Mae is-ddeddfau yn rhan bwysig o'n dogfennau llywodraethu; maent yn nodi'r hyn a wnawn, sut y byddwn yn mynd ati i wneud hynny, a’n fframwaith gweithredol. Mae'r rhain yn perthyn i’n Memorandwm ac Erthyglau Cyd-gymdeithasu.
Cynnwys
Cliciwch ar adran i sgrolio iddi.
- Aelodau'r Undeb
- Caiff Aelodaeth o'r Undeb ei rhannu i'r dosbarthiadau canlynol:
- Aelodau Llawn
- Aelodau Cysylltiedig
- Aelodau Dwyochrog
- Lle mae angen tâl am weithgareddau a gwasanaethau, gall yr Undeb godi gwahanol bris ar Aelodau Llawn, Cysylltiedig a Dwyochrog.
- Aelodau Llawn
- Diffinnir Aelodaeth Lawn o Undeb y Myfyrwyr yn Erthyglau 10-12 o'r Memorandwm ac Erthyglau Cydgysylltu.
- Hefyd rhoddir Aelodaeth Lawn i fyfyrwyr PhD yn ystod cyfnod ysgrifennu eu hymchwil.
- Mae Aelodau Llawn yn gymwys i gael mynediad i holl weithgareddau a gwasanaethau'r Undeb, gan gynnwys Aelodaeth o grwpiau myfyrwyr sy'n gysylltiedig â'r Undeb fel y diffinnir yn Is-ddeddf 10.
- Dim ond Aelodau Llawn gaiff wneud y canlynol:
- Pleidleisio yng nghyfarfodydd Aelodau'r Undeb ac mewn refferenda ac etholiadau.
- Cael eu hethol i safleoedd ar bwyllgorau neu'n swyddogion ar grwpiau myfyrwyr sy'n gysylltiedig â'r Undeb.
- Ymgeisio ar gyfer swydd lawn-amser neu ran-amser fel Swyddog Etholedig neu Ymddiriedolwr.
- Cael eu hethol i gynrychioli'r Undeb yng nghynadleddau UCM.
- Roddir Aelodaeth Lawn ar yr amod bod unigolion yn cynnal gwerthoedd Undeb y Myfyrwyr a'u bod yn ymddwyn yn unol â Chod Ymddygiad Undeb y Myfyrwyr (Is-ddeddf 11), a gellir dileu'r hawl hon yn unol â Pholisi Disgyblaeth yr Undeb fel yr amlinellir yn Is-ddeddf 12.
- Aelodau Cysylltiedig
- Mae'r ddau gategori o Aelodau Cysylltiedig fel a ganlyn:
- Aelodau Cysylltiedig Clybiau a Chymdeithasau: Gellir cyflwyno Aelodaeth i unrhyw un sydd ddim yn aelod ac sydd am gyfranogi yng ngweithgareddau clybiau a/neu gymdeithasau, yn amodol ar brynu'r cerdyn DDS priodol.
- Aelodau er Anrhydedd am Oes: Gall bwrdd yr Ymddiriedolwyr gyflwyno Aelodaeth i unrhyw un (boed yn Aelod neu beidio) mewn cydnabyddiaeth o wasanaeth eithriadol i'r Undeb neu ei Aelodau. Estynnir gwahoddiad i Aelodau Llawn gyflwyno enwebiadau ar gyfer y categori hwn yn flynyddol, ond gellir hefyd enwebu pobl ar unrhyw amser arall.
- Mae pob Aelod Cysylltiedig yn gymwys i gael mynediad i Aelodaeth o grwpiau myfyrwyr sy'n gysylltiedig â'r Undeb fel y diffinnir yn Is-ddedf 9, ac i unrhyw wasanaeth neu ddigwyddiad arall mae'r Undeb yn eu cynnig, ac eithrio gweithgareddau cynrychiolaeth a democratiaeth.
- Fel y disgrifiwyd yn Is-ddeddf 9, ni chaiff unrhyw grŵp myfyrwyr sy'n gysylltiedig â'r Undeb fwy na thraean o'u haelodaeth yn Aelodau Cysylltiedig.
- Rhoddir Aelodaeth Gysylltiedig ar yr amod bod unigolion yn cynnal gwerthoedd Undeb y Myfyrwyr a'u bod yn ymddwyn yn unol â Chod Ymddygiad Undeb y Myfyrwyr (Is-ddeddf 11), a gellir dileu'r hawl hon yn unol â Pholisi Disgyblaeth yr Undeb fel yr amlinellir yn Is-ddeddf 12.
- Aelodau Dwyochrog
- Rhoddir Aelodaeth Ddwyochrog i unrhyw aelod o Undeb Myfyrwyr arall yn y Deyrnas Unedig sydd hefyd yn aelod o Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Gall Bwrdd yr Ymddiriedolwyr gyflwyno Aelodaeth Ddwyochrog i fyfyrwyr mewn sefydliadau eraill.
- Mae'r breintiau'n cynnwys mynediad i adeiladau, gweithgareddau a gwasanaethau'r Undeb o fewn y cyfnod o amser maen nhw'n bresennol yn Abertawe, Caerfyrddin neu Lambed.
- Rhoddir Aelodaeth Ddwyochrog ar yr amod bod unigolion yn cynnal gwerthoedd Undeb y Myfyrwyr a'u bod yn ymddwyn yn unol â Chod Ymddygiad Undeb y Myfyrwyr (Is-ddeddf 11), a gellir dileu'r hawl hon yn unol â Pholisi Disgyblaeth yr Undeb fel yr amlinellir yn Is-ddeddf 12.
- 1.6 Optio allan o Aelodaeth
- Mae gan Aelodau Llawn yr hawl i optio allan o Aelodaeth o'r Undeb yn unol ag Adran 22 o Ddeddf Addysg 1994.
- Dylai unrhyw Aelod Llawn sydd am optio allan e-bostio'r Prif Weithredwr. Mae optio allan o Aelodaeth yn gyfyngedig i'r flwyddyn academaidd honno.
- Gall myfyrwyr sydd wedi optio allan o Aelodaeth Lawn, ac sydd am gael mynediad i glybiau a chymdeithasau sy'n gysylltiedig â'r Undeb ddilyn y weithdrefn a amlinellir yn Is-ddeddf 1.4.1a i fod yn Aelodau Cysylltiedig.
- Etholiadau
- Etholiadau
- Cynhelir etholiadau yn unol â'r Is-ddeddf hon ar gyfer y swyddi canlynol:
- Cynrychiolwyr i Gynhadledd UCM Cymru; fel arfer fe'u hetholir yn Semester Un
- Cynrychiolwyr i Gynhadledd UCM y DU; fel arfer fe'u hetholir yn Semester Dau
- Ymddiriedolwyr Sabothol; fel arfer fe'u hetholir yn Semester Dau
- Ymddiriedolwyr sy'n Fyfyrwyr; fel arfer fe'u hetholir yn Semester Dau
- Swyddogion Rhan-amser; fel arfer fe'u hetholir yn Semester Dau
- Is-etholiadau
- Yn amodol ar yr Erthyglau Cydgysylltiad, caiff unrhyw rôl wag sy'n codi yn ystod y flwyddyn ei llenwi drwy is-etholiad a gynhelir yn unol â'r Is-ddeddf hon.
- Hawliau Aelodau
- Mae gan bob Aelod yr hawl i sefyll fel ymgeisydd mewn unrhyw etholiad, â'r eithriadau canlynol:
- Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer rôl Swyddogion Cynrychiolaeth Rhan-amser fodloni'r amodau cymhwyster perthnasol.
- Cyfyngir Ymddiriedolwyr sy'n Swyddogion ac Ymddiriedolwyr sy'n Fyfyrwyr i ddau gyfnod yn eu swyddi.
- Ni all Aelodau ond ymgeisio am swyddi sy'n berthnasol i leoliad eu campws.
- Mae gan Aelodau oll yr hawl i bleidleisio ym mhob etholiad.
- Penodi'r Swyddog Etholiadau
- Caiff y Swyddog Etholiadau ei benodi gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn flynyddol.
- Bydd y Swyddog Etholiadau'n annibynnol ac ni chaiff fod yn Aelod.
- Pwerau a Dyletswyddau'r Swyddog Etholiadau
- Bydd y Swyddog Etholiadau'n gyfrifol am gynnal a gweinyddu'r etholiad yn dda ac ef yn unig fydd â'r pŵer i ddehongli Is-ddeddfau a Rheoliadau'r Etholiadau.
- Bydd y Swyddog Etholiadau'n penodi Dirprwy Swyddog Etholiadau a swyddogion etholiadol eraill i sicrhau y caiff yr etholiadau eu gweinyddu a'u hyrwyddo'n dda. Caiff y Dirprwy Swyddog Etholiadau a'r swyddogion etholiadol eraill gyfarwyddiadau gan y Swyddog Etholiadau ynglŷn â'u dyletswyddau, a byddant yn eu cyflawni'n ddiduedd.
- Gall y Swyddog Etholiadau ddiswyddo swyddogion etholiadol nad ydynt yn cyflawni cyfarwyddiadau'r Swyddog Etholiadau neu'n methu gweithredu mewn modd diduedd.
- Gall y Swyddog Etholiadau geisio cyngor cyfreithiol os yw'n credu y gallai datganiadau a wnaed neu gynnwys y cyhoeddusrwydd arwain at wneud yr Undeb yn agored i achos cyfreithiol.
- Gall y Swyddog Etholiadau ddyfarnu bod unrhyw ddatganiad neu gynnwys unrhyw gyhoeddusrwydd yn annerbyniol os yw yn eu barn nhw'n tramgwyddo Cyfansoddiad, Is-ddeddfau neu Reoliadau'r Undeb.
- Bydd y Swyddog Etholiadau'n dewis dull pleidleisio priodol ar gyfer pob etholiad ac yn sicrhau bod hwn yn cael ei wneud yn gyhoeddus ac yn cael eu hesbonio i'r Aelodau.
- Bydd y Swyddog Etholiadau'n cyhoeddi'r rheolau a rheoliadau'r etholiad cyn unrhyw etholiad. Bydd y rheolau a rheoliadau'n canolbwyntio ar greu proses etholiadol deg, tryloyw a chlir, ac yn darparu eglurder ar ymddygiad, cyhoeddusrwydd a gwariant wrth ymgyrchu.
