Syniadau Mawr

Syniadau Mawr yw'r platfform rydyn ni'n ei ddefnyddio i alluogi ein haelodau i leisio'u syniadau, argymell newid a llywio cyfeiriad Undeb y Myfyrwyr. Gall ein holl aelodau gyflwyno syniad, ac nid oes unrhyw beth yn rhy fawr neu'n rhy fach. Efallai eich bod am awgrymu newidiadau i'ch profiad ar y campws, cyflwyno syniad i wella bywyd myfyrwyr neu godi mater er mwyn denu cefnogaeth corff y myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr - Syniadau Mawr yw'r ffordd i wneud hyn. 

Cyflwyno Syniad

Gweld Pob Syniadau


 
Sut mae hyn i gyd yn gweithio?

  • Rydych chi'n Postio Syniad. Dywedwch wrthym y cyfan am eich syniad, fel y gall ein haelodau ddarllen amdano, ei hoffi neu beidio â’i hoffi, a gofyn cwestiynau.
  • Cyflwyno’r Syniad i'r Cyngor. Cyn belled nad yw'ch syniad yn torri unrhyw un o'n rheolau neu’n mynd yn groes i’n gwerthoedd, bydd yn cael ei gyflwyno i Gyngor y Campws a Chyngor yr Undeb. Dyma ble bydd ein haelodau'n trafod ac yn pleidleisio ar y syniad yn ffurfiol; ac yn y pen draw, yn dewis ei gymeradwyo neu ei wrthod. 
  • Gweithredu. Os caiff ei gymeradwyo, byddwn yn llunio cynllun gweithredu; bydd y syniad yn cael ei symud i adran 'rydyn ni'n gweithio arno' ar gyfer Syniadau Mawr, a byddwn yn ychwanegu ymatebion swyddogol a diweddariadau sy'n ymwneud â'r syniad yno.
  • Cwblhau. Unwaith y bydd syniad wedi cael ei gyflawni, neu os nad oes unrhyw beth arall y gellir ei wneud, byddwn yn ei ychwanegu at yr adran 'wedi'i gwblhau' ac yn cyflwyno un diweddariad swyddogol arno.