As both a registered charity and a company, we must comply with certain legislation. Below we've outline key requirements, outlined how we comply, and provided additional resources.
Deddf Elusennau 2006
Mae Undebau Myfyrwyr bellach yn elusennau, sy'n golygu ein bod wedi cofrestru â'r Comisiwn Elusennau (rheolydd elusennau yng Nghymru a Lloegr). Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol:
- Mae angen i nifer yr ymddiriedolwyr 'cyflogedig' fod yn y lleiafrif. Cyfansoddiad presennol y Bwrdd yw: 4 Swyddog Sabothol (Ymddiriedolwyr ‘cyflogedig’), 4 Ymddiriedolwr sy'n Fyfyrwyr, a 5 Ymddiriedolwr Allanol;
- Mae angen i ni gyhoeddi Adroddiad Blynyddol yn y fformat rhagnodedig ar gyfer Elusennau.
- Pan fyddwn yn ymgymryd â'n gweithgareddau, rhaid iddynt fod yn elusennol (h.y. bod o fudd cyhoeddus; disgrifir ein budd cyhoeddus yn ein Dogfen Lywodraethu 'Memorandwm ac Erthyglau Cydgysylltiad')
- Rhaid i ni hefyd gyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyllidol ar wefan y Comisiwn Elusennau (rydym hefyd yn cyhoeddi’r wybodaeth yma ar ein gwefan)
- Cedwir cyllid Grwpiau Myfyrwyr (clybiau a chymdeithasau) mewn cyfrif banc ar wahân
Deddf Cwmnïau 2006
Rydym yn gwmni elusennol. Golyga hyn yn ymarferol nad oes gennym gyfranddalwyr. Mae popeth yn 'eiddo' i aelodau undeb y myfyrwyr (sef y myfyrwyr).
Deddf Addysg 1994
Rydyn ni wedi creu dogfen gynhwysfawr sy'n ymchwilio'n fanwl i'n cydymffurfiaeth â Deddf Addysg 1994.