Dyma beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud
Cwestiynau Cyffredin
Faint fydd y gost?
Mae'r rhan fwyaf o’r digwyddiadau am ddim, ond mae’n bosib y bydd angen taliad unwaith-ac-am-byth i gymryd rhan mewn rhai digwyddiadau.
Sut mae cofrestru?
Dewch o hyd i ddigwyddiad y mae gennych ddiddordeb ynddo ac archebwch eich lle.
Pwy sy'n trefnu'r digwyddiadau?
Trefnir rhai digwyddiadau gan Undeb y Myfyrwyr, ac mae rhai’n cael eu cynnal gan ein Clybiau Chwaraeon a'n Cymdeithasau.
A fydd angen i mi ddod ag unrhyw beth gyda fi?
Efallai. Bydd yr holl fanylion, gan gynnwys unrhyw beth y mae angen i chi ddod gyda chi, i’w gweld ar y dudalen ddigwyddiadau.

















