Llywodraethiant

Mae Undeb y Myfyrwyr yn gwmni elusennol. Mae dwy ffordd gyffredinol y cawn ein harwain: yn gyntaf trwy ddemocratiaeth yr undeb sy'n gwneud penderfyniadau gwleidyddol, ac yn ail trwy lywodraethiant yr undeb. Mae llywodraethiant yn canolbwyntio ar sut mae'r elusen yn cael ei rhedeg; mae democratiaeth yn canolbwyntio ar sut rydyn ni'n cynrychioli'ch buddiannau.

Cynllun Strategol

Mae’r Cynllun Strategol yn gosod ein cyfeiriad ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae'n seiliedig ar adborth gan fyfyrwyr a rhanddeiliaid. Mae'n rhoi targedau i ni eu cyflawni er mwyn gwella profiad myfyrwyr yn PCyDDS.

Memorandwm ac Erthyglau Cydgysylltiad

Mae hon yn ddogfen gyfreithiol sy'n egluro rôl undeb y myfyrwyr a'i bwerau. Fe’i hadolygwyd a'i ddiweddaru yn 2021; bydd y fersiwn sydd wedi’i chymeradwyo’n cael ei huwchlwytho'n fuan. I ddiwygio'r ddogfen gyfreithiol hon, mae yna broses fel y'i nodir yn yr ychydig dudalennau cyntaf sy'n cynnwys Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Cyngor y Brifysgol, corff democrataidd yr Undeb, a Chyfarfod Cyfraith Cwmnïau.

Is-ddeddfau

Mae ein his-ddeddfau yn rhoi fframwaith i ni ar gyfer sut i weithredu’r Memorandwm ac Erthyglau Cydgysylltiad. Meddyliwch amdanynt fel pecyn cymorth sydd â’r nod o ddarparu strwythur. Gellir eu diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a chorff democrataidd yr Undeb ar y cyd.

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn cyfarfod yn rheolaidd. Mae'n goruchwylio cyfeiriad strategol undeb y myfyrwyr ac yn sicrhau bod yr elusen yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol.


Ymaelodaethau

Ymaelodaeth yw ble mae undeb y myfyrwyr yn ffurfio cysylltiad â sefydliad arall i ddarparu gwasanaeth i boblogaeth y myfyrwyr. Adolygir yr ymaelodaethau hyn yn flynyddol gan fyfyrwyr trwy'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Mae undeb y myfyrwyr wedi ymaelodi â dau sefydliad, sef UCM a BUCS.

UCM - Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr

Mae undeb y myfyrwyr yn perthyn i UCM y DU ac Elusen UCM. UCM y DU yw'r corff cydnabyddedig ar gyfer myfyrwyr ledled y DU; mae'n fudiad ymgyrchu sydd â’r amcan o geisio amddiffyn ac ymestyn hawliau myfyrwyr. Mae Elusen UCM yn elusen sy'n rhoi cymorth yn uniongyrchol i undebau myfyrwyr. Mae aelodaeth o Wasanaethau UCM Cyf. hefyd yn rhan o'n perthynas ag UCM y DU, sy'n golygu y gallwn brynu nwyddau’n foesegol ac fel rhan o gonsortiwm undebau myfyrwyr (a mudiadau eraill sy'n ymuno â'r consortiwm). Gallwch ganfod mwy am UCM ar eu gwefan.

BUCS - Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain

Rydym yn aelodau o BUCS, sy'n golygu bod ein myfyrwyr yn cael cyfle i chwarae yn erbyn prifysgolion eraill. Mae'n un o'r cyrff cenedlaethol sy'n ymwneud â chymorth i fyfyrwyr. Gallwch ganfod mwy am BUCS ar eu gwefan.

Mae undeb y myfyrwyr hefyd yn aelod o AdviceUK. Mae AdviceUK yn darparu system gyfrinachol ar gyfer rheoli achosion cynghori undeb y myfyrwyr, Yswiriant Indemniad Proffesiynol, a mynediad at rwydwaith o gefnogaeth i'n cynghorwyr. 
 

 


Cydymffurfiaeth

Mae’n bosib y bydd gennych ddiddordeb yn y modd yr ydym yn cydymffurfio â deddfwriaeth benodol

Deddf Elusennau 2006

Mae Undebau Myfyrwyr bellach yn elusennau, sy'n golygu ein bod wedi cofrestru â'r Comisiwn Elusennau (rheolydd elusennau yng Nghymru a Lloegr). Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol:

  • Mae angen i nifer yr ymddiriedolwyr 'cyflogedig' fod yn y lleiafrif. Cyfansoddiad presennol y Bwrdd yw: 4 Swyddog Sabothol (Ymddiriedolwyr ‘cyflogedig’), 4 Ymddiriedolwr sy'n Fyfyrwyr, a 5 Ymddiriedolwr Allanol;
  • Mae angen i ni gyhoeddi Adroddiad Blynyddol yn y fformat rhagnodedig ar gyfer Elusennau.
  • Pan fyddwn yn ymgymryd â'n gweithgareddau, rhaid iddynt fod yn elusennol (h.y. bod o fudd cyhoeddus; disgrifir ein budd cyhoeddus yn ein Dogfen Lywodraethu 'Memorandwm ac Erthyglau Cydgysylltiad')
  • Rhaid i ni hefyd gyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyllidol ar wefan y Comisiwn Elusennau (rydym hefyd yn cyhoeddi’r wybodaeth yma ar ein gwefan)
  • Cedwir cyllid Grwpiau Myfyrwyr (clybiau a chymdeithasau) mewn cyfrif banc ar wahân

Deddf Addysg 1994

Yn fuan, byddwch chi'n gallu gweld ein cydymffurfiaeth lawn mewn tabl hyfryd.

Deddf Cwmnïau 2006

Rydym yn gwmni elusennol. Golyga hyn yn ymarferol nad oes gennym gyfranddalwyr. Mae popeth yn 'eiddo' i aelodau undeb y myfyrwyr (sef y myfyrwyr).

 


Dogfennau

Dyma rai dogfennau sy'n rhoi mewnwelediad i'n sefyllfa gyllidol, yn ogystal â'n perthynas â'r brifysgol.

Datganiadau Ariannol 2019 - 2020

Cytundeb Cydberthynas

Siarter Myfyrwyr

Cod Ymarfer ar gyfer Undeb y Myfyrwyr