Rydym yn elusen dan arweiniad myfyrwyr. Rydym ar wahân i'r brifysgol. Mae eich aelodaeth yn awtomatig ac am ddim, a chi yw un o aelodau diweddaraf cymuned sy’n cynnwys miloedd o fyfyrwyr. Dysgwch fwy am eich aelodaeth yn www.uwtsdunion.co.uk/cy/about/membership.
Rydyn ni'n dîm o bobl gyfeillgar - fel arfer wedi'u gwisgo mewn porffor ac yng nghwmni Dafydd y Ddraig - a’n hamcan yw eich helpu i wneud y gorau o'ch amser fel myfyriwr. Mae gennym wahanol dimau yn yr Undeb - Cyfleoedd, Llais, Cynghori, Lleoliadau (a Dylunio a Chyfathrebu, sy'n ysgrifennu hwn) - a byddwn yn darparu amlinelliad o'r hyn y mae pob un yn ei wneud a pham y byddech chi am eu hadnabod.
Efallai nad ydych yn gwybod hyn, ond nid ydym yn rhan o’r brifysgol – rydym yn sefydliad ar wahân sy’n gweithio gyda nhw er lles holl fyfyrwyr PCyDDS - rydym yn elusen sy’n cael ei harwain gan fyfyrwyr a dan arweiniad tîm o Lywyddion sy’n fyfyrwyr etholedig.
Nod ein tîm Cyfleoedd yw darparu hwyl. Mae eich amser fel myfyriwr yn fwy na darlithoedd yn unig, ac fel aelod, gallwch gymryd rhan mewn llawer o wahanol weithgareddau, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau neu ddechrau clybiau a chymdeithasau sy’n ymwneud â diddordeb neu angerdd cyffredin. Gallwch hefyd fynychu ein digwyddiadau (gan gynnwys y cyfnod Croeso swyddogol), cael profiadau gwych gyda Rhowch Gynnig Arni a datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth gyda'r Wythnos Sgiliau.
Mae ein tîm Llais yn frwd dros sicrhau bod syniadau a barn myfyrwyr yn cael eu trosglwyddo i'r bobl sydd angen eu clywed. Nhw sy’n gofalu am ein cynrychiolwyr myfyrwyr (ydych chi am ddod yn un?), yn cadw llygad ar ein llwyfan Syniadau Mawr, ac yn gyfrifol am bopeth sy’n ymwneud ag etholiadau myfyrwyr.
Rydyn ni i gyd angen help weithiau - fel aelod, gallwch chi ddefnyddio ein gwasanaeth cynghori. Mae’n annibynnol, yn gyfrinachol ac am ddim. Rydym am eich grymuso i wneud y penderfyniadau sy'n iawn i chi.
Gallwch ddod i'n bariau, clybiau, a lleoliadau. Mae ein hardaloedd a lleoliadau myfyrwyr yn fannau gwych i ymlacio, dal i fyny gyda ffrindiau, chwarae gemau, gwylio’r teledu, a mwynhau nosweithiau allan.
Ac yn olaf, ond nid yn lleiaf yw’r adran Dylunio a Chyfathrebu - sy’n gweithio gyda'r holl dimau eraill i ledaenu'r gair i gynifer o bobl â phosibl. Fel arfer ni sy'n ysgrifennu cynnwys y cyfryngau cymdeithasol a'r e-byst - mae croeso i chi ddod draw a dweud Helo.