Llywydd Birmingham a Llundain

Gwyneira Davies yw Llywydd Birmingham a Llundain ar gyfer 2025-26.
Caiff ein Llywyddion i gyd eu hethol gan fyfyrwyr; maen nhw’n arwain ein gwaith (o brosiectau ac ymgyrchoedd i weithgareddau a digwyddiadau), ac maen nhw’n cynrychioli myfyriwr i’r Brifysgol. Mae Gwyneira wedi’i lleoli ar ein campws yn Birmingham.
Am Gwyneira
Mae cyflwyniad yn dod yn fuan. Gallwch fwrw golwg ar eu Instagram: @uwtsdsabbs nawr i weld beth maen nhw wedi bod yn ei wneud.
Am y Rôl
Gyda'i gilydd, mae’r Swyddogion Sabothol yn arwain Undeb y Myfyrwyr o ddydd i ddydd, gan ddarparu cyfeiriad i dîm staff yr undeb a sicrhau bod gwaith y mudiad yn berthnasol i brofiad ein myfyrwyr. Ystyrir y Swyddogion Sabothol yn brif gynrychiolwyr y myfyrwyr gan y Brifysgol ac maent yn cyflwyno syniadau, problemau a barn myfyrwyr ar amrywiaeth o bynciau trwy gymryd rhan mewn gwaith prosiect, partneriaeth a phwyllgorau o fewn y Brifysgol.
Y Swyddogion Sabothol sy’n gosod yr agenda o ran syniadau a gweithgareddau newydd i Undeb y Myfyrwyr roi cynnig arnyn nhw, a gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn gwybod beth yw pwrpas eu Hundeb, a sut y gallant gysylltu. Mae’r Swyddogion Sabothol yn gwasanaethu'n awtomatig fel ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr, a dylai unrhyw ymgeiswyr ddarllen yr adran Myfyrwyr Ymddiriedolwyr i wneud yn siŵr eu bod yn gymwys.
Mae’r canlynol ymhlith cyfrifoldebau pob Swyddog Sabothol...
- Gweithio mewn ffordd sy'n hyrwyddo gwerthoedd a chennad Undeb y Myfyrwyr, ac sydd ddim yn dwyn anfri ar yr Undeb.
- Cynrychioli barn myfyrwyr yn effeithiol i'r Brifysgol a rhanddeiliaid eraill er mwyn hyrwyddo profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
- Cyfranogi'n llawn yng nghylchred pwyllgorau'r Brifysgol trwy fynychu cyfarfodydd pwyllgorau, grwpiau a byrddau dynodedig, yn ogystal â chynrychioli buddiannau myfyrwyr UMyDDS.
- Sicrhau bod yr Undeb yn gweithredu'n unol â'r cyfansoddiad a'i is-ddeddfau.
- Gweithredu'n dryloyw, darparu myfyrwyr â'r diweddaraf trwy erthyglau, blogiau a dulliau eraill o gyfathrebu fel yr ystyrir iddynt fod yn briodol.
- Deall sut mae materion polisi Addysg Uwch yn effeithio ar fyfyrwyr y presennol a'r dyfodol, rhannu gwybodaeth a chyd-drefnu myfyrwyr i weithredu er eu budd eu hunain.
- Annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgaredd sy'n cryfhau llais y myfyrwyr, yn gwella eu profiad yn y Brifysgol, ac sy’n datblygu eu sgiliau a/neu'n creu cymuned fywiog a deniadol.
- Gweithredu fel 'Ymddiriedolwr Sabothol' ar Fwrdd Ymddiriedolwyr UMyDDS yn unol ag Erthyglau 24-50 y Memorandwm ac Erthyglau Cydgysylltiad.
- Hyrwyddo polisïau craidd yr Undeb, gan gynnwys ymrwymiad i gyfleoedd cyfartal; dim goddefgarwch i aflonyddu; cynaladwyedd; a dwyieithrwydd a'r Gymraeg.
- Gwella cyfranogiad myfyrwyr ym mhob agwedd o brosesau, strwythurau a gweithgareddau'r Undeb.
- Gweithio fel tîm i gryfhau a hyrwyddo amcanion Undeb y Myfyrwyr