- Bydd y Swyddog Etholiadau'n cyhoeddi'r weithdrefn gwynion cyn unrhyw etholiad. Bydd y weithdrefn gwynion yn egluro'r llwybr y dylai aelodau ei ddilyn wrth gwyno am ymddygiad ymgeiswyr a swyddogion yr etholiad ac i amlinellu'r pwerau sydd gan y Swyddog a'r Dirprwy Swyddog Etholiadau. Rhaid i'r weithdrefn gwynion hefyd dynnu sylw at y modd y gall ymgeiswyr apelio os nad ydynt yn cytuno â phenderfyniadau'r Swyddog Etholiadau.
- Caiff y Swyddog Etholiadau drosglwyddo unrhyw dasg i'r Dirprwy Swyddog Etholiadau neu i'r Pwyllgor Etholiadau, ond bydd y Swyddog yn parhau i fod yn gyfrifol am yr etholiad, gydol y broses.
- Amserlen yr Etholiadau
- Bydd y Swyddog Etholiadau yn llunio Amserlen yr Etholiad a bydd honno'n cynnwys dyddiadau ac amserau ar gyfer cwblhau'r canlynol:
- Enwebiadau
- Hyfforddiant yr Ymgeiswyr
- Maniffestos
- Holi'r Ymgeiswyr
- Pleidleisio
- Y cyfrif
- Caiff Amserlen yr Etholiad ei chyhoeddi a'i dosbarthu'n ddigonol ynghyd â deunydd sy'n hyrwyddo'r etholiad.
- Bydd Amserlen yr Etholiad yn caniatáu digon o amser i sicrhau'r lefel uchaf o gyfranogiad yn yr etholiad.
- Enwebiadau
- Bydd ffurflenni enwebu ar gael ar wefan yr Undeb ac unrhyw le arall a gaiff ei benderfynu gan y Swyddog Etholiadau.
- Bydd y cyfnod enwebu'n para o leiaf saith (7) diwrnod llawn cyn i'r cyfnod canfasio ddechrau
- Pan fydd y Swyddog Etholiadau'n fodlon, caiff pob enwebiad dilys ei gadarnhau â'r ymgeiswyr.
- Hyfforddiant yr Ymgeiswyr
- Bydd y Swyddog Etholiadau'n trefnu bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu, a bydd disgwyl i bob ymgeisydd fynychu'r hyfforddiant hwn.
- Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys briffio ar sgiliau ymgyrchu, rheoliadau'r etholiad, Holi'r Ymgeiswyr, cyhoeddusrwydd, a rôl yr Ymddiriedolwyr.
- Maniffestos
- Bydd y Swyddog Etholiadau'n cyhoeddi canllawiau ar faniffestos yn y rheolau a rheoliadau ar gyfer etholiadau.
- Rhaid cyflwyno maniffestos erbyn y dyddiad a nodir yn yr Amserlen ar gyfer Etholiadau.
- Caiff maniffestos eu harddangos ar wefan yr Undeb ac unrhyw le arall a gaiff ei benderfynu gan y Swyddog Etholiadau.
- Ymgeiswyr sydd eisoes yn dal swyddi
- Rhaid i'r rheiny sydd eisoes yn Ymddiriedolwyr Sabothol hysbysu'r Swyddog Etholiadau eu bod am gymryd gwyliau â thâl os ydynt yn dymuno ymgymryd â gweithgareddau ymgyrchu yn ystod oriau swyddfa cyffredin yng ngyfnod yr etholiad.
- Ni chaniateir i'r rheiny sydd eisoes yn Ymddiriedolwyr Sabothol ddefnyddio unrhyw adnoddau sy'n perthyn i'w swydd bresennol i'w cynorthwyo mewn unrhyw ymgyrch etholiadol.
- Bydd y Swyddog Etholiadau'n cynhyrchu canllawiau i gynorthwyo'r rheiny sydd eisoes yn Ymddiriedolwyr Sabothol mewn cydymffurfio â Chymal 11 yr Is-ddeddf hon.
- Ni chaiff swyddog sabothol sydd wedi’i wahardd o’i rôl sefyll i fod yn ymgeisydd mewn etholiad.
- Holi'r Ymgeiswyr
- Bydd y Swyddog Etholiadau'r trefnu o leiaf un cyfle i Holi'r Ymgeiswyr, a bydd yn penderfynu ar ffurf briodol.
- Caiff ymgeiswyr sy'n methu bod yn bresennol enwebu dirprwy i siarad ar eu rhan, darparu fideo neu ddatganiad i'w ddarllen yn gyhoeddus.
- Pleidleisio
- Caiff manylion yr etholiadau a'r broses bleidleisio eu cyhoeddi drwy wefan yr Undeb, ac unrhywle arall a gaiff ei benderfynu gan y Swyddog Etholiadau.
- Bydd y ffurflen bleidleisio'n dangos enw pob ymgeisydd a'r swydd maent yn ymgeisio amdani.
- Bydd cyfle i bleidleisio dros 'Etholiad Newydd' ar gyfer pob swydd.
- Cwynion
- Rhaid i unrhyw gwynion parthed y modd y cynhaliwyd yr etholiad gael eu cyflwyno mewn ysgrifen i'r Swyddog Etholiadau cyn dechrau'r cyfrif. Bydd y Swyddog Etholiadau'n penderfynu ar unrhyw gwynion, a bydd llwybr ar gyfer apêl fel y disgrifir yn y gweithdrefnau cwynion sy'n ofynnol dan Gymal 5.8 o'r Is-ddeddf hon.
- Y Cyfrif
- Y Swyddog Etholiadau, neu ddirprwy a enwebir ganddo, yw'r unig berson a all ddechrau'r cyfrif.
- Ni fydd y cyfrif yn dechrau oni fydd y Swyddog Etholiadau'n fodlon bod pob cwyn sy'n ymwneud â chynnal a gweinyddu'r etholiad wedi cael eu datrys. Ni all cwynion ar ôl i'r cyfrif dechrau ond perthyn i'r modd y cynhaliwyd y cyfrif.
- Cynhelir y cyfrif yn unol â'r canllawiau a osodir gan y Gymdeithas Newid Etholiadol lle bo hynny'n bosib, neu fel y cytunwyd gan y Pwyllgor Etholiadau lle nad oes canllawiau'n bodoli.
- Cyhoeddiad
- Caiff canlyniadau'r etholiadau eu cyhoeddi gan y Swyddog Etholiadau pan fydd y cyfrif ar gyfer pob swydd wedi cael ei gwblhau'n llwyddiannus.
- Gosodir canlyniadau'r etholiadau ar wefan yr Undeb o fewn un (1) diwrnod gwaith o'r cyfrif.
- Refferenda
- Refferenda
- Gellir galw refferenda i benderfynu unrhyw fater unigol lle gellir gofyn cwestiwn a'i ateb ar ffurf 'ie/na' syml.
- Polisi
- Er mwyn cytuno ar bolisi a gyfeiriwyd at refferendwm gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr neu gan ddeiseb ddiogel wedi'i arwyddo gan o leiaf 200 o Aelodau Llawn.
- Bydd angen cworwm o 5% o Aelodau Llawn pob Cangen Myfyrwyr i ddilysu'r refferendwm.
- Caiff refferendwm ei benderfynu drwy fwyafrif syml ac eithrio:
- Lle byddai ei fabwysiadu'n newid y cyfansoddiad; yn yr achos hwn, byddai angen mwyafrif o 66%.
- Cyfrifoldebau
- Bydd y Swyddog Etholiadau (a benodir yn flynyddol gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr) yn gyfrifol am drefnu unrhyw Refferendwm, a gall drosglwyddo dyletswyddau gweithredol i'w Ddirprwy.
- Trefniant
- Y Swyddog Etholiadau fydd yn gyfrifol am gynnal, cydlynu a gweinyddu'r Refferendwm.
- Cyhoeddusrwydd
- Bydd y Swyddog Etholiadau'n cyhoeddi bod refferendwm wedi cael ei alw, ynghyd â manylion pam, o fewn pump (5) diwrnod clir o fod wedi derbyn yr hysbysiad
- Bydd y Swyddog Etholiadau'n:
- Dilysu unrhyw ddeiseb ddiogel, gan wirio bod digon o Aelodau Llawn wedi'i harwyddo pan gyflwynwyd y ddeiseb.
- Cyhoeddi'r cynnig a'r dyddiad ar gyfer y refferendwm, ynghyd â dyddiad unrhyw gyfarfod.
- Penderfynu ar eiriad y cwestiwn gaiff ei ofyn.
- Trefnu bod cyhoeddusrwydd cyfartal ar gael ar gyfer y naill o'ch o'r ddadl a'r llall, ynghyd â'r cwestiwn.
- Cyhoeddi'r cynnig a'r cwestiwn sydd i'w ofyn a rhoi cyhoeddusrwydd pellach i'r dyddiadau pleidleisio.
- Sefydlu'r ffigurau pleidleisio ar gyfer cworwm, yn seiliedig ar 3.2.2 uchod.
- Pleidleisio
- Bydd pob Aelod Llawn yn gymwys i bleidleisio.
- Fel arfer, cynhelir y bleidlais yn electronig.
- Dylai'r opsiynau ganiatáu i Aelodau bleidleisio naill ai o blaid, yn erbyn neu ymatal ar bob cynnig.
- Canlyniadau
- Bydd y Swyddog Etholiadau'n gyfrifol am gyhoeddi canlyniad y Refferendwm unwaith y bydd yn fodlon bod y Refferendwm wedi cael ei gynnal yn gywir.
- Dylid cyhoeddi'r canlyniadau ar wefan Undeb y Myfyrwyr cynted ag sy'n ymarferol bosib, ond heb fod yn ddiweddarach na thri diwrnod gwaith ar ôl i'r Refferendwm gael ei gynnal.
- Gynghorau Myfyrwyr y Campws
- Diben
- Mae tri o Gynghorau Myfyrwyr y Campws yn bodoli i gynrychioli'r Carfannau o Fyfyrwyr y cyfeirir atynt yn y Memorandwm ac Erthyglau Cydgysylltiad. Y rhain yw campws Abertawe (sydd hefyd yn cynnwys campws Llundain); Campws Caerfyrddin (sydd hefyd yn cynnwys campws Caerdydd); a champws Llambed. Mae Cynghorau Myfyrwyr y Campws yn bodoli i wneud y canlynol:
- Trafod polisi i'w gyfeirio at Gyngor Undeb y Myfyrwyr .
- Adolygu, arwain, dal i gyfrif a chreu prosiectau ar gyfer yr Ymddiriedolwyr Sabothol rhwng Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol a chyfarfodydd Cyngor Undeb y Myfyrwyr.
- Adolygu, arwain, dal i gyfrif a chreu prosiectau ar gyfer y Swyddogion Rhan-amser rhwng Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol a chyfarfodydd Cyngor Undeb y Myfyrwyr.
