Wythnos Sgiliau: Datblygwch Eich Sgiliau

Mae’r Wythnos Sgiliau’n cynnig gweithdai, sesiynau hyfforddiant a thrafodaethau craff, wedi’u cynllunio i hybu eich cyflogadwyedd. Ymunwch â ni ar gyfer sesiynau cynyddu sgiliau sy’n cyfoethogi eich profiadau ac sy’n hwyl.

Yn ogystal, gallwch fanteisio ar gael lluniau o ansawdd uchel wedi’u tynnu gan ffotograffydd proffesiynol y gallwch chi eu defnyddio ar gyfer eich proffiliau proffesiynol, gan gynnwys Linkedin. Mae’n wythnos hamddenol ond buddiol, sy’n canolbwyntio ar eich twf a’ch llwyddiant yn y dyfodol.

Ydych chi eisiau archebu lle? Cliciwch ar y gweithdy yr hoffech ei fynychu isod a chliciwch ar y botwm 'Archebu Nawr'.

Oes gennych chi gwestiynau am yr Wythnos Sgiliau? Estynnwch allan at y Tîm Cyfleoedd Myfyrwyr ar suopportunities@uwtsd.ac.uk


Cwestiynau Cyffredin

Faint fydd y gost?  
Mae sesiynau Wythnos Sgiliau am ddim ac rydym hefyd yn darparu byrbrydau ar gyfer sesiynau sy'n digwydd yn ystod yr awr ginio!

Oes angen i mi fynychu'r wythnos gyfan?  
Rydych chi'n rhydd i ddewis y sesiynau rydych chi am eu mynychu; nid oes rhaid i chi fynd i bob un ohonynt.

Sut mae cofrestru?  
Chwiliwch am sesiwn y mae gennych ddiddordeb ynddi o'r rhestr ddigwyddiadau isod ac archebwch eich lle.

Pwy sy'n trefnu'r digwyddiadau? 
Trefnir Wythnos Sgiliau gan Undeb y Myfyrwyr.

Oes gennych chi gwestiynau neu syniadau am sesiynau Wythnos Sgiliau yr hoffech chi eu gweld?
Anfonwch e-bost at Dîm Cyfleoedd yr UM SUOpportunities@uwtsd.ac.uk a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.