Cysylltwch

E-bost a Ffôn

Os ydych chi eisiau cysylltu â ni drwy e-bost, defnyddiwch union@uwtsd.ac.uk. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl - fel arfer o fewn un diwrnod gwaith, ond gall hyn gymryd mwy o amser ar adegau prysur. I siarad â rhywun, ffoniwch ni ar 01792 482100.

Mae ein swyddfeydd yn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 09:00 - 17:00 (GMT), ac rydym yn ymateb i e-byst ac yn ateb galwadau yn ystod yr oriau hyn.


Ein Swyddfeydd

Gallwch ymweld â'n swyddfeydd pan fyddant ar agor, sef o ddydd Llun i ddydd Gwener, 09:00 - 17:00 (GMT). Isod mae eu cyfeiriadau, gyda dolenni i What3Words a Google Maps.


Ein Timau

Swyddogion Sabothol

Cânt eu hethol gan fyfyrwyr ac maent yn gweithio’n llawn-amser i helpu â chyfeirio ein gwaith a chynrychioli ein holl aelodau (myfyrwyr PCyDDS) i’r Brifysgol a thu hwnt. Mae pedair swydd Llywydd: Llywydd Birmingham a Llundain, Llywydd Caerdydd ac Abertawe, Llywydd Caerfyrddin, a Llywydd y Grŵp. Gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt ar wefan y llywyddion.

Tîm Cyfleoedd

Nod ein tîm Cyfleoedd yw darparu hwyl. Mae eich amser fel myfyriwr yn fwy na dim ond darlithoedd, ac fel aelod, gallwch gymryd rhan mewn llwyth o wahanol weithgareddau, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau neu fynd ati i’w sefydlu o amgylch diddordeb neu angerdd cyffredin. Gallwch gysylltu â'n tîm Cyfleoedd yn uniongyrchol drwy e-bostio  suopportunities@uwtsd.ac.uk.

Tîm Cynghori

Rydyn ni i gyd angen help weithiau - fel aelod, gallwch chi ddefnyddio ein gwasanaeth cynghori. Mae’n annibynnol, yn gyfrinachol ac am ddim. Rydym am eich grymuso i wneud y penderfyniadau sy'n iawn i chi. Gallwch gysylltu â'n tîm Cynghori yn uniongyrchol drwy e-bostio unionadvice@uwtsd.ac.uk.

Tîm Llais

Mae ein tîm Llais yn frwd dros sicrhau bod syniadau a barn myfyrwyr yn cael eu trosglwyddo i'r bobl sydd angen eu clywed. Nhw sy’n rheoli ein cynrychiolwyr myfyrwyr (a fyddwch chi'n dod yn un?); maen nhw hefyd yn gofalu am ein platfform Syniadau Mawr, ac yn gyfrifol am bopeth sy'n ymwneud ag etholiadau myfyrwyr. Gallwch gysylltu â'n tîm Llais yn uniongyrchol drwy e-bostio studentvoice@uwtsd.ac.uk.