- Trafod materion sy'n berthnasol i Aelodau Llawn o Undeb y Myfyrwyr rhwng Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol a chyfarfodydd Cyngor Undeb y Myfyrwyr.
- Gweithio i wneud bywydau Myfyrwyr yn well drwy ymgynghori a deall anghenion corff y myfyrwyr, trafod materion a syniadau, ynghyd â chreu prosiectau a mentrau newydd.
- Aelodaeth
- Mae aelodaeth pob Cyngor Myfyrwyr y Campws fel a ganlyn:
- Llywydd y Grŵp a Llywydd y Campws perthnasol
- Holl Swyddogion Rhan-amser y Campws perthnasol, fel y nodir yn Is-ddeddf 7.
- Y rhestr berthnasol o Swyddogion Rhan-Amser sy’n ymwneud â’r campws dan sylw, fel y manylir yn is-ddeddf 7.
- Os bydd lleoedd gwag o hyd ar ôl etholiadau'r Gwanwyn a'r Hydref, bydd gan Gyngor y Campws yr awdurdod i wneud penodiadau i lenwi'r lleoedd hyn.
- Os bydd llai na dwy rôl etholedig ar Gyngor Campws, bydd gan y Pwyllgor Gwaith yr awdurdod i wneud penodiadau i lenwi’r lleoedd hyn
- Cynrychiolwyr Cyfadrannau'r Campws perthnasol
- Rheolau Sefydlog
- Cadeirydd
- Llywydd y Grŵp, neu Aelod Llawn a ddynodir ganddo, fydd yn cadeirio cyfarfodydd Cyngor Myfyrwyr y Campws.
- Cyfrifoldeb y Cadeirydd yw sicrhau bod y drafodaeth yn gytbwys, yn hysbys ac yn deg.
- Gall y Cadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg, neu gellir ei ddiswyddo drwy bleidlais fwyafrifol o Gyngor Myfyrwyr y Campws. Os digwydd hyn, yna bydd Cyngor Myfyrwyr y Campws yn cynnal etholiad yn y cyfarfod hwnnw i ethol Cadeirydd.
- Gall y Cadeirydd wahodd unrhyw un i siarad mewn cyfarfod Cyngor Myfyrwyr y Campws, cyn belled nad ydynt yn gweithredu'n groes i unrhyw bolisïau'r Undeb.
- Agenda
- Bydd gan bob Aelod Llawn o Undeb y Myfyrwyr gyfle i osod eitemau ar yr agenda, a chaiff yr agenda a phapurau eraill eu hanfon allan a'u gwneud yn gyhoeddus o leiaf wythnos cyn y cyfarfod.
- Polisïau ar gyfer trafodaeth
- At ddibenion Cyngor Myfyrwyr y Campws, diffinnir 'polisi' fel a ganlyn:
- Cwestiwn neu osodiad; ac yna'r tair adran ganlynol:
- Cred Cyngor y Campws; disgrifiad o'r sefyllfa bresennol parthed y polisi;
- Cred Cyngor y Campws Ymhellach; dadl o blaid darbwyllo Undeb y Myfyrwyr i fabwysiadu'r polisi; a
- Penderfyna Cyngor y Campws; disgrifiad o'r hyn sydd disgwyl i'r Undeb ei wneud o ganlyniad i basio'r polisi
- Dylid cyflwyno polisïau mewn ysgrifen, wythnos cyn y cyfarfod.
- Trafodaeth o'r Polisïau
- Trafodir polisïau fel a ganlyn:
- Caiff y syniad ei gyflwyno gan y sawl â'i cynigiodd, neu gan Aelod Llawn o'u dewis nhw;
- Sesiwn Holi ac Ateb
- Trafodaeth agored ar bolisi, a all gynnwys newidiadau a/neu awgrymiadau ychwanegol y gall y cynigydd gytuno arnynt, neu fynd i bleidlais os oes angen.
- Pleidleisio
- Caiff pob polisi ei fabwysiadu ar sail pleidlais fwyafrifol. Pan gaiff polisi ei basio'n llwyddiannus gan Gyngor Myfyrwyr y Campws, fe'i cyfeirir at Gyngor Undeb y Myfyrwyr ar gyfer trafodaeth a phenderfyniad.
- Cynhelir pleidlais gyffredin drwy godi dwylo, er y gall unrhyw aelod o Gyngor Myfyrwyr y Campws wneud cais am bleidlais gudd.
- Y cworwm at ddibenion pleidleisio yw hanner-ac-un yr aelodau etholedig o Gyngor Myfyrwyr y Campws.
- Gellir cynnal cyfarfodydd Cyngor Myfyrwyr y Campws naill ai wyneb-yn-wyneb neu trwy ddulliau ar-lein.
- Cysylltir ag unrhyw aelod sy’n methu â mynychu cyfarfod heb ymddiheuriadau i sefydlu gallu’r aelod dan sylw i barhau fel aelod o’r Cyngor, a’u diddordeb mewn gwneud hynny. Os ydynt yn methu dau gyfarfod, ystyrir eu bod wedi ymddiswyddo a defnyddir y broses gyfethol i lenwi’r rôl wag
- Cyngor Undeb y Myfyrwyr
- Dylid darllen yr is-ddeddf hon yng nghyd-destun Erthygl C, Cymal 6
- Diben
- Mae Cyngor Undeb y Myfyrwyr yn bodoli i wneud y canlynol:
- Trafod a gosod polisi'r Undeb rhwng Cyfarfodydd Cyffredinol.
- Adolygu, arwain, dal i gyfrif a chreu prosiectau ar gyfer yr Ymddiriedolwyr Sabothol rhwng Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol.
- Trafod materion sy'n berthnasol i Aelodau Llawn o Undeb y Myfyrwyr rhwng Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol.
- Gweithio i wneud bywydau Myfyrwyr yn well drwy ymgynghori a deall anghenion corff y myfyrwyr, trafod materion a syniadau, ynghyd â chreu prosiectau a mentrau newydd.
- Aelodaeth
- Etholir pum cynrychiolydd campws i Gyngor Undeb y Myfyrwyr o blith aelodau pob Cyngor Myfyrwyr y Campws. Cedwir un o'r pum safle o bob campws ar gyfer swyddog Rhyddhad rhan-amser.
- Etholir cynrychiolwyr campws drwy bleidlais drosglwyddadwy amgen mewn balot gudd yng nghyfarfod cyntaf pob Cyngor Myfyrwyr y Campws, gydag unrhyw swyddi gwag sydd ar ôl yn cael eu llenwi yn yr un modd yng nghyfarfod nesaf Cyngor Myfyrwyr y Campws.
- Y pedwar Ymddiriedolwr Sabothol
- Cadeirydd Cyngor Undeb y Myfyrwyr, sef unigolyn a etholir drwy bleidlais traws-gampws gan yr holl Aelodau Llawn.
- Gall unrhyw Aelod Llawn o Undeb y Myfyrwyr fynychu cyfarfod o Gyngor Undeb y Myfyrwyr a bydd ganddo'r hawl i siarad.
- Rheolau Sefydlog
- Cadeirydd
- Bydd Cadeirydd Cyngor Undeb y Myfyrwyr yn cynnal trefn briodol o fewn y cyfarfod, yn sicrhau bod y cyfarfod yn rhedeg yn ôl yr agenda ac ar amser. Bydd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod polisïau'r Undeb yn cael eu dilyn gydol y cyfarfod.
- Cyfrifoldeb y Cadeirydd yw sicrhau bod y drafodaeth yn gytbwys, yn hysbys ac yn deg.
- Os nad yw'r Cadeirydd ar gael, caiff y cyfarfod y gadeirio gan Lywydd Grŵp Undeb y Myfyrwyr neu Aelod Llawn o Undeb y Myfyrwyr a enwebir ganddo.
- Gall y Cadeirydd ymddiswydo ar unrhyw amser, neu gellir ei diswyddo drwy bleidlais fwyafrifol o Gyngor Undeb y Myfyrwyr. Os digwydd hyn, dylai Swyddog Etholiadau Undeb y Myfyrwyr drefnu etholiad traws-gampws ar gyfer Cadeirydd newydd cynted â phosib. Yn y cyfamser, dylid dilyn y protocol a amlinellir yn 5.3.1.3.
- Gall y Cadeirydd wahodd unrhyw un i siarad mewn Cyngor Undeb y Myfyrwyr, cyn belled nad ydynt yn gweithredu'n groes i unrhyw bolisïau'r Undeb.
- Agenda
- Bydd gan bob Aelod Llawn o Undeb y Myfyrwyr gyfle i osod eitemau ar yr agenda, a chaiff yr agenda a phapurau eraill eu hanfon allan a'u gwneud yn gyhoeddus o leiaf wythnos cyn y cyfarfod.
- Polisïau ar gyfer trafodaeth
- At ddibenion Cyngor Undeb y Myfyrwyr, diffinnir 'polisi' fel a ganlyn:
- Cwestiwn neu osodiad; ac yna'r tair adran ganlynol:
- Cred yr Undeb; disgrifiad o'r sefyllfa bresennol parthed y polisi;
- Cred yr Undeb Ymhellach; dadl o blaid darbwyllo Undeb y Myfyrwyr i fabwysiadu'r polisi; a
- Penderfyna'r Undeb; disgrifiad o'r hyn sydd disgwyl i'r Undeb ei wneud o ganlyniad i basio'r polisi
- Dylid cyflwyno polisïau mewn ysgrifen, wythnos cyn y cyfarfod.
- Trafodaeth o'r Polisïau
- Trafodir polisïau fel a ganlyn:
- Caiff y syniad ei gyflwyno gan y sawl â'i cynigiodd, neu gan Aelod Llawn o'u dewis nhw;
- Sesiwn Cwestiwn ac Ateb.
- Trafodaeth agored ar bolisi, a all gynnwys newidiadau a/neu awgrymiadau ychwanegol y gall y cynigydd gytuno arnynt, neu fynd i bleidlais os oes angen.
- Pleidleisio
- Caiff polisïau eu mabwysiadu ar sail mwyafrif o'r bleidlais, ond mae angen mwyafrif o ddwy-ran-o-dair i basio gwelliannau cyfansoddiadol. Er mwyn eglurder, ni chaiff unrhyw un sy'n ymatal ei bleidlais ei gynnwys yn y ddwy-ran-o-dair.
- Cynhelir pleidlais gyffredin drwy godi dwylo, er y gall unrhyw aelod o Undeb y Myfyrwyr wneud cais am bleidlais gudd.
