Dechreuwch yrfa werth chweil sy'n helpu myfyrwyr PCyDDS i wneud y gorau o'u hamser yn y brifysgol, neu dewch o hyd i waith rhan-amser fel myfyriwr yn gweithio yn eich Undeb Myfyrwyr.
Rydyn ni'n fach ond yn nerthol! Byddwch chi'n adnabod enwau pawb sy'n gweithio yma. Byddwch yn dod yn rhan o dîm sy'n barod i gyflawni unrhyw beth gyda'ch gilydd. Yn Undeb Myfyrwyr PCyDDS, mae pob diwrnod yn wahanol, a byddwch chi'n rhan o rywbeth mwy.
🏖️ Gwyliau Blynyddol Hael. Mwy na 40 diwrnod o wyliau bob blwyddyn. Mae hynny’n cynnwys 28 diwrnod o Wyliau Blynyddol, 8 Gŵyl Banc, ynghyd â diwrnodau pan fydd yr Undeb ar gau (sy'n cynnwys pythefnos i ffwrdd dros wyliau'r Nadolig).
📚 Hyfforddiant a Datblygiad. Byddwn yn darparu staff yng Nghymru â chymhwyster rheolaeth ILM am ddim, yn ogystal â chyfleoedd datblygiad proffesiynol eraill.
💻 Gweithio Hybrid. Rydym yn agored i weithio hyblyg; gydag agwedd hybrid tuag at weithio o bell ac ar y campws lle bo hynny'n bosibl.
💜 Cymorth a Llesiant. Bydd gennych chi fynediad i Gynllun Cymorth y Gweithwyr i helpu â chynorthwyo eich iechyd meddwl a'ch llesiant.