Cynghorau a Chyfarfodydd

Pwyllgor Gwaith

Mae’r Pwyllgor Gwaith yn gyfrifol am faterion o ddydd-i-ddydd, ac mae’r aelodaeth yn cynnwys swyddogion llawn-amser a’r uwch reolwyr. Mae'n cwrdd yn fisol i oruchwylio materion y sefydliad o ddydd-i-ddydd, cymeradwyo ceisiadau gan glybiau a chymdeithasau, yn ogystal â chydlynu gwaith Undeb y Myfyrwyr.

Mwy am y Pwyllgor Gwaith

 

Cyngor Campws

Mae'r cynghorau hyn yn trafod materion campws ac yn cynnwys ein Swyddogion Llawn-amser, Swyddogion Rhan-amser, Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr a Myfyrwyr Ymddiriedolwyr. Mae croeso i'n holl fyfyrwyr fynychu'r cyfarfod. Dyma ble gall corff y myfyrwyr siarad am faterion sy'n effeithio arnyn nhw, cwrdd â'u swyddogion etholedig, a chymeradwyo neu wrthod unrhyw syniadau a gyflwynwyd gan fyfyrwyr.

Mwy am Gyngor y Campws

 

Cyngor yr Undeb

Cyngor yr Undeb yw lle caiff syniadau, ymgyrchoedd a pholisïau sy'n effeithio ar fyfyrwyr oll eu trafod; dyma hefyd lle caiff penderfyniadau eu gwneud ar ran Undeb y Myfyrwyr yn ei gyfanrwydd. Mae'n cynnwys 5 cynrychiolydd a etholir o blith pob Cyngor Campws a'r Swyddogion llawn-amser. Caiff ei gadeirio gan Gadeirydd Cyngor Undeb y Myfyrwyr, a etholir yn ystod etholiadau blynyddol yr UM. 

Mwy am Gyngor yr Undeb

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Mae hwn yn gyfarfod pwysig i ni, ac mae'n digwydd unwaith y flwyddyn.  Bydd cyfle i chi adolygu ein gweithgareddau, holi'r swyddogion yn uniongyrchol a rhannu'ch syniadau o ran sut gallwn ni eu gwella. Byddwn ni'n cyflwyno'n cyfrifon ariannol blynyddol ac yn rhoi cyfle i chi gymeradwyo’r mudiadau hynny rydym yn ymaelodi â nhw. Byddwn ni'n rhannu ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, rhoi gwybod i chi am ddyddiadau allweddol, a gofyn i chi am eich syniadau.

Mwy am y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol