Gwobrau

Undeb Myfyrwyr Arobryn 

Rydyn ni'n gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud, nid er mwyn cael cydnabyddiaeth, ond oherwydd ein bod ni'n ofalgar ac yn angerddol am wneud y peth iawn.

Wedi dweud hynny, rydym wrth ein bodd pan fydd gwaith caled ein haelodau, swyddogion a thîm staff yn cael ei gydnabod. Rydym yn Undeb Myfyrwyr arobryn ac mae ein gwaith wedi cael ei gydnabod dros y blynyddoedd gan yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, WhatUni, SOS-UK, UCM, a mwy. Gallwch ddarganfod y gwobrau rydyn ni wedi'u hennill a dysgu mwy amdanyn nhw isod.

Title Date Recognition Awarded by Details Logo Thumbnail
Y gorau yng Nghymru am gynrychioli buddiannau academaidd myfyrwyr  2026 Cydnabyddiaeth  Yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr  Fe wnaethon ni gyflawni sgôr gadarnhaol o 84.2% yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) 2026 ar gyfer y cwestiwn “Pa mor dda mae undeb y myfyrwyr yn cynrychioli buddiannau academaidd myfyrwyr?”. Dyma'r sgôr uchaf ymhlith prifysgolion Cymru sydd â phwerau dyfarnu graddau.
Enillydd Gwobr Ymgyrch Myfyrwyr Ragorol  2026 Gwobr  UCM Cymru 

Fe wnaethon ni ennill y wobr am Ymgyrch Myfyrwyr Ragorol 2026 gan UCM Cymru am ein hymgyrch "Brecwast Mawr, Llais Mawr", lle gwnaethon ni roi 747 o frecwastau am ddim i ffwrdd a chael cipolwg ffres ar fywyd myfyrwyr.

Darllenwch y Blog

2il yng Nghymru am Fodlonrwydd Myfyrwyr 2025 yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr.  2025 Cydnabyddiaeth  Yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr

Rydyn ni newydd gyflawni sgôr anhygoel o 80.6% yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025, sy'n ein rhoi yn 2il yng Nghymru gyfan ymhlith Undebau Myfyrwyr.

Darllenwch y Blog

3ydd yng Nghymru am yr Undeb Myfyrwyr Gorau 2025  2025 Cydnabyddiaeth  Gwobrau Cydnabyddiaeth WhatUni?

Rydym wrth ein bodd yn gallu cyhoeddi ein bod wedi cyrraedd y 3ydd safle yng Nghymru am yr “Undeb Myfyrwyr Gorau” yng Ngwobrau Dewis y Myfyrwyr WhatUni?

Darllenwch y Blog

Gwobr Effaith Werdd am y Gwelliant Mwyaf  2024 Gwobr  Myfyrwyr yn Trefnu dros Gynaladwyedd

Fe enillon ni'r wobr "Gwelliant Mwyaf" gan SOS-UK (Myfyrwyr yn Trefnu dros Gynaladwyedd) am ein gwaith cynaladwyedd.

Darllenwch y Blog

Effaith Werdd “Da Iawn” 2024  2024 Gwobr  Myfyrwyr yn Trefnu dros Gynaladwyedd

Rydym wedi cael sgôr "Da Iawn" yng Ngwobrau Undebau Myfyrwyr Effaith Werdd 2023-24 gan SOS-UK (Myfyrwyr yn Trefnu dros Gynaladwyedd).

Darllenwch y Blog

 
2il yng Nghymru am gynrychioli buddiannau academaidd myfyrwyr  2023 Cydnabyddiaeth  Yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr  Rydym yn dathlu sgôr hynod bositif o 79.8% ar gyfer y cwestiwn "Pa mor dda mae undeb y myfyrwyr yn cynrychioli buddiannau academaidd myfyrwyr?" yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr.  
Gwobr am y Wefan sydd wedi Gwella Fwyaf  2022 Gwobr  OneVoice Digital

Fe enillon ni wobr am y Wefan sydd wedi Gwella Fwyaf gan OneVoice Digital am ailwampio ein gwefan, a oedd yn canolbwyntio ar hygyrchedd a hwylustod y cynnwys, a golwg a theimlad newydd.

 

Gwobr Effaith Werdd Da  2017 Gwobr  Myfyrwyr yn Trefnu dros Gynaladwyedd  Rydym wedi cael sgôr "Da" yng Ngwobrau Undebau Myfyrwyr Effaith Werdd gan SOS-UK (Myfyrwyr yn Trefnu dros Gynaladwyedd).
Enillydd Gwobr Addysg 2017 Gwobr  UCM Cymru 

Mae ein gwaith caled wrth helpu myfyrwyr gyda chostau ychwanegol eu hastudiaethau wedi cael ei gydnabod gyda Gwobr Addysg gan UCM Cymru.

Darllenwch y Blog

Gwobr Effaith Werdd Da  2016 Gwobr  Myfyrwyr yn Trefnu dros Gynaladwyedd 

Rydym wedi cael sgôr "Da" yng Ngwobrau Undebau Myfyrwyr Effaith Werdd gan SOS-UK (Myfyrwyr yn Trefnu dros Gynaladwyedd).

Darllenwch y Blog