Etholiadau Myfyrwyr

two people holding tote bags reading "student reps"

Credwn fod myfyrwyr yn rym er daioni  - mae gan eich syniadau, eich gweithredoedd a’ch angerdd y potensial i newid sut mae pethau’n cael eu gwneud yn PCyDDS a thu hwnt.

Rydym yn elusen dan arweiniad myfyrwyr, sydd â llwyth o rolau i’n helpu i rymuso ein cymunedau myfyrwyr – o Lywyddion Undeb Llawn-amser (cyflogedig) i Swyddogion Rhan-amser, Myfyrwyr Ymddiriedolwyr a Chadeirydd yr Undeb (gwirfoddol) – mae pob un o’r rolau hyn yn cyfrannu at ein gwaith.

Fel myfyriwr, gallwch enwebu eich hun ar gyfer rôl, dod yn ymgeisydd, a sefyll yn ein hetholiadau – ac mae pob myfyriwr yn cael cyfle i bleidleisio.

Esbonio’r Broses Etholiadol

P'un a ydych chi’n brofiadol ym maes etholiadau neu mai dyma'r tro cyntaf i chi gymryd rhan, byddwn yn eich tywys chi trwy'r broses. Mae tri cham i’n hetholiadau myfyrwyr - enwebiadau, lle mae myfyrwyr yn dod o hyd i rôl y mae ganddynt ddiddordeb ynddi ac yn cyflwyno enwebiad i fod yn ymgeisydd - pleidleisio, lle mae myfyrwyr yn pleidleisio dros yr ymgeiswyr y maent am weld yn cael eu hethol i'r rôl - a’r canlyniadau, lle rydym yn cyhoeddi’r rhai sydd wedi cael eu hethol. Defnyddiwch y tabiau isod i weld manylion pob un o’r camau hyn. 

Ynglŷn â’r Etholiadau

Cwestiynau Cyffredin

Meddwl sefyll am un o'r rolau, ond mae gennych chi ychydig o gwestiynau? Edrychwch ar rai o'n cwestiynau cyffredin isod! Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â'r Tîm Etholiadau yn elections@uwtsd.ac.uk.  

A allaf sefyll ar gyfer unrhyw un o'r rolau yn ystod yr etholiadau?

Gall myfyrwyr Birmingham, Caerdydd a Llundain sefyll am rolau Llywydd y Grŵp, Myfyriwr Ymddiriedolwr neu Gadeirydd yr Undeb.

Gall myfyrwyr Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe sefyll am rolau Llywydd y Grŵp, Llywydd y Campws, Swyddog Rhan-amser, Myfyriwr Ymddiriedolwr, neu Gadeirydd yr Undeb.

Dwi'n cael trafferth enwebu

Yn gyntaf, gwiriwch eich bod yn gymwys i sefyll am y rôl honno. Ar gyfer rhai rolau mae angen i chi fod yn fyfyriwr sy'n astudio ar y campws hwnnw. Os ydych chi’n dal i gael anawsterau, cysylltwch â ni elections@uwtsd.ac.uk

Faint o arian fydd yn ei gostio i mi sefyll yn yr etholiadau? 

Dim byd; byddwn yn ad-dalu unrhyw arian y byddwch chi’n ei wario yn yr etholiad. Mae gan bob ymgeisydd gyllideb i gadw ati - gallwch ddarllen hon yn ein rheoliadau ariannol.

Dydw i ddim yn siŵr beth i'w roi yn fy maniffesto.

Rydyn ni wedi gosod rhai adnoddau a chwestiynau ar y wefan i'ch helpu chi i ysgrifennu'ch maniffesto! Mynnwch sgwrs gyda'ch ffrindiau a’r rheiny sydd ar eich cwrs er mwyn dysgu am yr hyn mae myfyrwyr am ei weld ei weld gan eu Hundeb Myfyrwyr a'u Prifysgol. 

Gweler yr Adnoddau ar gyfer creu Maniffesto

Oes rhaid i mi wybod beth yw holl ofynion y rôl? 

Bydd pob Swyddog Etholedig, Ymddiriedolwr a Chadeirydd yr Undeb yn derbyn hyfforddiant ar gyfer eu rôl, felly peidiwch â phoeni am beidio â gwybod popeth ar unwaith!  

Oes yna unrhyw hyfforddiant ar gyfer ymgeiswyr? 

Oes! Rydym yn cynnal sawl sesiwn i gynnig cymorth i ymgeiswyr, a gallwch edrych ar ein hyb adnoddau’r ymgeiswyr i ddod o hyd i fwy hefyd.  

Dwi’n methu â phleidleisio, beth ddylwn i ei wneud? 

Os na allwch fewngofnodi trwy'r wefan, e-bostiwch elections@uwtsd.ac.uk a bydd ein tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl. E-bostiwch cyn gynted ag y byddwch yn sylweddoli hyn - allwn ni ddim gwneud unrhyw beth ar ôl i'r pleidleisio gau.

Beth os ydw i’n credu bod ymgeisydd wedi gwneud rhywbeth o'i le?

Gwiriwch ein Rheoliadau Etholiadol i weld a ydych chi'n credu bod ymgeisydd wedi gweithredu’n groes i Egwyddorion yr Etholiadau. Os ydych chi’n credu eu bod nhw, llenwch y Ffurflen Cwyno am Etholiadau i gyflwyno'ch cwyn. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â'r Tîm Etholiadau yn elections@uwtsd.ac.uk.