Buddugoliaethau

Buddugoliaeth i Fyfyrwyr!

Straeon am lwyddiant dan arweiniad myfyrwyr yw’r buddugoliaethau hyn, hanes gwaith caled a dygnwch ein llywyddion, swyddogion rhan-amser, clybiau a chymdeithasau, a’r myfyrwyr sy’n aelodau.

Bwriad yr holl fuddugoliaethau hyn yw gwneud pethau’n well - o'ch profiad o fod yn fyfyriwr a'ch bywyd ar y campws i'n cymunedau a'n hamgylchedd - Mae "Buddugoliaeth i Fyfyrwyr!" yn ymgyrch ymwybyddiaeth i sicrhau nad oes unrhyw fuddugoliaeth yn cael ei hanwybyddu - waeth pa mor fawr neu fach ydyn nhw. 

Myfyrwyr + Undeb y Myfyrwyr = Pethau Gwych

Mewn partneriaeth â'ch Undeb Myfyrwyr. Myfyrwyr oedd y grym y tu ôl i'r cyflawniadau hyn, a nhw oedd wrth y llyw yn y newidiadau hyn. Fel eich Undeb Myfyrwyr, rydym yn falch o ddweud ein bod wedi gweithio mewn partneriaeth â nhw, gan gynnig help llaw ac arweiniad ar hyd y ffordd.

Dim ond cipolwg o’r uchafbwyntiau yw'r dudalen hon - edrychwch ar ein Hadroddiadau Effaith am fanylion yr hyn rydym wedi’i gyflawni o flwyddyn i flwyddyn. Ond nid ni yw testun y stori hon - mae'n ymwneud â'n myfyrwyr. Gallwch ddarganfod yr hyn mae ein myfyrwyr wedi’i gyflawni dros y blynyddoedd isod.