- Y cworwm at ddibenion pleidleisio fydd 50% +1 o Gyngor Undeb y Myfyrwyr
- Gellir cynnal cyfarfodydd Cyngor yr Undeb naill ai wyneb-yn-wyneb neu trwy ddulliau ar-lein.
- Cysylltir ag unrhyw aelod sy’n methu â mynychu cyfarfod heb ymddiheuriadau i sefydlu gallu’r aelod dan sylw i barhau fel aelod o’r Cyngor, a’u diddordeb mewn gwneud hynny. Os ydynt yn methu dau gyfarfod, ystyrir eu bod wedi ymddiswyddo a defnyddir y broses gyfethol i lenwi’r rôl wag
- Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
- Mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn bodoli i'r dibenion canlynol:
- Trafod a gosod polisi'r Undeb.
- Adolygu, arwain, dal i gyfrif a chreu prosiectau ar gyfer yr Ymddiriedolwyr Sabothol.
- Trafod materion sy'n berthnasol i gorff myfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
- Derbyn a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol a chyfrifon ariannol Ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr ac adroddiad y Swyddog Etholiadau Allanol.
- Amseru
- Cynhelir un Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mhob blwyddyn academaidd.
- Ni chynhelir CC na CCB yn ystod cyfnod gwyliau. Ystyrir gwyliau i fod unrhyw amser y tu allan i ddyddiadau swyddogol tymor PCYDDS.
- Rheolau Sefydlog
- Caiff y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ei alw, ei hysbysebu a'i gynnal yn unol â'r rheolau a amlinellir isod.
- Gall unrhyw aelod sy'n bresennol gyflwyno unrhyw un o'r cynigion gweithdrefnol canlynol:
- Cynnig o ddiffyg hyder yn y Cadeirydd ar gyfer gweddill y cyfarfod
- Herio dyfarniad y Cadeirydd
- Y dylid trafod y cynnig fesul rhannau
- Y dylid pleidleisio ar y mater
- Y dylid ailgyfri'r bleidlais
- Y dylid newid trefn y busnes
- Er mwyn pasio cynnig gweithdrefnol, rhaid iddo gael ei gytuno gan fwyafrif syml o'r rheiny sy'n bresennol ar yn gymwys i bleidleisio.
- Gellir cynnal Cyfarfodydd Cyffredinol naill ai wyneb-yn-wyneb neu trwy ddulliau ar-lein.
- Agenda
- Bydd gan bob Aelod Llawn o Undeb y Myfyrwyr gyfle i osod eitemau ar yr agenda, a bydd ganddynt fynediad i'r agenda a phapurau eraill o leiaf wythnos cyn y cyfarfod.
- Cynigion ar gyfer trafodaeth
- Caiff cynigion eu trafod yn y cyfarfod cyn belled â'u bod:
- Wedi'u cyflwyno erbyn y dyddiad cau ar gyfer cynigion, neu wedi'u derbyn gan yr Is-bwyllgor Llywodraethiant fel cynnig brys.
- Wedi'u paratoi yn y ffurf y cytunwyd arni, h.y. Cred yr Undeb, Cred yr Undeb Ymhellach; Penderfyna'r Undeb'.
- Wedi'u cyflwyno a'u henwebu gan ddau Aelod Llawn o Undeb y Myfyrwyr.
- Wedi'u derbyn gan yr Is-bwyllgor Llywodraethiant. Ni fydd yr Is-bwyllgor ond yn cymeradwyo cynigion sy'n galw am weithred a fyddai'n gyfreithlon i Undeb y Myfyrwyr ei chyflawni.
- Trafod cynigion
- Trafodir cynigion fel a ganlyn:
- (a.) Araith o blaid (2 funud), eiddo'r sawl a'i cyflwynodd
- (b.) Araith yn erbyn (2 funud), agored
- (c.) Trafodaeth fasged – rhaid i'r ddadl fod yn gytbwys. Mae hyn yn parhau tra bydd cydbwysedd, neu tan fydd y Cadeirydd yn penderfynu ei bod er lles y cyfarfod i symud ymlaen (1 funud yr un)
- (d.) Cwestiynau anffurfiol; caiff y rheiny sy'n bresennol holi cwestiynau i'r sawl a gynigiodd y cynnig er mwyn egluro gwybodaeth.
- (e.) Crynodeb (1 funud), eiddo'r eilydd
- (f.) Pleidlais.
- Pleidleisio
- Caiff cynigion polisi a newidiadau yn yr agenda eu penderfynu drwy bleidlais fwyafrifol syml; mae angen mwyafrif o ddwy-ran-o-dair i newid y Memorandwm ac Erthyglau Cydgysylltiad a'i is-ddeddfau.
- Cynhelir pob pleidlais drwy godi dwylo.
- Y cworwm at ddibenion pleidleisio fydd 50 Aelod Llawn.
- Swyddogion
- Prif Swyddogion yr Undeb
- Ystyrir y 'swyddogion sabothol' canlynol i fod yn brif swyddogion yr Undeb, ac maent yn gweithredu'n amodol ar ofynion Deddf Addysg 1994:
- Llywydd y Grŵp
- Llywydd, Campws Caerfyrddin
- Llywydd, Campws Llambed
- Llywydd, Campws Abertawe
- Mae cyfrifoldebau pob Swyddog Sabothol yn cynnwys:
- Gweithio mewn ffordd sy'n hyrwyddo gwerthoedd a chenhadaeth Undeb y Myfyrwyr ac sydd ddim yn dwyn anfri ar yr Undeb.
- Cynrychioli barn myfyrwyr yn effeithiol i'r Brifysgol a rhanddeiliaid eraill er mwyn hyrwyddo profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
- Cyfranogi'n llawn yng nghylchred pwyllgorau'r Brifysgol drwy fynychu pwyllgorau, grwpiau a byrddau dynodedig a chynrychioli buddiannau myfyrwyr UMYDDS.
- Sicrhau bod yr Undeb yn gweithredu'n unol â'i gyfansoddiad a'i is-ddeddfau.
- Gweithredu'n dryloyw, a darparu myfyrwyr â'r diweddaraf drwy erthyglau, blogs a dulliau eraill o gyfathrebu fel yr ystyrir i fod yn briodol.
- Deall sut mae materion polisi Addysg Uwch yn effeithio ar fyfyrwyr y presennol a'r dyfodol, rhannu gwybodaeth a chyd-drefnu myfyrwyr i weithredu er eu budd eu hunain.
- Annog myfyrwyr i gyfranogi mewn gweithgareddau sy'n cryfhau llais myfyrwyr, yn gwella eu profiad yn y Brifysgol, yn datblygu eu sgiliau a/neu'n creu cymuned ffyniannus ac apelgar.
- Gweithredu fel 'Ymddiriedolwr Sabothol' ar Fwrdd Ymddiriedolwyr UMYDDS yn unol ag Erthyglau 24-50 o'r Memorandwm ac Erthyglau Cydgysylltiad.
- Hyrwyddo polisïau craidd yr UM, gan gynnwys ymrwymiad i gyfleoedd cyfartal; dim goddefgarwch i aflonyddu; cynaladwyedd; a dwyieithrwydd a'r Gymraeg.
- Cynyddu cyfranogiad myfyrwyr ym mhob agwedd o brosesau, strwythurau a gweithgareddau'r Undeb.
- Gweithio gyda'i gilydd fel tîm i gryfhau a hyrwyddo amcanion Undeb y Myfyrwyr.
- Mae cyfrifoldebau Llywydd y Grŵp yn cynnwys:
- Cynrychioli myfyrwyr ar gampysau Llundain a Chaerdydd a datblygu system o gynrychiolaeth ar y campysau hynny sy'n gweithio dros anghenion y myfyrwyr.
- Cynnal cysylltiad â chynrychiolwyr yn y colegau sy'n bartneriaid i UMYDDS, a lle nad oes cynrychiolwyr, gweithio gyda swyddogion cydlynu myfyrwyr i sicrhau bod myfyrwyr ar gyrsiau PCYDDS yn cael eu cynrychioli'n effeithiol.
- Cynrychioli Undeb y Myfyrwyr yng Nghyngor y Brifysgol a Senedd y Brifysgol.
- Cadeirio'r Pwyllgor Gwaith, a chynorthwyo â gwaith Llywyddion y Campysau.
- Mynychu Cyngor Undeb y Myfyrwyr, Cynghorau Myfyrwyr y Campws, a'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ac adrodd yn ôl iddynt.
- Mae cyfrifoldebau Llywyddion y Campysau'n cynnwys:
- Goruchwylio'r ddarpariaeth o weithgareddau a chyfleusterau ansawdd uchel ar gyfer myfyrwyr, a datblygu'r ystod o weithgareddau a chyfleusterau sydd ar gael ar bob campws.
- Datblygu cyfleoedd i fyfyrwyr gyfranogi'n lleol mewn gweithgareddau a gwirfoddoli.
- Cynorthwyo â datblygiad system gynrychiolaeth y myfyrwyr a darparu cyngor, arweiniad a chymorth i Gynrychiolwyr Cwrs a Chyfadran fel bo angen.
- Sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chasglu a'i hadrodd yn ôl rhwng Undeb y Myfyrwyr, y Brifysgol a Myfyrwyr parthed materion o bwys, buddugoliaethau a heriau.
- Hyrwyddo a chyfeirio myfyrwyr at wasanaethau cymorth perthnasol y Brifysgol.
- Cefnogi mentrau sy'n hyrwyddo llesiant myfyrwyr ac yn hybu cydlyniad cymunedol.
- Mynychu Cynghorau Undeb y Myfyrwyr, Cynghorau Myfyrwyr y Campws perthnasol, a'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ac adrodd yn ôl iddynt.
