Disgownt i Fyfyrwyr

Text reads "Look After Yourself for Less with TOTUM - Start Saving Today"

Rydyn ni eisiau helpu i wneud i'ch arian fynd ymhellach - felly rydyn ni'n gweithio gyda TOTUM i gynnig gostyngiadau sy’n unigryw i fyfyrwyr i chi. Gallwch gael mynediad at fwy na 400 o ostyngiadau ar-lein ac mewn siopau ar gyfer brandiau fel Apple, Samsung, ASOS ac Amazon gyda TOTUM. 

Pecynnau ar gyfer Myfyrwyr, Prentisiaid, a Phroffesiynwyr

Mae yna ystod o becynnau ar gyfer myfyrwyr, prentisiaid a’r rhai sydd wedi graddio’n ddiweddar - mae rhai am ddim, eraill sydd angen talu amdanynt (yn dechrau ar £14.99), a gallwch chi eu huwchraddio nhw i gyd hefyd. Ewch i wefan TOTUM i weld pa ostyngiadau sydd ar gael a pha becyn sy'n iawn i chi.  

Mynnwch Eich Gostyngiad

Cerdyn Adnabyddiaeth Myfyriwr Rhyngwladol (ISIC)

Mae cofrestru ar gyfer y TOTUM Student+ yn rhoi mynediad i ISIC am 12 mis i chi - ffordd hawdd o brofi eich statws myfyriwr yn rhyngwladol a chael mynediad at dros 150,000 o ostyngiadau mewn tua 130 o wledydd/tiriogaethau. Dysgwch fwy am y cerdyn ISIC ar wefan y Cerdyn Adnabyddiaeth Myfyriwr Rhyngwladol.

Mae TOTUM yn helpu i ariannu ein gwaith

Credwn mai gonestrwydd yw’r polisi gorau – bob tro y bydd un o’n haelodau’n cofrestru ar gyfer pecyn TOTUM taledig, rydym yn derbyn comisiwn bach sy’n helpu i ariannu ein gwaith.