Disgownt, Nwyddau, Lleoliadau

Disgownt, Nwyddau, Lleoliadau

Gostyngiadau a Chynigion: Rydyn ni wedi partneru â busnesau i'ch helpu chi i gael gafael ar filoedd o ddisgowntiau. O ostyngiadau ar fyw o ddydd i ddydd, yswiriant a biliau, technoleg a theithio, yn ogystal â chynigion ar lety a bwyd. Fel myfyriwr yn PCyDDS, gallwch fwrw golwg ar y gostyngiadau a chynigion sydd ar gael i chi isod.

Hwdis a Nwyddau: Mae gennym ni siop ar-lein lle gallwch chi brynu hwdis a nwyddau. Mae’n nhw’n edrych yn dda, ac mae’r elw o’u gwerthu’n cael ei ail-fuddsoddi i gynorthwyo â’n gwaith.

Lleoliadau: Ni sy’n rhedeg y lleoliad cymdeithasol ar y campws, y bar a’r clwb ar gampws Caerfyrddin. Wedi’u lleoli yn adeilad yr UM, mae’n nhw’n lle perffaith i ymlacio’r tu allan i ddarlithoedd, dal i fyny â ffrindiau a mynychu ein nosweithiau myfyrwyr.