Mae ein Gwasanaeth Cynghori am ddim; mae’n annibynnol ac yn gyfrinachol. Ein nod yw eich grymuso i wneud y penderfyniadau sy'n iawn i chi trwy eich helpu gyda phrosesau brifysgol, ynghyd â dod o hyd i'r gefnogaeth gywir.
Rydym yn arbenigo mewn darparu cyngor academaidd a chymorth ar gyfer Amgylchiadau Esgusodol ac Ymyrraeth ar Astudiaethau, Graddau ac Apeliadau Academaidd, Codi Pryderon a Chwynion, yn ogystal â Chamymddwyn Academaidd, Addasrwydd i Ymarfer, Camymddwyn Anacademaidd a Chymorth i Astudio.
Mynnu cyngor
Mae'r tîm cynghori ar gael rhwng 09:00 a 17:00, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Er mwyn ein helpu ni i'ch helpu cyn gynted â phosibl, dylech gwblhau ein ffurflen ymholiadau ar-lein am gyngor neu gallwch anfon e-bost at y Tîm Cynghori yn unionadvice@uwtsd.ac.uk.
Rhif Ffôn: 01792 482101
Hyb Cyngor Academaidd
Mae ein gwasanaeth cynghori’n arbenigo mewn darparu cyngor a chymorth academaidd, ac isod mae ein Hyb Cyngor Academaidd, sy’n rhoi mynediad hawdd i chi at wybodaeth fanwl ac adnoddau defnyddiol.
Y Tu Hwnt i Gyngor Academaidd
Angen ychydig o help o hyd?
Rydyn ni yma i chi - os nad ydych chi wedi gallu dod o hyd i'r ateb rydych chi'n chwilio amdano neu angen ychydig mwy o help, anfonwch neges i'n Tîm Cynghori yn unionadvice@uwtsd.ac.uk.
Dewch i Gwrdd â'r Tîm Cyngor
Dyma nhw'r bobl sy'n perthyn i'ch Tîm Cyngor - gallwch gysylltu â nhw trwy e-bost yn unionadvice@uwtsd.ac.uk a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu'n ôl â chi.

Sophie Kitsell
Rheolwr Cynghori Myfyrwyr

Alice McGovern
Ymgynghorydd Myfyrwyr

Sydney Radford
Ymgynghorydd Myfyrwyr
Rhannwch eich adborth
Ydych chi wedi defnyddio ein gwasanaeth cynghori? Bydden ni wrth ein bod clywed eich adborth. Defnyddiwch y ddolen isod i fynd i'n ffurflen adborth a dwedwch wrthon ni ynghylch eich profiadau, fel y gallwn ni wneud ein gwasanaeth y gorau y gall fod.