- Swyddogion Rhan-Amser
- Mae'r canlynol yn swyddogion rhan-amser ar Gyngor Myfyrwyr Campws Caerfyrddin:
- Swyddog y Myfyrwyr Croenddu
- Swyddog y Myfyrwyr Anabl
- Swyddog Hunaniaeth Ryweddol
- Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol
- Swyddog LHDT+ (Safle Agored)
- Swyddog LHDT+ (Safle i Ddynes)
- Swyddog Myfyrwyr Hŷn
- Swyddog Myfyrwyr Ôl-raddedig
- Swyddog y Cymdeithasau
- Swyddog Clybiau Chwaraeon
- Swyddog Ymgysylltu â Myfyrwyr
- Swyddog Myfyrwyr sy’n Rhieni/Gofalwyr
- Swyddog Cynaladwyedd
- Swyddog Gwirfoddoli a RAG:
- Swyddog Llesiant
- Swyddog yr Iaith Gymraeg
- Swyddog Rhyddhad y Menywod
- Mae'r canlynol yn swyddogion rhan-amser ar Gyngor Myfyrwyr Campws Abertawe:
- Swyddog y Myfyrwyr Croenddu
- Swyddog y Myfyrwyr Anabl
- Swyddog Hunaniaeth Ryweddol
- Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol
- Swyddog LHDT+ (Safle Agored)
- Swyddog LHDT+ (Safle i Ddynes)
- Swyddog Myfyrwyr Hŷn
- Swyddog Myfyrwyr Ôl-raddedig
- Swyddog y Cymdeithasau
- Swyddog Clybiau Chwaraeon
- Swyddog Ymgysylltu â Myfyrwyr
- Swyddog Myfyrwyr sy’n Rhieni/Gofalwyr
- Swyddog Cynaladwyedd
- Swyddog Gwirfoddoli a RAG:
- Swyddog Llesiant
- Swyddog yr Iaith Gymraeg
- Swyddog Rhyddhad y Menywod
- Mae'r canlynol yn swyddogion rhan-amser ar Gyngor Myfyrwyr Campws Llambed:
- Swyddog y Myfyrwyr Croenddu
- Swyddog y Myfyrwyr Anabl
- Swyddog Hunaniaeth Ryweddol
- Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol
- Swyddog LHDT+ (Safle Agored)
- Swyddog LHDT+ (Safle i Ddynes)
- Swyddog Myfyrwyr Hŷn
- Swyddog Myfyrwyr Ôl-raddedig
- Swyddog y Cymdeithasau
- Swyddog Clybiau Chwaraeon
- Swyddog Ymgysylltu â Myfyrwyr
- Swyddog Myfyrwyr sy’n Rhieni/Gofalwyr
- Swyddog Cynaladwyedd
- Swyddog Gwirfoddoli a RAG:
- Swyddog Llesiant
- Swyddog yr Iaith Gymraeg
- Swyddog Rhyddhad y Menywod
- 7.2.4: Mae cyfrifoldebau pob swyddog rhan-amser yn cynnwys:
- Gweithio gyda'r Llywydd Campws priodol i osod amcanion penodol i'w rôl ar gyfer eu blwyddyn yn y swydd.
- Adrodd yn ôl ar gynnydd yn erbyn eu hamcanion i bob cyfarfod o Gyngor Myfyrwyr y Campws.
- Mynychu cyfarfodydd Cyngor Myfyrwyr eu Campws ac adrodd yn ôl i gorff y myfyrwyr ar waith y Swyddogion Sabothol ac Undeb y Myfyrwyr.
- Casglu adborth gan fyfyrwyr ar destunau sy'n berthnasol i brofiad myfyrwyr ac adrodd syniadau'n ôl i Gyngor Myfyrwyr y Campws priodol.
- Hyrwyddo polisïau craidd yr UM, gan gynnwys ymrwymiad i gyfleoedd cyfartal; dim goddefgarwch i aflonyddu; cynaladwyedd; a dwyieithrwydd a'r Gymraeg.
- Gweithio gyda swyddogion a staff yr UM i gynnal digwyddiadau, ymgyrchoedd neu weithgareddau eraill wedi'i bwriadu i hybu profiad myfyrwyr PCYDDS.
- Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
- Mae'r is-ddeddf hon i'w darllen yng nghyd-destun Rhan 3, Erthyglau 24 -50 o Femorandwm ac Erthyglau Cydgysylltiad UMYDDS.
- Diben, Strwythur a Dirprwyo
- Caiff diben, pwerau a chyfrifoldebau Bwrdd yr Ymddiriedolwyr eu disgrifio yn Rhan 3 o'r Memorandwm ac Erthyglau Cydgysylltiad.
- Mae'r Ymddiriedolwyr yn rhydd i strwythuro cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr fel y gwelant yn dda, cyn belled â bod yr amodau a amlinellir yn Rhan 3 o'r Memorandwm ac Erthyglau Gydgysylltiad yn cael eu diwallu.
- Gall yr Ymddiriedolwyr ddirprwyo cyfrifoldebau gweithredol i staff priodol ac is-bwyllgorau yn ôl yr angen.
- Gellir cynnal cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ac is-bwyllgorau naill ai wyneb-yn-wyneb neu trwy ddulliau ar-lein.
- Penodiad Ymddiriedolwyr a'u Cyfnod yn y Swydd
- Bydd Ymddiriedolwyr Allanol ac Alumni yn dechrau yn eu rôl o'r dyddiad y penodwyd hwy gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr am gyfnod yn y swydd fel y disgrifir yn Erthyglau 27 a 28.
- Dan amgylchiadau cyffredin, bydd Ymddiriedolwyr sy'n Swyddogion neu'n Fyfyrwyr yn dechrau yn y rôl ar 1 Gorffennaf yn y flwyddyn yr etholwyd hwy, a bydd eu cyfnod yn y swydd yn dod i ben am 23:59 ar 31 Mehefin y flwyddyn ganlynol.
- Os oes swydd wag ar gyfer rôl Ymddiriedolwr sy'n Swyddog neu'n Fyfyriwr, yna caiff is-etholiad ei alw, gan ddilyn y weithdrefn a amlinellir yn Is-ddeddf 2. Caiff eu cyfnod yn y rôl ei benderfynu gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, a daw i ben yn unol ag Ymddiriedolwyr etholedig eraill.
- Rôl, Cyfrifoldebau a Disgwyliadau Ymddiriedolwyr
- Mae disgwyl i bob Ymddiriedolwr wneud y canlynol:
- Cynnal Cenhadaeth, Gweledigaeth a Gwerthoedd Undeb y Myfyrwyr bob amser.
- Cadw at saith Egwyddor Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus wrth weithredu eu dyletswyddau; y rhain yw bod yn Anhunanol, Didwyll, Gwrthrychol, Atebol, Agored, Gonest a dangos Arweinyddiaeth.
- Mynychu pob cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, ac is-bwyllgorau priodol, neu anfon ymddiheuriadau ysgrifenedig ymlaen llaw.
- Hyrwyddo gwaith, amcanion ac ideoleg yr Undeb, gan gynnal cyfrinachedd lle bo angen.
- Dychmygu, monitro a gwerthuso cyfeiriad strategol yr Undeb.
- Cynnal diddordeb gweithredol yn yr Undeb a sicrhau eu bod nhw wedi'u paratoi a'u briffio'n briodol er mwyn eu galluogi i wneud penderfyniadau deallus er budd myfyrwyr PCYDDS.
- Cyfrannu at ddatblygiad parhaus Bwrdd Ymddiriedolwyr sy'n perfformio'n dda.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol priodol, fel y penderfyna Bwrdd yr Ymddiriedolwyr at ddibenion hyrwyddo'r Undeb.
- Sicrhau bod yr Undeb yn: cydymffurfio â phob deddfwriaeth berthnasol a'r ddogfen lywodraethu hon; yn defnyddio cyllid ac asedau elusennol at ddibenion hyrwyddo'r Undeb yn unig; ac yn sicrhau dyfodol ariannol llewyrchus.
- Cymryd camau priodol i osgoi gweithgareddau a allai beri risg diangen i asedau, adnoddau neu enw da'r elusen.
reputation at undue risk.
- Adrodd yn ôl ar gynnydd Cyngor Undeb y Myfyrwyr ddwywaith y flwyddyn, ac i'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol bob blwyddyn.
- Gwerthuso a Rheoli Perfformiad y Prif Weithredwr
- Yn unol ag Erthygl 37.4 mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am ddarparu'r Prif Weithredwr â rheolaeth perfformiad a gwerthusiad blynyddol priodol.
- Bydd Cadeirydd y Bwrdd yn cynnig proses werthuso bob blwyddyn i'w chymeradwyo gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr; caiff y broses werthuso ei goruchwylio gan y Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd, fydd yn adrodd yn ôl i'r Bwrdd pan gaiff ei chwblhau.
- Dylid cwblhau gwerthusiad y Prif Weithredwr cyn diwedd cyfnod trosglwyddo'r awenau i'r swyddogion sabothol newydd, er mwyn caniatáu i'r tîm sydd ar fin gadael a'r tîm newydd gael cyfranogi yn y broses.
- Is-Bwyllgorau'r Bwrdd
- Caiff Bwrdd yr Ymddiriedolwyr sefydlu is-bwyllgorau, gweithgorau neu grwpiau tasg a gorffen, i gwrdd yn ôl y galw er mwyn darparu fforwm manylach ar gyfer trafodaeth a/neu i ddarparu ar gyfer anghenion gweithredol a monitro.
- Dylai'r bwrdd sicrhau bod y strwythur is-bwyllgorau'n gweithio'n effeithiol ac yn effeithlon, a bod cylch gorchwyl a gofynion adrodd yn ôl pob is-bwyllgor yn cael eu deall yn eglur.
- Is-Bwyllgor Llywodraethiant, Enwebiadau a Phenodiadau (PLlEPh)
- Diben
- Sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu model llywodraethiant sy'n addas at ddibenion y mudiad, ac sy'n unol â'r weledigaeth a'r gwerthoedd a gyhoeddir.
- Sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu prosesau a gweithdrefnau recriwtio, hyfforddi, monitro a gwerthuso digonol.
- Gwerthuso a monitro perfformiad Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ac ystyried cynllunio ar gyfer dilyniant strategol.
- Goruchwylio'r broses recriwtio a dethol ar gyfer Ymddiriedolwyr Allanol ac Alumni, yn ogystal â swyddi staff parhaol yn Undeb y Myfyrwyr.
- Adolygu ymagwedd Undeb y Myfyrwyr at reoli perfformiad er mwyn sicrhau bod cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad yn cael eu canfod.
- Gwerthuso a monitro perfformiad Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a chanfod meysydd ar gyfer hyfforddiant neu arbenigedd ychwanegol.
- Ystyried cynllunio ar gyfer dilyniant ar lefel y Bwrdd, yn ogystal â nodi, asesu a gwneud argymhellion i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr parthed Ymddiriedolwyr newydd.
- Goruchwylio'r broses werthuso flynyddol a pherfformiad y Prif Weithredwr.
- Argymell penodiad Swyddog Etholiadau Undeb y Myfyrwyr i'r Bwrdd yn flynyddol.
- Ymgymryd â chyfrifoldebau yn unol â'r hyn y bydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn ei benderfynu.
- Aelodaeth
- Gall Bwrdd yr Ymddiriedolwyr benderfynu ar aelodaeth y PLlEPh yn flynyddol, ond fel arfer bydd yn cynnwys: 4 Ymddiriedolwr Sabothol ac 1 Ymddiriedolwr Allanol fel aelodau llawn. Prif Weithredwr a Rheolwr Adnoddau Dynol UMYDDS fel aelodau ex-officio.
