Enillodd UMyDDS wobr am 'y gwelliant mwyaf' yn noson wobrwyo Effaith Gwyrdd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr y DU neithiwr.
Effaith Gwyrdd yw marc ansawdd UCM ar gyfer cynaladwyedd, ac mae'n ddeg oed eleni. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae UMyDDS wedi gweithio'n galed i wneud yr Undeb yn wyrddach ac i greu cyfleoedd i fyfyrwyr gyfranogi mewn prosiectau ac ymgyrchoedd gwyrdd. Mae prosiectau megis Myfyrwyr yn Diffodd a Diffodd Popeth wedi bod yn llwyddiant enfawr, a chyfrannodd hyn at y ffaith fod yr Undeb wedi ennill y wobr Arian eleni, gan eu bod eisoes wedi gweithio tuag at achrediad.
Dywedodd Prif Weithredwr UMyDDS, Rhys Dart "rydyn ni'n falch iawn o fod wedi ennill y wobr genedlaethol hon, sy'n gydnabyddiaeth o'r holl waith caled mae tîm yr UM wedi'i wneud. Rydyn ni'n ffodus i fod yn rhan o Brifysgol sydd â chred gref mewn cynaladwyedd ac rydyn ni wedi elwa o weithio mewn partneriaeth â menter INSPIRE y Brifysgol a myfyrwyr sy'n gweithio fel interniaid. Rydyn ni nawr yn benderfynol o ennill y Wobr Aur y flwyddyn nesaf, a hynny am y tro cyntaf."
