Clwbiau a Cymdeithasau

Mae myfyrwyr yn dweud wrthym fod bod yn rhan o glwb neu gymdeithas yn un o'u hoff brofiadau prifysgol. Boed yn angerdd neu ddiddordeb, cystadleuol neu gyfeillgar, ar gyfer ffitrwydd neu hwyl - mae gennym rywbeth at ddant pawb.

Gallwch wneud ffrindiau a dilyn eich angerdd. Mae bod yn rhan o Glwb neu Gymdeithas yn ffordd wych o wneud ffrindiau gyda myfyrwyr eraill sydd â diddordebau ac angerdd tebyg. Mae ein Clybiau a Chymdeithasau yn helpu i ddod â myfyrwyr ynghyd, gyda gweithgareddau rheolaidd a chynhwysol, fel hyfforddiant, cyfarfodydd a digwyddiadau cymdeithasol.

Mae ein holl glybiau a chymdeithasau’n cael eu harwain gan fyfyrwyr, ond beth mae hyn yn ei olygu? - Mae'n golygu bod myfyrwyr yn sefydlu ac yn rhedeg eu grwpiau i adlewyrchu eu diddordebau. Gallwch chi sefydlu'ch grŵp eich hun yn hawdd trwy ymweld â'n tudalen dechrau grŵp.

Os oes gennych chi gwestiwn am Glybiau a Chymdeithasau, anfonwch e-bost at ein tîm Cyfleoedd Myfyrwyr yn suopportunities@uwtsd.ac.uk.