- Gellir hefyd gwahodd unigolion eraill i fynychu cyfarfodydd o bryd i'w gilydd, i ddarparu'r Is-bwyllgor â gwybodaeth ar eitemau penodol ar yr agenda.
- Is-Bwyllgor Adnoddau Dynol a Chyflogau (PADCh)
- Diben
- Gosod ac adolygu polisïau Adnoddau Dynol a chyflogau Undeb y Myfyrwyr a monitro materion perthnasol.
- Adolygu a gwneud argymhellion i'r Bwrdd parthed y cyflog lwfans byw mae Swyddogion Sabothol yn ei dderbyn.
- Adolygu a gwneud argymhellion i'r Bwrdd parthed polisïau cyflogaeth a buddion y mudiad.
- Argymell y lefel cyflog ar gyfer pob swydd staff newydd yn Undeb y Myfyrwyr.
- Ystyried ceisiadau a wneir gan swyddogion, rheolwyr neu staff fyddai'n cael effaith sylweddol ar gostau cyflogau Undeb y Myfyrwyr.
- Monitro effeithiolrwydd prosesau sefydlu, hyfforddi, gwerthuso a mesur perfformiad staff a swyddogion sabothol o fewn Undeb y Myfyrwyr.
- Ymgymryd â chyfrifoldebau yn unol â'r hyn y bydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn ei benderfynu.
- Aelodaeth
- Gall Bwrdd yr Ymddiriedolwyr benderfynu ar aelodaeth y PADCh yn flynyddol, ond fel arfer bydd yn cynnwys: 3 Ymddiriedolwr Allanol (1 fel Cadeirydd), 1 Swyddog Sabothol, 1 Myfyriwr Ymddiriedolwr ac un aelod a benodir yn allanol fel aelodau llawn. Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Adnoddau Dynol UMYDDS fel aelodau ex-officio.
- Gellir hefyd gwahodd unigolion eraill i fynychu cyfarfodydd o bryd i'w gilydd, er mwyn darparu'r Is-bwyllgor â gwybodaeth ar eitemau penodol ar yr agenda.
- Is-bwyllgor Cyllid (PC)
- Diben
- Darparu arolygaeth strategol a chanllawiau gweithredol ar fecanweithiau a pherfformiad cyllidol Undeb y Myfyrwyr; craffu ar y cyllid rhwng cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr; a sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn rheoli ei adnoddau ariannol yn effeithiol a'i fod yn diwallu ei anghenion statudol o ran adrodd yn ôl.
- Cynghori Bwrdd yr Ymddiriedolwyr o ran rheolaeth gywir o adnoddau ariannol yr Undeb.
- Cymeradwyo'r broses gynllunio a chyllidebu, gan sicrhau ei bod yn gyfreithlon, yn gyfrifol ac wedi'i chynllunio i weithredu'r nodau ac amcanion a amlinellir yng nghynllun strategol Undeb y Myfyrwyr.
- Monitro'r gyllideb flynyddol y cytunwyd arni a chynghori Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ynglŷn ag unrhyw faterion o bryder, ynghyd ag ystyried ac argymell i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr unrhyw gynigion ar gyfer gwelliannau sylweddol i'r gyllideb yn ystod y flwyddyn.
- Cynghori Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ar unrhyw ffactorau, mewnol neu allanol, a allai gael effaith sylweddol ar gyllideb yr Undeb.
- Darparu awdurdod ar gyfer y canlynol:
- Sefydlu a chau cyfrifon banc yr Undeb
- Cymeradwyo benthyciadau hir-dymor a byr-dymor
- Sicrhau bod gan y Bwrdd fynediad i gyngor cyllidol proffesiynol allanol lle bo angen hynny.
- Cynorthwyo'r Prif Weithredwr a'r Pennaeth Cyllid i sicrhau bod adroddiadau cyllidol statudol a rheoliadol yn cael eu darparu'n brydlon, a'u bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau angenrheidiol a chanllawiau arferion gorau.
- Ymgymryd â chyfrifoldebau yn unol â'r hyn y bydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn ei benderfynu.
- Aelodaeth
- Gall Bwrdd yr Ymddiriedolwyr benderfynu ar aelodaeth y PC yn flynyddol, ond fel arfer bydd yn cynnwys: 3 Ymddiriedolwr Sabothol; 1 Myfyriwr Ymddiriedolwr; 1 Ymddiriedolwr Allanol a Dirprwy Is Ganghellor (Cyllid ac Adnoddau) PCYDDS (neu eu henwebai) fel aelodau llawn. Y Prif Weithredwr a'r Rheolwr Busnes a Chyllid fel aelodau ex officio.
- Gellir hefyd gwahodd unigolion eraill i fynychu cyfarfodydd o bryd i'w gilydd, i ddarparu'r Is-bwyllgor â gwybodaeth ar eitemau penodol ar yr agenda.
- Is-Bwyllgor Archwiliad a Risg (PAR)
- Diben
- Darparu goruchwyliaeth strategol ac adolygu prosesau a gweithdrefnau Undeb y Myfyrwyr (cyllidol ac anghyllidol) er mwyn sicrhau bod rheolau mewnol yn gadarn a bod unrhyw risg yn cael ei chanfod a'i rheoli.
- Adolygu a monitro cydymffurfiad Undeb y Myfyrwyr â chyfreithiau, rheoliadau a rheolau gweithredu moesegol.
- Goruchwylio'r broses dethol ac awgrymu penodiad, ail-benodiad a diswyddo archwilwyr allanol Undeb y Myfyrwyr.
- Bod yn gyfrifol am ddigolledi a goruchwylio gwaith yr archwilwyr allanol, derbyn ac adolygu Adroddiad Blynyddol Undeb y Myfyrwyr ynghyd ag unrhyw ddogfennaeth ychwanegol, cyn mynd ati i adolygu a chymeradwyo ymlaen llaw pob gwasanaeth archwilio yr ymgymerir â nhw, yn ogystal â gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud ag archwilio.
- Derbyn a thrafod adroddiad yr Archwilwyr Allanol, a goruchwylio gweithredu unrhyw argymhellion.
- Monitro rheolaeth fewnol a systemau rheoli risg.
- Nodi meysydd ar gyfer archwiliad mewnol ac ystyried canfyddiadau adroddiadau.
- Adolygu o bryd i'w gilydd sut y gweithredir polisi a gweithdrefnau, gan sicrhau bod newidiadau mewn gofynion statudol yn cael eu hadlewyrchu yng ngweithgareddau'r Undeb.
- Sicrhau bod yr Ymddiriedolwyr yn deall lefel y risg i'r sefydliad, beth yw eu cyfrifoldebau personol, a'u bod yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i reoli a lleihau risg.
- Ymgymryd â chyfrifoldebau yn unol â'r hyn y bydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn ei benderfynu.
- Aelodaeth
- Gall Bwrdd yr Ymddiriedolwyr benderfynu ar aelodaeth y PAR yn flynyddol, ond fel arfer bydd yn cynnwys: 2 Ymddiriedolwr Sabothol; 1 Ymddiriedolwr sy'n Fyfyriwr; 1 Ymddiriedolwr Allanol fel aelodau llawn. Y Prif Weithredwr a'r Pennaeth Cyllid fel aelodau ex officio.
- Gellir hefyd gwahodd unigolion eraill i fynychu cyfarfodydd o bryd i'w gilydd, i ddarparu'r Is-bwyllgor â gwybodaeth ar eitemau penodol ar yr agenda.
- Health & Safety Sub-Committee (HSC)
- Purpose
- To provide strategic oversight and operational guidance on Students’ Union processes regarding matters related to the health and safety of staff and volunteers
- To advise the Trustee Board on the proper management and control of the Union’s health and safety policies and procedures
- To review and recommend to the Trustee Board changes deemed necessary with regards to the Union’s health and safety policies and procedures
- To receive reports from Union staff on recent ongoing issues and cases relating to health and safety
- To make recommendations to the Audit and Risk Sub-Committee on any health and safety issues that may impact the work of said Sub-Committee
- To undertake such responsibilities as the Trustee Board may determine.
- Membership
- The membership of the HSC may be determined by the Trustee Board on an annual basis but will normally include 1 Sabbatical Trustee, 1 External Trustee and 1 Student Trustee and be chaired by the Chief Executive. The Finance & Business Manager, Student Development Coordinator, Bar Manager (Lampeter) will also be in attendance, as well as a University Representative.
- Other individuals may also be invited to attend meetings from time to time to provide the Sub-Committee with information on specific items on the agenda.
- Pwyllgor Gwaith
- Pwrpas a Swyddogaethau
- Gwneud penderfyniadau o natur wleidyddol ac adweithiol mewn ymateb i faterion sy'n codi sy'n effeithio ar brofiad myfyrwyr, perthynas â’r sefydliad, a materion eraill y mae'r Pwyllgor yn eu hystyried yn briodol.
- Cyfle i Swyddogion sy’n Ymddiriedolwyr rannu diweddariadau a chynnydd ar eu hymgyrchoedd, prosiectau, a maniffestos, a cheisio cyngor a chefnogaeth gan aelodau eraill y Pwyllgor.
- Bod yr Uwch Reolwyr yn darparu diweddariadau ar faterion gweithredol i’r Swyddogion mewn modd rheolaidd a ffurfiol, ac i Swyddogion ofyn cwestiynau a derbyn diweddariadau eraill.
- Pan fo angen, gwneud penodiadau i Gynghorau Campws
- Adolygu a derbyn ceisiadau ar gyfer glybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli newydd.
- Bydd pob cyfarfod yn cael ei gynnal ar sail agenda y cytunir arni gan y Cadeirydd, gyda'r holl aelodau sy'n mynychu'n rheolaidd (y rhai sy’n pleidleisio a’r rhai sydd heb bleidlais) yn gallu ychwanegu eitemau. Bydd cofnod yn cael ei wneud o bob cyfarfod .
- Dylid anfon cofnodion y cyfarfodydd i Gyngor Undeb y Myfyrwyr a Bwrdd Undeb y Myfyrwyr i'w harchwilio.
- Dylid cynnal cyfarfodydd o leiaf unwaith y mis.
- Aelodaeth
- Ymddiriedolwyr sy'n Swyddogion (yn pleidleisio). Llywydd y Grŵp fydd Cadeirydd y cyfarfod.
- Prif Weithredwr, Pennaeth Busnes a Chyllid, Pennaeth Gwasanaethau Aelodaeth (dim pleidleisio).
