad deintyddol cyn symud: gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu unrhyw waith deintyddol cyn dechrau eich astudiaethau (does neb eisiau dechrau tymor gyda dannoedd).
  4. Llid yr Ymennydd (Meningitis): Gall llid yr ymennydd effeithio ar unrhyw un, o unrhyw oedran, ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, mae pobl yn eu harddegau ac oedolion ifanc mewn mwy o berygl. Dylech fwrw golwg ar ein gwybodaeth am lid yr ymennydd

Mae gan GIG Cymru a GIG Lloegr offer ar-lein i'ch helpu i ddod o hyd i wasanaethau iechyd a llesiant yn eich ardal chi (mae hyn yn cynnwys deintyddion, meddygon teulu, a fferyllfeydd):

  1. Teclyn gwasanaethau GIG Cymru yn eich ardal chi
  2. Teclyn gwasanaethau GIG Lloegr yn eich ardal chi

Llid yr Ymennydd (Meningitis)

  1. Meningitis yw llid y pilenni sy'n amgylchynu ac yn amddiffyn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn - mae'n salwch difrifol a all newid bywyd a gall hyd yn oed fod yn angheuol. 
  2. Gall llid yr ymennydd effeithio ar unrhyw un, o unrhyw oedran, ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, mae pobl yn eu harddegau ac oedolion ifanc yn fwy tebygol o gario'r bacteria sy'n achosi meningitis, a dyna pam mae myfyrwyr mewn mwy o berygl.

The early symptoms of meningitis are similar to "Freshers Flu" - this is fever, headache, vomiting, diarrhoea, muscle pain, stomach cramps, and cold hands and feet. Check out our dedicated meningitis post that goes into further detail. Know the symptoms, act early, and look after yourself and your fellow students.

Mae symptomau cynnar llid yr ymennydd yn debyg i "Fliw’r Glas" - sef twymyn, cur pen, chwydu, dolur rhydd, poen yn y cyhyrau, crampiau stumog, a dwylo a thraed oer. Edrychwch ar ein gwybodaeth am lid yr ymennydd sy’n darparu mwy o fanylion. Byddwch yn ymwybodol o'r symptomau, gweithredwch yn gynnar, a gofalwch amdanoch chi'ch hun a'ch cyd-fyfyrwyr.


Bancio, Cyllidebau, Yswiriant

  1. Sefydlu cyfrif banc myfyriwr: Mae llawer o fanciau'n cynnig cyfrifon banc yn arbennig ar gyfer myfyrwyr. Mae rhai’n cynnig cymhellion am ymuno (fel cardiau rheilffordd am ddim), ac mae rhai hyd yn oed yn cynnig gorddrafft wedi’u trefnu’n ddi-log. Allwn ni ddim pwysleisio hyn ddigon - darllenwch y telerau ac amodau yn ofalus. Fel arfer bydd angen eich côd UCAS neu lythyr cadarnhau arnoch chi fel rhan o'r broses o wneud cais am gyfrif banc myfyriwr.
  2. Creu cyllideb: Mae llunio cyllideb a chadw ati’n un o'r ffyrdd gorau o gadw trefn ar eich arian yn y brifysgol ac arbed llawer o straen i chi'ch hun. Mae yna rywfaint o offer ar-lein gwahanol i'ch helpu i wneud hynny, fel Cyfrifiannell Cyllideb Myfyrwyr What Uni?.
  3. Disgownt i Fyfyrwyr: Mae bod yn fyfyriwr yn golygu bod gennych chi fynediad unigryw i lwyth o ostyngiadau. P'un a ydych chi'n fyfyriwr, yn brentis, neu'n broffesiynwr, ewch i'n gwefan gostyngiadau a chynigion i weld beth allwch chi gael mynediad iddo.
  4. Ystyriwch Yswiriant Cynnwys Myfyrwyr: Mae yswiriant cynnwys myfyrwyr yn fath o yswiriant sy'n helpu i yswirio eich eiddo tra byddwch chi'n byw oddi cartref yn y brifysgol. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer bywyd myfyrwyr - gall hyn fod yn neuaddau preswyl, llety preifat, neu dŷ wedi’i rannu gyda myfyrwyr eraill. Mae yna lawer o ddarparwyr ar gael, felly mae'n bwysig gwneud eich ymchwil i ddod o hyd i'r trefniant sy'n iawn i chi, os ydych chi ei angen.
     

Gwneud Ffrindiau

Mae bron pawb yn poeni am wneud ffrindiau yn y brifysgol. Ond peidiwch â chynhyrfu - mae pawb yn yr un sefyllfa. Mae cyfeillgarwch yn y brifysgol yn aml yn tyfu'n raddol - dyma rai awgrymiadau i'ch helpu i ymgartrefu.

  1. Cyflwyno’ch hun: Mae cyflwyno'ch hun i gyd-letywyr a myfyrwyr eraill ar eich cwrs yn un o'r ffyrdd gorau o ddod i adnabod pobl. Cadwch bethau'n hamddenol - gofynnwch beth yw eu henw, o ble maen nhw'n dod, eu cwrs, ac a ydyn nhw'n mynd i unrhyw un o ddigwyddiadau’r Glas.
  2. Ymuno â grwpiau ar-lein: Holwch a oes gan eich cwrs neu'ch llety grŵp ar-lein y gallech chi ymuno ag e.
  3. Cyn cyrraedd: Mae’n bwysig mynychu unrhyw gyfarfodydd neu ddigwyddiadau ar-lein cyn cyrraedd.
  4. Ymuno â Chymdeithasau a Chlybiau Chwaraeon: dyma un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud ffrindiau sydd â diddordebau cyffredin. Gallwch fwrw goleg ar ein grwpiau myfyrwyr ac ymuno â nhw ar ein gwefan clybiau a chymdeithasau.
  5. Mynychu digwyddiadau’r Glas: Mae Wythnos y Glas yn bodoli'n benodol i helpu pobl i gwrdd â'i gilydd - mae'r rhestr i’w gweld ar ein Tudalen we’r Glas.
  6. Mentro y tu allan i'ch ystafell: Peidiwch ag ynysu'ch hun. Treuliwch amser yn yr ardal gymunedol a'r ystafelloedd dosbarth, gofynnwch i bobl a ydyn nhw eisiau mynd i'r dref, gwylio rhywbeth, neu gael rhywbeth i'w fwyta.
     

Dolenni Defnyddiol