- Rheolwr Llywodraethu a Gweinyddu (nid pleidleisio, am gefnogaeth ysgrifenyddol).
- Unrhyw aelod o staff neu fyfyriwr ar wahoddiad y Pwyllgor (ddim yn pleidleisio).
- Clybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli
- Ethos
- Mae Undeb y Myfyrwyr wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth i fyfyrwyr fynd ati i sefydlu eu clybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli eu hunain, am y rhesymau canlynol:
- Datblygiad personol a phroffesiynol a chyflogadwyedd
- Creu cymuned myfyrwyr weithredol a ffyniannus
- Cynnal dargadwedd a theimlad o berthyn o fewn cymuned y myfyrwyr
- Hyrwyddo dull o fyw actif ymysg myfyrwyr, ynghyd ag iechyd meddwl positif wrth astudio
- Hyrwyddo ymgysylltiad ehangach â'r gymuned a theimlad o gyfrifoldeb dinesig
- Rhwydweithio a chyfle i ymgysylltu â chymuned y myfyrwyr yn ehangach, ledled y DU
- Dylai pob grŵp dan arweiniad myfyrwyr ethol eu pwyllgorau gan ddilyn canllawiau a gyhoeddir gan Undeb y Myfyrwyr. Dim ond Aelodau Llawn o'r UM gaiff eu hystyried ar gyfer swyddi ar bwyllgorau.
- 10.2 Gwneud cais am gydnabyddiaeth fel grŵp o fewn Undeb y Myfyrwyr
- Er mwyn gwneud cais i fod yn grŵp o fewn Undeb y Myfyrwyr, rhaid i glwb / cymdeithas neu brosiect gwirfoddoli:
- Fod ag o leiaf 5 aelod sydd â diddordeb mewn ymuno
- Bod a thri unigolyn wedi'u henwi (Aelodau Llawn o'r UM) sy'n fodlon ymgymryd â swyddi arweinyddiaeth
- Bod â chyfansoddiad drafft (mae cyfansoddiad model ar gael o'r UM)
- Llenwi'r ffurflen gais (ar gael ar wefan yr UM)
- Cael eu derbyn gan Bwyllgor Gwaith Undeb y Myfyrwyr
- Gall grwpiau o fewn Undeb y Myfyrwyr sydd â chydnabyddiaeth swyddogol wneud cais am gyllido gan undeb y Myfyrwyr i gynnal eu gweithgareddau. Bydd Undeb y Myfyrwyr yn cyhoeddi canllawiau cyllidol bob blwyddyn yn esbonio sut i gael gafael ar gyllid a'r hyn y gellir defnyddio'r arian yma ar ei gyfer.
- Mae angen i holl aelodau clybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli Undeb y Myfyrwyr brynu'r cerdyn DDS priodol, sy'n cyfrannu at gost cynnal gweithgareddau dan arweiniad myfyrwyr.
- Clybiau Chwaraeon
- Bydd Undeb y Myfyrwyr yn mynd ati bob blwyddyn i gynnal hyfforddiant ar gyfer pwyllgorau clybiau chwaraeon, gan ymdrin (o leiaf) â'r canlynol:
- Gweithdrefnau Cyllidol
- Gweithdrefnau Gweinyddol
- Safonau Ymddygiad
- Cyfleoedd Datblygu
- Rhaid i bob clwb fod ag asesiad risg perthnasol ar gyfer pob un o'r gweithgareddau maent yn bwriadu eu cynnal.
- Rhaid i bob clwb fod ag o leiaf 2 aelod sydd â chymwysterau Cymorth Cyntaf ar gyfer achosion brys.
- Rhaid i dimoedd BUCS geisio chwarae pob un o'r gemau a drefnwyd, ac mae'n bosib y gellir eu diddymu o Gynghrair, ar gost y clwb, os caiff dwy gêm eu methu yn ystod blwyddyn academaidd.
- Gellir ystyried timoedd newydd ar gyfer cystadlaethau BUCS, os ydynt yn ateb y meini prawf canlynol, sef eu bod:
- Yn gallu dangos fod ganddynt ddigon o aelodau i chwarae'r gemau cynghrair a drefnir ar eu cyfer
- Wedi cwblhau blwyddyn o gystadlu mewn cynghrair leol neu gystadlaethau cyfeillgar.
- Wedi dangos eu bod yn rhedeg yn unol â Chod Ymddygiad yr UM (Is-ddeddf 11) ac y byddent yn cael eu hystyried i fod yn llysgenhadon da i Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol.
- Cymdeithasau a Phrosiectau Gwirfoddoli
- Bydd Undeb y Myfyrwyr yn mynd ati bob blwyddyn i gynnal hyfforddiant ar gyfer pwyllgorau cymdeithasau / gwirfoddoli, gan ymdrin (o leiaf) â'r canlynol:
- Gweithdrefnau Cyllidol
- Gweithdrefnau Gweinyddol
- Safonau Ymddygiad
- Cyfleoedd am Ddatblygiad
- Rhaid i bob grŵp fod ag asesiad risg perthnasol ar gyfer pob un o'r gweithgareddau maent yn bwriadu eu cynnal.
- Rhaid i bob grŵp fod ag o leiaf 2 aelod sydd â chymwysterau Cymorth Cyntaf ar gyfer achosion brys.
- Cwynion
- Ymdrinnir ag unrhyw gwynion sy'n perthyn i Glybiau, Cymdeithasau a Phrosiectau Gwirfoddoli (a'u haelodau) drwy'r broses Ddisgyblaeth a amlinellir yn Is-ddeddf 12.
- Academaidd Weithredol
- Partneriaeth
- Mae Undeb y Myfyrwyr yn gyfrifol am redeg system gynrychiolaeth academaidd weithredol, mewn partneriaeth â PCYDDS fel yr amlinellir ym Mhennod 12 o'r llawlyfr Ansawdd Academaidd.
- Cynrychiolwyr Cyfadran
- Etholir y Cynrychiolwyr Cyfadran canlynol yn Ebrill / Mai bob blwyddyn:
- Institute of Management & Health (Carmarthen)
- Institute of Management & Health (Swansea)
- Institue of Management & Health (London)
- Institue of Management & Health (Birmingham)
- Institute of Education & Humanities (Swansea)
- Institute of Education & Humanities (Lampeter)
- Institute of Education & Humanities (Carmarthen)
- Institute of Science & Art (IQ, Swansea)
- Institute of Science & Art (Dynevor, Swansea)
- Institute of Science & Art (Carmarthen)
- Institute of Science & Art (Cardiff)
- Os na chaiff pob swydd ei llenwi yn ystod etholiadau Ebrill / Mai, caiff y swyddi sy'n weddill eu llenwi drwy broses benodi cyn cyfarfodydd cyntaf y Byrddau Cyfadran ym mis Hydref o'r flwyddyn academaidd ganlynol.
- Caiff Cynrychiolwyr Cyfadran eu talu am eu gwaith ar raddfa a osodir gan is-bwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.
- Yn ogystal ag eistedd ar Fwrdd y Gyfadran, mae Cynrychiolwyr Cyfadran hefyd yn aelodau llawn o Gyngor Myfyrwyr y Campws perthnasol.
- Bydd Undeb y Myfyrwyr yn cyhoeddi disgrifiad rôl sy'n amlinellu dyletswyddau Cynrychiolwyr Cyfadran yn flynyddol, a hefyd yn darparu hyfforddiant a chymorth cynhwysfawr.
- Cynrychiolwyr Cwrs
- Bydd Undeb y Myfyrwyr yn gweithio gydag Adran Profiad Myfyrwyr y Brifysgol, Cyfadrannau ac Ysgolion Academaidd i sicrhau bod gan fyfyrwyr oll y cyfle i ymgysylltu â phob agwedd o'u profiad addysgol.
- Bydd Undeb y Myfyrwyr yn darparu staff y Brifysgol â chanllawiau a chymorth ar gyfer rhedeg etholiadau cynrychiolwyr cwrs, a byddant yn darparu cyfleoedd hyfforddiant ar gyfer cynrychiolwyr etholedig.
- Bydd Undeb y Myfyrwyr yn cyhoeddi manylion cysylltu cynrychiolwyr etholedig ac yn annog cynrychiolwyr i rwydweithio a rhannu syniadau a materion perthnasol.
- Bydd Undeb y Myfyrwyr yn gweithio gydag Ysgolion Academaidd i ganfod carfannau o fyfyrwyr sydd ag anghenion ymgysylltu arbennig a mynd ati i ddatblygu systemau cynrychiolaeth hyblyg.
- Cwynion
- Ymdrinnir ag unrhyw gwynion sy'n perthyn i Gynrychiolwyr Cyfadran a Chwrs drwy'r broses Ddisgyblaeth a amlinellir yn Is-ddeddf 12.
- Cod Ymddygiad
- Cod Ymddygiad
- Mae Undeb y Myfyrwyr yn disgwyl i bob aelod gynnal safon ymddygiad penodol. Dylai pob aelod:
- Ymddwyn yn rhesymol a chyfrifol bob amser, a thra byddant yn aelod o'r Undeb;
- Dangos parch a dealltwriaeth at holl aelodau cymuned y Brifysgol;
- Ymatal rhag unrhyw weithgaredd neu ymddygiad sy'n debygol o ddwyn anfri ar yr Undeb neu'r Brifysgol;
- Ymddwyn mewn modd sydd ddim yn tramgwyddo eraill ac ymatal rhag defnyddio iaith anweddus ac ymosodol, naill ai ar lafar, mewn ysgrifen, na mynegi neu gymryd rhan mewn unrhyw fath o ymddygiad camwahaniaethol, gwrth-gymdeithasol neu fwlio;
- Trin holl eiddo'r Undeb a'r Brifysgol â pharch, ac ymatal rhag amharu ar fwynhad pobl eraill o gyfleusterau neu ddigwyddiadau'r Undeb;
- Cydymffurfio â gofynion rhesymol staff yr Undeb a'r Brifysgol;
- Cadw at bolisïau Iechyd a Diogelwch yr Undeb a'r Brifysgol ac unrhyw ofynion penodol sy'n berthnasol i'r ardaloedd hynny lle byddwch chi'n gweithio. Mae copi o'r llawlyfr Iechyd a Diogelwch ar gael er gwybodaeth ar wefan Undeb y Myfyrwyr. Mae'n gyfrifoldeb ar aelodau i ymgyfarwyddo â'r polisi ar gyfer unrhyw ddigwyddiad ac ar bob achlysur.
- Gweithredu'n groes i'r Cod Ymddygiad
- Dylid tynnu sylw'r Undeb at unrhyw achosion o weithredu'n groes i'r Cod hwn, ac ymdrinnir ag achosion o'r fath gan ddefnyddio'r Gweithdrefnau Disgyblaeth a amlinellir yn Is-ddeddf 12.
- Gweithdrefnau Cwynion a Disgyblaeth
- Gweithdrefn Gwynion
- Mae gan unrhyw un sy'n allanol i dîm staff, swyddogion sabothol ac ymddiriedolwyr, sy'n anfodlon â'u hymgysylltiad ag Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant, ei Swyddogion, Staff neu Ymddiriedolwyr, hawl i gwyno.
- Ymdrinnir â phob cwynion yn brydlon ac yn deg, a dylid eu hymchwilio a'u datrys yn unol â'r camau canlynol:
- Cam 1: Cwyn Anffurfiol
- Disgwylir y gellir datrys y rhan fwyaf o gwynion drwy drafod y mater yn anffurfiol cynted â phosib. Dylai'r achwynydd yn gyntaf ddwyn y mater at sylw'r Rheolwr neu Ymddiriedolwr Sabothol priodol sydd yng ngofal y maes perthnasol, fydd yn ceisio datrys y mater drwy drafodaeth anffurfiol.
- Mae'r sawl sy'n derbyn cwynion anffurfiol gan fyfyrwyr yn gyfrifol am fynd i'r afael â nhw'n brydlon ac yn deg. Bydd y sawl sy'n derbyn y cwyn fel arfer yn rhoi gwybod i'r achwynydd o fewn pum diwrnod gwaith o dderbyn y cwyn yn y lle cyntaf ynglŷn â pha gamau (os oes unrhyw rai) a gaiff eu cymryd i fynd i'r afael â'r cwyn a'r amserlen ar gyfer y camau hynny.
- Os na ddatryswyd y cwyn drwy'r camau uchod, gall yr achwynydd ddwyn y mater at sylw Llywydd Grŵp UMYDDS, a fydd yn cynnal ei ymchwiliad ei hun a dod i ddyfarniad ynghylch y cwyn cyn rhoi gwybod i'r achwynydd.
- Os yw'r cwyn yn erbyn aelod staff, bydd Llywydd y Grŵp fel arfer yn pasio'r mater i Brif Weithredwr UMYDDS, fydd yn gyfrifol am fynd i'r afael â'r cwyn ac am roi gwybod i'r achwynydd ynglŷn â'r canlyniad.
- Os yw'r cwyn yn erbyn Llywydd y Grŵp, yna cyfeirir y mater at Fwrdd yr Ymddiriedolwyr drwy'r Prif Weithredwr, fydd yn cynorthwyo'r Bwrdd i ymchwilio i'r mater. Bydd y Prif Weithredwr yn gyfrifol am roi gwybod i'r achwynydd ynglŷn â'r canlyniad.
- Os yw'r cwyn yn erbyn y Prif Weithredwr, yna cyfeirir y mater at Fwrdd yr Ymddiriedolwyr drwy Lywydd y Grŵp, fydd yn cynorthwyo'r Bwrdd i ymchwilio i'r mater. Bydd Llywydd y Grŵp yn gyfrifol am roi gwybod i'r achwynydd ynglŷn â'r canlyniad.
- Dylid nodi mai proses lafar anffurfiol (neu drwy e-bost os nad yw cyfarfod yn bosib) yw'r cam hwn fel arfer, ac ni chaiff cofnod ysgrifenedig ei gadw o'r mater.
- Cam 2: Cwyn Ffurfiol
- Os nad yw'r cwyn wedi cael ei ddatrys mewn ffordd sy'n bodloni'r achwynydd dan Gam 1, gallant wneud cwyn ffurfiol mewn ysgrifen i Lywydd y Grŵp, neu i'r Prif Weithredwr (mewn achos lle mae'r cwyn yn erbyn Llywydd y Grŵp). Bydd Llywydd y Grŵp, neu'r Prif Weithredwr, yn gyfrifol am ymchwilio'r mater, cyflwyno eu canfyddiadau ac argymell datrysiad i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, neu is-bwyllgor perthnasol. Bydd Llywydd y Grŵp, neu'r Prif Weithredwr, yn gyfrifol am roi gwybod i'r achwynydd ynglŷn â'r canlyniad.
- 13.4 Cam 3: Adolygiad
- Os nad yw'r cwyn wedi cael ei ddatrys er boddhad yr achwynydd dan Gamau 1 a 2, gallant wneud cais am gynull cyfarfod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr (neu is-bwyllgor perthnasol) i adolygu'r mater. Rhaid i'r cais gael ei wneud mewn ysgrifen i Lywydd y Grŵp, neu i'r Prif Weithredwr (mewn achos lle mae'r cwyn yn erbyn Llywydd y Grŵp) o fewn un wythnos o dderbyn canlyniad Cam 2, a rhaid trefnu cyfarfod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr (neu is-bwyllgor perthnasol) o fewn un mis o dderbyn y cais ysgrifenedig.
- Bydd y cyfarfod adolygu'n dilyn y drefn ganlynol:
- Mae angen i'r achwynydd fynychu'r cyfarfod a gallant ddod ag aelod llawn arall o UMYDDS gyda nhw.
- Bydd gofyn i'r achwynydd esbonio'u cwyn a chyflwyno unrhyw dystiolaeth ychwanegol, gyda chymorth eu cydymaith yn ôl y galw. Wedyn mae'n bosib y bydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn holi cwestiynau iddynt.
- Bydd Llywydd y Grŵp a / neu'r Prif Weithredwr wedyn yn ymateb i'r cwyn. Mae'n bosib y bydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a'r achwynydd (neu eu cydymaith) yn holi cwestiynau iddynt hwythau.
- Bydd yr achwynydd, eu cydymaith, a naill ai Llywydd y Grŵp a / neu Brif Weithredwr UMYDDS wedyn yn gadael yr ystafell (gan ddibynnu ar bwy y gwnaed y cwyn yn eu herbyn) a bydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn gwneud eu penderfyniad terfynol.
- Bydd yr achwynydd yn derbyn ymateb ysgrifenedig llawn i'w cwyn, a ddylai gynnwys manylion o natur y cwyn, canfyddiadau Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, a'r pwyntiau a drafodwyd yn y cyfarfod adolygu.
- Cam 4: Apêl
- Os yw'r achwynydd yn anfodlon â phenderfyniad Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, gallant ofyn i gael eu cwyn wedi'i adolygu gan y Brifysgol. Rhaid i'r achwynydd ysgrifennu at Lywydd y Grŵp, neu'r Prif Weithredwr os yw'r cwyn yn erbyn Llywydd y Grŵp, gan nodi'r rhesymau dros ofyn am adolygiad a gofyn am gael y mater wedi'i gyfeirio at y Brifysgol.
- Rhaid i'r rhesymau dros gynnal adolygiad fodloni un o'r meini prawf canlynol:
- Roedd anghysondebau gweithdrefnol wrth ymchwilio i'r cwyn; neu
- Gellir cyflwyno tystiolaeth newydd na chyflwynwyd, neu nad ellid disgwyl yn rhesymol iddi fod ar gael i'r ymchwiliad; neu
- Roedd canfyddiad yr ymchwiliad yn amhriodol yng ngoleuni'r dystiolaeth.
- Wedyn cyfeirir y cwyn at y Brifysgol ar gyfer ymchwiliad a dyfarniad. Bydd y Brifysgol yn gyfrifol am hysbysu'r myfyriwr a Llywydd y Grŵp ynglŷn â chanlyniad yr ymchwiliad.
- Mae'r uchod yn cynrychioli cam olaf gweithdrefn gwynion UMYDDS.
- Y Weithdrefn Ddisgyblu
- Gellir ymdrin ag unrhyw gwynion sy'n ymwneud ag aelodau UMYDDS drwy'r weithdrefn hon. Dylai cwynion am staff a Swyddogion Sabothol UMYDDS ddilyn y gweithdrefnau Adnoddau Dynol mewnol sy'n ffurfio rhan o'r trefniant cytundebol ar gyfer cyflogaeth.
- Ymdrinnir â phob cwynion yn brydlon ac yn deg, a dylid eu hymchwilio a'u datrys yn unol â'r camau canlynol:
- Rhaid cyflwyno'r cwyn mewn ysgrifen i Lywydd y Grŵp. Rhaid i Lywydd y Grŵp wedyn benderfynu a oes digon o dystiolaeth i gyfiawnhau ymchwiliad i'r cwyn. Os oes, bydd Llywydd y Grŵp yn gofyn i'r Prif Weithredwr gynnal ymchwiliad a datrys y cwyn.
- Dylai'r Prif Weithredwr, neu enwebai wedi'i ddirprwyo ganddynt, wedyn ymchwilio i'r cwyn, gan gynnwys gwneud ymdrechion i ymgynghori â phob unigolyn perthnasol. Gall y Prif Weithredwr gymryd y camau canlynol:
- Dim gweithredu pellach
- Rhybuddio'r aelod (neu'r grŵp) ynglŷn â gweithredu yn y dyfodol
- Gwahardd yr aelod rhag gweithgareddau'r UM am gyfnod hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd
- Gwahardd grŵp rhag rhedeg gweithgaredd arbennig am gyfnod hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd
- Dal yn ôl cymorth cyllidol a gweinyddol ar gyfer gweithgaredd
- Cyfeirio'r mater at Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ar gyfer ystyriaeth
- Cyfeirio'r mater at y Brifysgol ar gyfer ystyriaeth
- Pe caiff y mater ei gyfeirio at Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ar gyfer ystyriaeth, yna dilynir y weithdrefn a amlinellir dan Is-ddeddf 12.4.2 (Gweithdrefn Cwynion, Cyfarfod Adolygu) er mwyn sicrhau proses deilwng. Bydd pob opsiwn a ddisgrifir yn Is-ddeddf 12.6.2.2 yn parhau i fod ar gael. Yn ogystal â hyn, gall Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wneud y canlynol:
- Gwahardd yr aelod rhag gweithgareddau'r UM am gyfnod amhenodol
- Gwahardd yr aelod yn barhaol o'r UM
- Yn dilyn y penderfyniad, dylid hysbysu'r achwynydd a'r sawl y gwnaed y cwyn yn ei erbyn o'r hyn a benderfynwyd gan Lywydd y Grŵp.
- Os ydynt yn anfodlon â'r canlyniad, gall testun y weithred ddisgyblu a'r achwynydd apelio, gan ddilyn y broses a amlinellir yn Is-ddeddf 12.5.1 (Apêl).